Sut i aros yn ddiogel y Nadolig hwn.

P’un a ydych yn siopa neu’n cymdeithasu, yn chwarae gemau neu’n gwylio ffilm, yn mynd ar ddêt neu’n mwynhau ychydig ddyddiau i ffwrdd, mae’r we yn chwarae rhan yn ein Nadolig erbyn hyn.
Ond mae twyllwyr hefyd yn caru’r adeg hon o’r flwyddyn, gan fanteisio ar y ffaith ein bod yn brysur a ddim yn talu sylw o bosibl. Mae rhai hyd yn oed yn defnyddio AI i wneud eu gwaith yn haws ac yn fwy argyhoeddiadol. A dyma pam y mae’n hanfodol ein bod yn cymryd rhagofalon rhwydd i amddiffyn ein hunain, ein teuluoedd, ein harian a’n dyfeisiau rhag niwed ar lein.
12 awgrym ar gyfer y Nadolig
1. Prynu ar-lein
Dysgwch sut i adnabod arwyddion gwefannau ffug, tudalennau talu anniogel a nwyddau ffug. Peidiwch byth â thalu rhywun nad ydych yn ei adnabod drwy drosglwyddiad banc os nad ydych wedi gweld y nwyddau eich hun. Cyn i chi ymweld ag unrhyw wefan, gwiriwch a ydyw’n debygol o fod yn un gyfreithlon neu dwyllodrus ar www.getsafeonline.org/checkawebsite
2. Hysbysiadau dosbarthu
Byddwch yn wyliadwrus o negeseuon testun sy’n honni eu bod yn dod o gwmni parseli yn dweud wrthych eu bod yn codi ‘ffi ddosbarthu’. Os bydd gennych unrhyw amheuon, ffoniwch y cludwr neu’r manwerthwr ar rif y gwyddoch ei fod yn gywir i wirio a yw’r neges yn ddilys ai peidio.
3. Dyfeisiau symudol
Gwnewch yn siŵr eich bod yn diogelu eich ffonau symudol, eich llechi a’ch cyfrifiaduron sy’n gysylltiedig â’r we newydd neu ail law gan ddefnyddio ap/meddalwedd diogelwch dibynadwy. Ychwanegwch PIN neu god pas newydd ac unigryw cyn gynted ag y byddwch yn troi’r pŵer ymlaen. Sicrhewch y gwneir copïau wrth gefn o’ch holl ddogfennau a’ch lluniau yn awtomatig fel na fyddwch yn eu colli. Gwiriwch eich gosodiadau preifatrwydd a lleoliad ar ddyfeisiau newydd a rhai sydd gennych eisoes.
4. Dyfeisiau clyfar
Cofiwch osod cyfrineiriau newydd ac unigryw ar ddyfeisiau sy’n gysylltiedig â’r we fel cynorthwywyr llais, teclynnau, camerâu, teganau plant ac oriorau ffitrwydd cyn gynted ag y byddant wedi eu troi ymlaen. Gallai defnyddio’r cyfrineiriau a osodwyd yn y ffatri arwain at gael eich hacio. A chofiwch fod cynorthwywyr llais a seinyddion clyfar wedi’u dylunio i godi a deall yr hyn rydych yn ei ddweud. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am osod dyfeisiau cyswllt.
5. Diweddariadau
Lawrlwythwch y diweddariadau meddalwedd, apiau a systemau gweithredu ar eich holl ddyfeisiau cyn gynted ag y cewch hysbysiad. Os oes modd, dylech eu gosod i gael eu diweddaru’n awtomatig. Fel arall, gallent gael eu heintio gan faleiswedd, gan arwain at dwyll, dwyn hunaniaeth neu fusnesu.
6. Dyfeisiau ail-law
Ailosodwch y gosodiadau ffatri ar y ddyfais er mwyn dileu eich data os byddwch yn gwerthu neu’n rhoi cyfrifiadur, dyfais symudol neu gonsol fel rhodd. Dysgwch sut i wneud hyn ar wefan y gweithgynhyrchydd. Os byddwch wedi prynu neu wedi cael dyfais ail-law, cofiwch ddileu gosodiadau’r perchennog blaenorol a’r data os na fydd hyn eisoes wedi cael ei wneud.
7. Apiau symudol
Dylech ond lawrlwytho apiau newydd o ffynonellau cydnabyddedig fel App Store, Google Play neu Microsoft Store. Gall eu lawrlwytho o rywle arall arwain at dwyll neu ddwyn hunaniaeth.
8. Ar grwydr
Peidiwch â defnyddio llecynnau wi-fi mewn caffis, tafarndai, gwestai, ar drafnidiaeth gyhoeddus neu mewn mannau cyhoeddus eraill ar gyfer unrhyw bethau cyfrinachol gan ei fod yn bosibl nad ydynt yn ddiogel a gallant fod yn dwyllodrus.
9. Chwarae gemau
Ceisiwch osgoi pethau fel gemau wedi’u hatgynhyrchu’n anghyfreithlon, cael eich pryfocio gan chwaraewyr eraill (griefing), a gorwario mewn gêm. Cadwch gofnod o’r amser y byddwch chi’n ei dreulio ar-lein. Peidiwch â rhannu gormod o fanylion cyfrinachol mewn sgyrsiau. Cadwch lygad ar y gemau y mae eich plant yn eu chwarae, drwy wirio terfynau oedran PEGI y gemau a siarad â nhw am bwy y maent yn chwarae yn eu herbyn ac yn sgwrsio â nhw.
10. Rhannu gormod
Gwnewch yn siŵr bod yr hyn rydych yn ei rannu ar-lein yn barchus ac nad yw’n datgelu gwybodaeth sy’n gyfrinachol, yn sensitif neu’n peri cywilydd i chi eich hun neu eraill, gan gynnwys aelodau o’r teulu a ffrindiau. Os ydych i ffwrdd o gartref, cadwch hynny i chi’ch hun, am fod bwrgleriaid yn cadw golwg ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd.
11. Diogelu eich plant
Siaradwch â’ch plant ynglŷn â bod yn ddiogel a chyfrifol ar-lein, gan gynnwys yr hyn maent yn ei rannu, gyda phwy maen nhw’n siarad, a pha gynnwys maen nhw’n cael mynediad ato, gan gynnwys apiau a gemau. Ystyriwch lawrlwytho ap rheolaeth rhieni dibynadwy a defnyddio hidlyddion cynnwys ISP. Gwnewch yn siŵr nad ydynt yn gwario arian drwy brynu nodweddion mewn gemau neu mewn apiau.
12. Galwadau fideo
Gwnewch yn siŵr fod eich galwadau Nadolig yn ddiogel drwy ddefnyddio gwasanaeth sydd angen cyfrinair cryf, a pheidiwch â rhannu’r gwahoddiad i’r alwad na manylion am yr alwad ag unrhyw un heblaw’r person neu’r grŵp sy’n rhan o’r alwad.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i aros yn ddiogel y Nadolig hwn, ewch i www.getsafeonline.org
Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich twyllo, rhowch wybod i Action Fraud drwy ffonio 0300 123 20 40 neu drwy fynd i’r wefan www.actionfraud.police.uk
Nadolig

Ydych chi'n newydd i'r rhyngrwyd?
Byddwn yn eich helpu i aros ar-lein gyda diogelwch a hyder.

Chi, Coronavirus ac aros yn ddiogel ar-lein
Sut i gadw'n ddiogel ar-lein yn ystod pandemig Coronavirus.

Neighbourhood Alert
Cofrestrwch i dderbyn Rhybuddion Cymdogaeth.

Diogelu plant
Ydy'ch plant chi'n ddiogel gyda phopeth maen nhw'n ei wneud ar-lein?

Ffonau clyfar a thabledi
Mae'n fyd symudol. Cadwch hi'n ddiogel.

Cyfryngau cymdeithasol
Ydych chi'n ei ddefnyddio'n ddiogel ac yn gyfrifol?