English

Croeso i Get Safe Online

Our Partners & Supporters

Ein cenhadaeth

Ein cenhadaeth

Get Safe Online yw ffynhonnell fwyaf blaenllaw y DU ar gyfer gwybodaeth hawdd ei deall am ddiogelwch ar-lein.

Adnodd unigryw yw ein gwefan, sy'n cynnig cyngor ymarferol ar sut i ddiogelu eich hun, eich cyfrifiaduron a'ch dyfeisiau symudol yn ogystal â'ch busnes rhag twyll, dwyn hunaniaeth, feirysau a nifer o broblemau eraill y mae pobl yn eu hwynebu ar-lein. Mae'n cynnwys arweiniad ar lawer o bynciau cysylltiedig eraill hefyd – gan gynnwys sut i greu fersiynau wrth gefn o'ch ffeiliau a gwneud yn siŵr na chaiff eich cyfrifiaduron, ffonau clyfar na llechi eu dwyn. Ceir gwybodaeth am bob pwnc dan yr haul ar y safle – gan gynnwys siopa, chwarae gemau a charu ar-lein yn ddiogel ... er mwyn gwneud yn siŵr bod popeth a wnewch ar-lein yn ddiogel.

Get Safe Online ym Mhedwar Ban Byd.

Mae Get Safe Onlne yn gweithredu mewn 23 o wledydd ledled y byd. Mae gwefan Get Safe Online gan bob gwlad, wedi'i theilwra er mwyn darparu'r profiad gorau a mwyaf perthnasol i unigolion a busnesau. Mae cymuned o Genhadon ac Eiriolwyr Get Safe Online gan lawer o’r gwledydd, sy’n gweithio ar ein rhan.