English

Amdanom Ni

Get Safe Online yw ffynhonnell fwyaf blaenllaw y DU ar gyfer gwybodaeth hawdd ei deall am ddiogelwch ar-lein.

Adnodd unigryw yw ein gwefan, sy’n cynnig cyngor ymarferol ar sut i ddiogelu eich hun, eich cyfrifiaduron a’ch dyfeisiau symudol yn ogystal â’ch busnes rhag twyll, dwyn hunaniaeth, feirysau a nifer o broblemau eraill y mae pobl yn eu hwynebu ar-lein. Mae’n cynnwys arweiniad ar lawer o bynciau cysylltiedig eraill hefyd – gan gynnwys sut i greu fersiynau wrth gefn o’ch ffeiliau a gwneud yn siŵr na chaiff eich cyfrifiaduron, ffonau clyfar na llechi eu dwyn. Ceir gwybodaeth am bob pwnc dan yr haul ar y safle – gan gynnwys siopa, chwarae gemau a charu ar-lein yn ddiogel … er mwyn gwneud yn siŵr bod popeth a wnewch ar-lein yn ddiogel.

Mae’r wefan hon hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am newyddion, awgrymiadau a straeon o bedwar ban byd.

Fodd bynnag, mae Get Safe Online yn fwy na gwefan yn unig. Rydym hefyd yn trefnu digwyddiadau cenedlaethol – fel Wythnos Diogelwch Ar-lein – ac yn gweithio’n agos gydag asiantaethau gorfodi’r gyfraith a chyrff eraill i gefnogi eu gweithgarwch allgymorth, ymwybyddiaeth fewnol a diogelwch ar-lein cwsmeriaid.

Partneriaeth rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat yw Get Safe Online, ac fe’i cefnogir gan sefydliadau blaenllaw ym maes bancio, manwerthu, diogelwch y rhyngrwyd a sectorau eraill. Rydym hefyd wedi ein hardystio gan Cyber Essentials.

In Partnership With