English

Ydych chi’n gwybod beth mae eich plant yn ei wneud ar-lein? 

Ydych chi'n gwybod beth mae eich plant yn ei wneud ar-lein

Mae plant heddiw yn tyfu i fyny mewn byd sy’n gysylltiedig–ond nid yw hynny bob amser yn golygu eu bod yn gwybod sut i gadw’n ddiogel. Fel rhiant neu warcheidwad, gall eich arweiniad chi wneud byd o wahaniaeth. 

Dyma rai ffyrdd ymarferol i chi helpu eich plentyn i archwilio’r rhyngrwyd â hyder a gofal: 

  • Dechreuwch y sgwrs yn gynnar–a chadwch y sgwrs i fynd 
    Gofynnwch i’ch plentyn ddangos y gemau maent yn eu chwarae, y gwefannau maent yn eu defnyddio, neu’r fideos maent yn eu mwynhau. Siaradwch yn agored am risgiau cyffredin ar-lein fel rhannu gormod, cynnwys anaddas, seiberfwlio, a rhyngweithio â dieithriaid. Byddwch yn wybodus am y tueddiadau diweddaraf a dangoswch y ffordd drwy esiampl â’ch arferion digidol eich hunain. 
  • Dangoswch ffordd sy’n fwy diogel iddynt 
    Anogwch y defnydd o apiau a llwyfannau sy’n addas i blant, fel YouTube Kids. Gwiriwch yn rheolaidd beth mae eich plant yn ei wylio ac yn ei rannu, yn enwedig ar wefannau fel YouTube a TikTok. 
  • Dilynwch dueddiadau digidol–yn enwedig y rhai sy’n peri risg 
    Mae rhai gemau a llwyfannau cymdeithasol wedi codi pryderon am hyrwyddo trais, hapchwarae neu negeseua heb fonitro. Dewch i adnabod pa rai mae eich plentyn yn eu defnyddio a sut y maent yn gweithio. 
  • Peidiwch â diystyru’r effaith emosiynol 
    Gall y cyfryngau cymdeithasol ac apiau negeseuon fod yn bwerus–weithiau yn rhy bwerus. Helpwch eich plentyn i ddeall sut y gall profiadau ar-lein effeithio ar emosiynau, hunan-barch ac iechyd meddwl. 
  • Parchwch gyfyngiadau oedran–maent yn bodoli am reswm 
    Mae gan y rhan fwyaf o lwyfannau gyfyngiadau oedran i helpu i ddiogelu plant. Dilynwch y cyfyngiadau oedran a siaradwch â’ch plant am pam eu bod o bwys. 
  • Gosodwch reolau clir o’r dechrau 
    Cytunwch ar ffiniau gyda’ch gilydd: beth sy’n IAWN i’w wneud ar-lein, pa mor hir i dreulio ar ddyfeisiau, a sut i drin eraill â pharch. Mae angen strwythur a chymorth ar blant i wneud penderfyniadau call ar-lein. 
  • Gwnewch y mwyaf o adnoddau intergredig 
    Defnyddiwch reolaethau rhieni ar ddyfeisiadau, gemau, porwyr a llwyfannau cymdeithasol. Galluogwch osodiadau preifatrwydd, nodweddion chwilio’n ddiogel a hidlwyr teulu eich darparwr rhyngrwyd. Mae’r adnoddau hyn yn haen ychwanegol o ddiogelwch. 
  • Byddwch yn ofalus gyda galwadau fideo 
    Sicrhewch fod yr apiau yn cael eu diweddaru i’r fersiwn diweddaraf bob amser ac addaswch y gosodiadau i sicrhau bod galwadau yn breifat a diogel. Caniatewch gyfathrebu â phobl rydych yn ymddiried ynddynt yn unig. 
  • Siaradwch am fanteision ac anfanteision chwarae gemau ar-lein 
    Gall chwarae gemau ar-lein helpu plant i ddatblygu sgiliau creadigol a sgiliau datrys problemau–ond gall hefyd eu hamlygu i ddieithriaid, rhoi pwysau arnynt i wario arian, neu i ymddwyn mewn ffordd sy’n peri risg. Gwnewch amser i siarad am y gemau maent yn eu chwarae a sut maent yn eu defnyddio. 
  • Dysgwch iddynt feddwl yn feirniadol am gynnwys ar-lein 
    Helpwch eich plentyn i adnabod camwybodaeth, newyddion ffug a chynnwys wedi’i greu gan AI. Anogwch nhw i gwestiynu beth maent yn ei weld ac i beidio rhannu cynnwys sydd heb ei wirio. 
  • Cofiwch eu hatgoffa i feddwl cyn iddynt rannu 
    Manylion, lluniau a fideos personol–unwaith maent ar-lein, maent yn anodd eu dileu. Siaradwch â’ch plentyn am yr hyn sy’n briodol i’w bostio a sut i ddiogelu eu preifatrwydd eu hunain a phreifatrwydd eraill. 
  • Defnyddiwch ffynonellau rydych yn ymddiried ynddynt i gael apiau 
    Dylech ond lawrlwytho apiau o siopau swyddogol yn unig, fel Google Play neu App Store. Lle y bo’n bosibl, defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost eich hunain wrth greu cyfrifon ar gyfer eich plentyn.  
  • Byddwch yn wyliadwrus, nid trahaus 
    Cadwch lygad ar ymddygiad eich plentyn ar-lein a gwyliwch am arwyddion rhybudd. Yn anffodus, mae rhai pobl ifanc wedi cael eu targedu am fygythiadau difrifol ar-lein–o sgamiau a pherthynas amhriodol i gymryd rhan mewn gweithgarwch troseddol. 

#PlantDiogelaHapusArlein  

In Partnership With