English

Ystafelloedd sgwrsio

Mannau rhithwir ar y Rhyngrwyd yw ystafelloedd sgwrsio lle gall pobl ddod ynghyd a ‘siarad’ gan ddefnyddio testun. Mae rhai yn defnyddio rhaglenni penodol i fanteisio ar y cyfleuster a’i ddefnyddio, mae eraill wedi’u cynnwys mewn gwefannau, yn cynnwys safleoedd rhwydweithio cymdeithasol. Oherwydd presenoldeb cymuned ar-lein mor fawr o ddieithriaid dienw a’r trafodaethau na chânt eu hidlo na’u cymedroli, mae angen i chi fod yn ymwybodol o risgiau posibl defnyddio ystafelloedd sgwrsio, a sut i’w goresgyn.

Y risgiau

  • Dod ar draws sylwadau sy’n ymosodol, rhywiol, eithafol neu hiliol eu natur, neu weithgareddau sarhaus ac agweddau atgas.
  • Gall dieithriad y byddwch yn cwrdd â nhw mewn ystafelloedd sgwrsio fod yn seiber stelcwyr, neu efallai eu bod yn bwriadu eich bygwth neu aflonyddu arnoch, eich darbwyllo i newid eich ideolegau neu efallai bod ganddynt fwriadau rhywiol.
  • Gall oedolion ifanc a phlant gael eu denu i sgyrsiau amhriodol ag oedolion â bwriadau drwg.
  • Dod ar draws pobl sy’n mynegi safbwyntiau ac emosiynau cryf heb unrhyw reolaeth, a elwir yn ‘fflamio’ weithiau. Gall hyn wneud y profiad o sgwrsio yn amhleserus i bawb arall yn yr ystafell.
  • Cael eich twyllo gan bobl eraill yn yr ystafell sgwrsio i ddatgelu gwybodaeth bersonol neu ariannol, naill ai yn yr ystafell sgwrsio neu ar wefannau twyllodrus.

Sgwrsio’n Ddiogel

  • Byddwch yn ofalus pwy rydych yn ymddiried ynddynt ar-lein a chofiwch mai dieithriaid yw rhai ‘ffrindiau’ ar-lein mewn gwirionedd.
  • Cadwch eich gwybodaeth bersonol yn gyfrinachol wrth lunio eich proffil neu wrth sgwrsio ar-lein (enw, rhif ffôn, rhif ffôn symudol, cyfeiriad e-bost preifat, llun), hyd yn oed os bydd pobl yn gofyn amdano.
  • Cofiwch y gallwch bob amser allgofnodi er mwyn osgoi sefyllfaoedd annymunol, neu newid eich enw sgrin.
  • Cofiwch flocio pobl nad ydych am sgwrsio â nhw.
  • Meddyliwch cyn ateb negeseuon preifat.
  • Peidiwch â defnyddio eich enw go iawn – defnyddiwch ffugenw yn lle hynny (ond nid un a fydd yn denu’r math anghywir o sylw).
  • Gweithredwch os byddwch yn meddwl bod eich ffrindiau yn wynebu risg.
  • Dysgwch sut i gadw/arbed copi o’r sgwrs – gall hyn fod yn ddefnyddiol os byddwch am roi gwybod am rywbeth.
  • Rhowch wybod i ddarparwr yr ystafell sgwrsio am bobl sy’n torri’r rheolau.
  • Byddwch yn ofalus os byddwch yn cwrdd yn bersonol â rhywun rydych ond wedi bod yn cysylltu ag ef ar-lein. Dywedwch wrth aelod o’r teulu neu ffrind ac ystyriwch fynd â nhw gyda chi – o leiaf ar yr ymweliad cyntaf. Trefnwch eich bod yn cwrdd mewn lle cyhoeddus ac arhoswch yno. Dylech wneud yn siŵr bod gennych ffôn symudol gyda chi bob amser sydd wedi’i droi ymlaen. Cadwch yn sobor. Gofalwch am eich eiddo personol.

 

In Partnership With