English

Ysmygu

Mae gwe-rwydo SMS (smishing) yn gweithgarwch sy’n galluogi troseddwyr i ddwyn arian neu hunaniaeth dioddefwyr, neu’r ddau, o ganlyniad i ymateb i neges destun. Yn yr un modd â gwe-rwydo (phishing) sy’n defnyddio e-bost fel dull cychwynnol o gysylltu, a llais-rwydo (vishing), sy’n defnyddio galwadau ffôn, mae gwe-rwydo SMS (smishing) yn defnyddio eich ffôn symudol (naill ai ffôn clyfar neu ddyfais draddodiadol nad yw wedi’i chysylltu â’r rhyngrwyd). Fel y dulliau eraill y soniwyd amdanynt, mae’n twyllo pobl ddiniwed i gymryd camau gweithredu amrywiol sy’n golygu eu bod yn cael eu twyllo.

Y risgiau

Rydych yn cael neges destun dwyllodrus sy’n honni ei bod gan sefydliad neu unigolyn dibynadwy sy’n cael eu personadu gan droseddwyr, yn cynnwys y canlynol:

  • Eich banc, i’ch hysbysu bod ‘problem gyda’ch cyfrif’ fel gweithgarwch afreolaidd neu brinder arian.
  • Manwerthwr, sy’n cynnig ‘talebau’ neu ‘gardiau rhodd’.
  • Darparwr technoleg fel Apple neu Google, sy’n eich hysbysu bod ‘angen i chi ddilysu cyfrif’.
  • Cwmni dosbarthu parseli, sy’n eich hysbysu bod angen i chi ‘gadarnhau eich bod am i barsel gael ei ddosbarthu’.
  • CThEM, sy’n eich hysbysu ‘bod ad-daliad treth yn ddyledus i chi’.

Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr.

Yr hyn y mae gan bob neges gwe-rwydo SMS yn gyffredin yw:

  • Maent yn dweud wrthych am ymweld â gwefan neu wneud galwad ffôn i rif penodol.
  • Maent yn chwarae ar eich emosiynau a’ch anghenion dynol sylfaenol, fel ymddiriedaeth, diogelwch, ofn colli arian, cael rhywbeth am ddim, awydd i ddod o hyd i fargen neu ddyhead i ddod o hyd i gariad neu boblogrwydd/statws.
  • Fel arfer, maent yn nodi neu’n awgrymu bod angen i chi roi sylw brys i fater neu fanteisio ar gynnig.

Fel arfer, bydd gwefannau y byddwch yn ymweld â nhw drwy negeseuon gwe-rwydo SMS naill ai’n gofyn am fanylion cyfrinachol neu’n achosi i’ch dyfais symudol sydd wedi’i chysylltu â’r rhyngrwyd gael ei heintio â maleiswedd. Gall galwadau ffôn y byddwch yn eu gwneud mewn ymateb naill olygu y gwneir cais am fanylion cyfrinachol, neu byddant i rif cyfradd premiwm sy’n arwain at ychwanegu costau afresymol i’ch bil ffôn.

Sut i osgoi bod yn ddioddefwr gwe-rwydo SMS

  • Peidiwch â chlicio ar ddolenni mewn negeseuon testun oni fyddwch yn hollol siŵr eu bod yn ddilys ac yn llawn bwriadau da.
  • Cymerwch amser i ystyried eich gweithredoedd cyn ymateb i negeseuon testun.
  • Gofynnwch i’ch hun a fyddai’r anfonwr wir yn cysylltu â chi drwy’r neges destun hon pe bai’n ddilys.
  • Adnabod bygythiadau o faterion ariannol neu gynigion sy’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, am beth ydynt mewn gwirionedd.
  • Os ydych mewn amheuaeth, ffoniwch rif cywir y sefydliad neu’r unigolyn yr honnir y mae’r testun wedi’i anfon ganddo, er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn ddilys.
  • Cofiwch hyd yn oed os yw’n ymddangos bod y neges destun yn dod gan rywun rydych yn ymddiried ynddo, gallai rhywun fod wedi hacio neu ffugio ei rif.
  • Peidiwch ag ymateb i’r neges destun. Gallai gwneud hynny olygu bod eich manylion yn cael eu hychwanegu at restr o bobl y mae’n hawdd eu targedu a byddwch yn cael llu o negeseuon tebyg.
  • Deialwch 7726 (neu 87726 ar gyfer tanysgrifwyr Vodafone). Bydd hyn yn galluogi darparwr eich rhwydwaith ffôn symudol i gymryd camau gweithredu cynnar i flocio rhifau sy’n creu sbam – yn cynnwys negeseuon testun sgam – ar eu rhwydweithiau, a rhoi gwybod i’r rheoleiddwyr amdanynt.
  • Rhoi gwybod am negeseuon testun sbam yn uniongyrchol i ddarparwr eich ffôn symudol yn rhad ac am ddim drwy eu hanfon i 7726 o’r ddyfais y cânt eu derbyn arni.
  • Mae ‘Which’ hefyd yn gweithredu gwasanaeth adrodd ar-lein ar gyfer negeseuon testun sgam a galwadau ffôn, yma: www.which.co.uk/consumer-rights/advice/how-to-deal-with-sbam-text-messages .

Os ydych wedi colli arian o ganlyniad i neges destun gwe-rwydo SMS, neu drwy unrhyw weithgarwch twyllodrus arall

Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll, ar 0300 123 20 40  neu yn www.actionfraud.police.uk. 

 

 

In Partnership With