English

Yr Ymagwedd Orau

Ein cyngor ni, sy’n dilyn cyngor arbenigwyr ledled y byd, yw cymryd ymagwedd gytbwys tuag at ddiogelwch eich plentyn ar-lein. Os byddwch yn gwneud dim, mae’n debygol iawn y bydd eich plentyn yn mynd i drafferthion, a bydd ymagwedd lawdrwm yn ei wneud yn fwy penderfynol i wneud yn groes i’r hyn y byddwch chi’n ei ddweud (fel gyda’r rhan fwyaf o bethau mewn bywyd pan ddaw i blant!)

Bydd rhywfaint o fonitro a rheoli technolegol (meddalwedd i rieni) – wedi’i gydbwyso ag addysg ac arweiniad sy’n briodol i oedran drwy gydol eu plentyndod – yn dangos i’ch plant eich bod yn gofalu amdanynt ac yn cyfrannu at gadw eu bywydau digidol yn ddiogel a hapus.

Efallai bod eich plentyn yn fwy cyfarwydd â’r seiberofod na chi: gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwybod pa fathau o ddiddordebau ar-lein sydd gan blant o’r un oedran â’ch plant chi (heb fod angen busnesu). Gofynnwch iddynt ddangos i chi sut i wneud amrywiol bethau ar-lein. Dysgwch fwy am dechnoleg … mae’n ddifyr ac yn hwyliog. Fydd eich plant ddim yn meddwl eich bod chi’n ‘geek’. Yn hytrach byddant yn parchu’r ffaith eich bod wedi gwneud yr ymdrech i ‘ddal i fyny’ â nhw. Mae ymchwil fyd-eang a wnaed gan Norton yn dangos bod plant am i’w rhieni wybod mwy am y rhyngrwyd, ac maent yn barod iawn i siarad â’u rhieni amdano.

Ble i ddechrau

Mae chwilfrydedd a dyhead i gael mwy o annibyniaeth yn rhywbeth sy’n gyffredin i bob plentyn. Ar wahân i hyn, maent i gyd yn wahanol, wedi’u llywio gan eu cefndir, eu hamgylchiadau a llawer o ddylanwadau eraill. Felly, rydyn ni o’r farn mai’r ffordd orau i ni roi cyngor i chi ar helpu i gadw eich plant yn ddiogel ar-lein yw drwy wneud hynny yn dibynnu’n fras ar eu hoedran, heb anghofio nad oes neb yn adnabod eich plentyn yn well na chi.

Dechreuwch gyda chyngor arbenigol:

  1. Dylech arwain eich teulu yn y byd digidol yn yr un ffordd ag y byddwch yn gwneud hynny mewn bywyd bob dydd – yn cynnwys heb fod ofn gosod ffiniau a rheolau i’ch plant o oedran ifanc. Dyma rai cwestiynau y gallech eu gofyn iddynt ar y dechrau, yna eu codi drachefn wrth iddynt fynd yn hŷn a datblygu diddordebau a gweithgareddau newydd ar-lein. Defnyddiwch nhw fel sail dystiolaeth:
    • Beth mae dy ffrindiau yn ei wneud ar-lein?
    • Beth yw’r gwefannau ac apiau gorau a mwyaf newydd?
    • Elli di ddangos pa rai yw dy ffefrynnau?
    • Wyt ti’n gwybod beth yw seiberfwlio, ac wyt ti erioed wedi’i brofi mewn unrhyw ffordd? Neu a oes unrhyw rai o dy ffrindiau?
    • A oes unrhyw beth rwyt ti wedi’i weld ar-lein erioed wedi gwneud i ti deimlo’n rhyfedd, yn drist neu’n anghyfforddus?

2. Rhowch gynnig ar rai o’r technolegau y mae eich plentyn yn eu mwynhau eich hun. Gallech ofyn iddo helpu i’ch sefydlu ar Facebook (os nad oes gennych dudalen eisoes), neu’n chwarae ar y consol gemau gyda’ch gilydd.

3. Trafodwch â’ch ffrindiau, eich teulu a rhieni eraill am y ffordd y maen nhw’n helpu eu plant i ddatblygu ac aros yn ddiogel yn y byd digidol. Efallai y gallech gyfnewid awgrymiadau diddorol a’u helpu nhw hyd yn oed.

4. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i ddefnyddio rheolyddion i rieni ar gyfrifiaduron, ffonau symudol a chonsolau gemau, nodweddion preifatrwydd ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, a’r opsiynau diogelwch ar Google a pheiriannau chwilio eraill.

5. Dysgwch am y feddalwedd y gallwch ei phrynu neu ei lawrlwytho i gadw plant yn ddiogel ar-lein, er enghraifft Norton Family, sy’n eich helpu i fonitro gweithgarwch ar y we ac atal plant rhag ceisio dileu achosion o ymweld â gwefannau o’u hanes.

6. Wedi dweud hynny, ceisiwch beidio â dibynnu’n llwyr ar dechnoleg i warchod eich plentyn ar-lein. Dylech ei defnyddio i bennu cyfyngiadau.

7. Wrth i’ch plant dyfu, gwnewch yn siŵr eu bod yn ymwybodol o ‘hanfodion’ diogelwch ar-lein fel peidio â chlicio ar ddolenni mewn negeseuon e-bost neu negeseuon uniongyrchol, arferion da o ran cyfrineiriau a pheidio â diffodd rhaglenni gwrthfeirysol a waliau tân.

8. Siaradwch â’ch plant yn rheolaidd am eu bywydau nhw a’ch bywyd chi ar-lein. Dangoswch iddyn nhw eich bod yn deall pa mor bwysig yw technoleg iddyn nhw a siaradwch am ei holl fanteision, ond peidiwch â bod yn nerfus ynghylch pethau fel ymddygiad cyfrifol ar-lein, bwlio a phornograffi.

9. Weithiau, fel rhieni, mae’n rhaid i ni gymryd cam yn ôl a chofio pa mor ifanc neu hen yw ein plant a beth yw’r ‘peth cywir’ ar gyfer plant o’r oedran hwn.

 

See Also...

In Partnership With