English

Y Rhyngrwyd Pethau

Mae rhyngrwyd pethau (wedi’i dalfyrru i IOT) yn derm a ddefnyddir yn gyffredin i ddisgrifio gwrthrychau ffisegol sydd wedi’u cysylltu â’r rhyngrwyd, ond nad ydynt yn rhai traddodiadol o ran y ffaith nad ydynt yn gyfrifiaduron, yn llechi nac yn ffonau symudol. Yn hytrach na bod yn ddyfeisiau a ddefnyddir ar gyfer cyfathrebu neu lawrlwytho traddodiadol, maent yn wrthrychau bob dydd sydd â systemau gweithredu wedi’u gosod sy’n defnyddio’r rhyngrwyd i dderbyn rheolaethau gan eu perchnogion neu drydydd partïon fel eu gweithgynhyrchwyr neu ddarparwyr cyfleusterau ac yn rhoi data ar y defnydd a wneir ohonynt iddynt.

Ar gyfer unigolion a busnesau bach preifat, mae’r gwrthrychau hyn yn cynnwys camerâu IP a ddefnyddir ar gyfer diogelwch, goruchwyliaeth a monitro babanod, rheolyddion gwres canolog, setiau teledu cysylltiedig / blychau ar gyfer setiau teledu, dyfeisiau adloniant aml-ystafell, nwyddau trydanol ‘clyfar’ (o oergelloedd i gloriannau ystafell ymolchi i oleuadau y gellir eu pylu a’u rhaglennu) a cherbydau modur yn gynyddol. Mae pob un ohonynt yn defnyddio’r rhyngrwyd mwyfwy i hysbysu am statws neu berfformiad, neu wella effeithlonrwydd, mewn amser gwirioneddol. Mae sawl un – sydd wedi’u cysylltu â’r rhyngrwyd drwy lwybrydd Wi-Fi y cartref neu’r busnes, yn galluogi eu perchnogion i fonitro a rheoli eu gweithrediadau o bell drwy eu ffôn symudol neu ddyfais arall.

Mae sefydliadau mwy o faint, cyfleusterau gweithgynhyrchu, gweithfeydd cynhyrchu pŵer, gridiau ynni, cyfleusterau gofal iechyd a systemau cludo yn dod yn fwyfwy cysylltiedig yn yr un modd, gan roi cysylltiad bob awr o’r dydd i bawb, o’r rheolwr prosesau i’r Prif Swyddog Gweithredu, lle bynnag y bônt yn y byd.

Y risgiau

Fodd bynnag, am fod y gwrthrychau hyn wedi’u cysylltu â’r rhyngrwyd, yn union fel cyfrifiaduron a dyfeisiau symudol, maent yn agored i ymyrraeth anawdurdodedig neu i gael eu hacio. Ond mae’r risg yn fwy mewn gwirionedd am nad yw llawer o bobl yn ystyried y gellir hacio’r gwrthrychau hyn.

Nid yw’n debygol y byddai unrhyw un am hacio eich oergell. Fodd bynnag, cafwyd sawl achos o gamerâu CCTV IP domestig a busnes yn cael eu hacio gyda’r bwriad o ysbïo ar weithgareddau a theuluoedd eu perchnogion, mewn rhai achosion gyda’r fideo dilynol yn cael ei ffrydio’n fyw i bawb ei gweld. Y risg yw y gallai rhywun eich gwylio chi ac aelodau o’ch teulu yn anghyfreithlon yn eich cartref eich hun.

P’un a ydynt yn cael mynediad i’ch camerâu neu eich eitemau domestig neu fusnes eraill, bydd preifatrwydd a chyfrinachedd eich cartref, busnes, teulu, cyflogeion a chwsmeriaid mewn perygl.

Diogelu eich ‘pethau’

Mae’n rhaid i bob eitem gysylltiedig y byddwch yn ei phrynu gael ei ffurfweddu er mwyn cysylltu â’ch llwybrydd, ac mae angen cyfrinair ar gyfer y rhan fwyaf ohonynt, sydd wedi’i osod ymlaen llaw yn y ffatri yn y rhan fwyaf o achosion. Rydym yn awgrymu y dylech:

  • Newid y cyfrinair diofyn i un sy’n anodd ei dorri/dyfalu ond y gallwch ei gofio. Cadw eich cyfrineiriau i chi’ch hun. Darllen ein cyngor ar gyfrineiriau yma.
  • Sicrhau bod eich Wi-Fi wedi’i ddiogelu i lefel WPA2 bob amser a pheidiwch â datgelu’r cod mynediad i bobl anawdurdoedig.
  • Darllen cyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd a dod yn gyfarwydd â nhw, yn enwedig o ran cysylltu â’r rhyngrwyd. Os nad oes rhywbeth yn glir, cysylltwch â’r gweithgynhyrchydd.

In Partnership With