English

Twyll Yswiriant Modur (brocer ysbryd)

Bydd twyll yswiriant modur, a elwir hefyd yn ‘rhith frocera’, yn digwydd pan fydd grwpiau neu unigolion sy’n cyflawni troseddau cyfundrefnol yn esgus bod yn froceriaid yswiriant go iawn er mwyn cyflawni twyll.

Bydd twyll yswiriant modur, a elwir hefyd yn ‘rhith frocera’, yn digwydd pan fydd grwpiau neu unigolion sy’n cyflawni troseddau cyfundrefnol yn esgus bod yn froceriaid yswiriant go iawn er mwyn cyflawni twyll.

Byddant yn eich twyllo i brynu yswiriant modur ac mewn sawl achos, byddant yn prynu’r yswiriant gan gwmnïau yswiriant dilys ar eich rhan. Fodd bynnag, nid ydynt wedi’u hawdurdodi i ymgymryd â busnes yswiriant, ac yn aml ni fydd y polisi yn ddilys. Bydd y troseddwr yn cadw eich taliad premiwm, ond ni fyddwch wedi cael eich yswirio, gyda’r canlyniadau cysylltiedig. Yn aml, bydd rhith froceriaid yn creu dogfennau polisi argyhoeddiadol ond ffug er mwyn gwneud y sgam yn fwy realistig.

Y risgiau

  • Bydd rhywun yn cysylltu â chi yn bersonol, drwy bost ar y cyfryngau cymdeithasol, hysbyseb ar-lein (yn cynnwys hysbyseb ar gyfer modur ar safle prynu a gwerthu), taflen drwy’r drws neu lythyr, gyda chynnig o ‘yswiriant modur rhad’. Os byddwch yn ymwybodol bod y polisi yn ffug ar yr adeg y byddwch yn ei brynu, a’ch bod yn cael eich dal yn gyrru cerbyd heb ei yswirio:
    • Gallech gael dirwy sefydlog o £300 a chwe phwynt cosb – neu gael eich gwahardd rhag gyrru
    • Gallai eich cerbyd gael ei atafaelu a’i fathru
    • Gallech golli eich bywoliaeth
    • Ni fyddech wedi eich yswirio pe byddech yn achosi anaf neu farwolaeth mewn damwain

Fodd bynnag, os gallwch brofi eich bod wedi wynebu twyll yswiriant go iawn, efallai y bydd yr atebolrwydd uchod yn cael ei gwmpasu gan Ganolfan yr Yswirwyr Modur.

Fel y soniwyd ar frig y dudalen hon, mae rhith froceriaid yn defnyddio cyfeiriadau deiliaid polisi ffug, felly hyd yn oed os nad ydych wedi prynu polisi twyllodrus, gallech gael eich rhestru fel deiliad y polisi.

Diogelwch eich hun rhag twyll yswiriant modur

  • Dylech bob amser geisio prynu yswiriant gan y canlynol:
  • Brocer dibynadwy wedi’i drwyddedu gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Gallwch weld a yw brocer wedi’i gofrestru drwy fynd i’r dudalen hon ar wefan yr FCA. register.fca.org.uk
  • Cwmni yswirwyr modur y gallwch gysylltu ag ef yn uniongyrchol neu drwy safle cymharu cydnabyddedig. Gallwch weld a yw brocer wedi’i gofrestru drwy fynd i’r dudalen hon ar wefan yr FCA. register.fca.org.uk
  • Gallwch chwilio am froceriaid dilys yn gyflym ac am ddim gyda Chymdeithas Broceriaid Yswirwyr Prydain (BIBA), ar-lein yn www.biba.org.uk/find-insurance neu dros y ffôn ar 0370 950 1790.
  • Gallwch fynd i wefan y Gronfa Ddata Yswirwyr Modur (MID) i ddilysu bod gan eich darparwr yswiriant y manylion cywir ar ffeil. Y cyfeiriad yw www.ownvehicle.askmid.com
  • Os oes gennych bolisi yswiriant modur ac nad ydych yn siŵr a yw’n ddilys, cysylltwch â’r cwmni yswiriant yn uniongyrchol – nid y brocer y gwnaethoch ddelio ag ef – i gadarnhau.
  • Meddyliwch ddwywaith: peidiwch byth â rhuthro i drefnu yswiriant modur gyda neb heblaw un o’r ffynonellau a restrir uchod, ni waeth pa mor anodd neu ddrud y gall fod i’w gael fel arall.

Diogelwch eich cyfeiriad rhag twyllwyr.

Os ydych yn meddwl bod eich cyfeiriad wedi cael ei ddefnyddio gan dwyllwyr yswiriant modur, gwnewch y canlynol:

Gwiriwch eich post yn ofalus er mwyn gwneud yn siŵr fod yr holl ohebiaeth wedi’i chyfeirio atoch chi neu rywun arall sy’n byw yn eich eiddo. Os byddwch yn cael dogfennau yswiriant ar gyfer rhywun heb unrhyw gysylltiadau o’r fath, ffoniwch yr yswiriwr sydd wedi’u hanfon a gofynnwch am gael siarad â’i adran dwyll. Cofiwch, os bydd twyllwyr yn defnyddio eich cyfeiriad yn y ffordd hon, gallai effeithio ar eich gallu i gael yswiriant neu gredyd yn y dyfodol.

Os ydych wedi wynebu twyll yswiriant modur, eich bod yn meddwl bod eich cyfeiriad yn cael ei ddefnyddio gan rith froceriaid neu fod gennych wybodaeth am weithgarwch brocera yswiriant modur twyllodrus

Hysbyswch Action Fraud ar 0300 123 2040 neu ewch i www.actionfraud.police.uk

Gallwch hefyd gysylltu â’r Ganolfan Twyll Yswiriant drwy ei Llinell Twyll gyfrinachol sy’n rhad ac am ddim a gaiff ei rhedeg gan Taclo’r Tacle, ar 0800 422 0421, neu yn www.insurancefraudbureau.org

 

 

See Also...

In Partnership With