English

Twyll Pensiwn

Mae pensiynau yn bwysig ac yn aml maent yn asedau sylweddol iawn y mae pobl yn dibynnu arnynt fel y gallant fyw’n gyfforddus yn ddiweddarach mewn bywyd. Fodd bynnag, fel gydag unrhyw ased gwerthfawr, gallant gael eu targedu ar gyfer gweithgarwch anghyfreithlon, sgamiau neu fuddsoddiadau amhriodol sy’n llawn risg.

Dylech fod yn ymwybodol os byddwch yn trosglwyddo eich cynilion pensiwn i gynllun pensiwn neu fuddsoddiad na chaiff ei reoleiddio, neu eich bod yn cael eich targedu gan sgam pensiwn, eich bod yn debygol o golli swm sylweddol, os nad eich holl gynilion pensiwn, yn ogystal ag wynebu taliadau trefnu posibl. Ymhellach, pe byddech yn cael mynediad i’ch pensiwn cyn cyrraedd 55 oed (dim ond mewn amgylchiadau arbennig iawn y gallwch wneud hyn, fel oherwydd salwch) caiff hyn ei ystyried yn ‘daliad anawdurdodedig’. Mae taliadau anawdurdodedig yn debygol o arwain at gosb treth gan CThEM a all fod hyd at 55% o werth eich cronfa.

Mae sgamwyr pensiynau yn glyfar a soffistigedig iawn; maent yn defnyddio nifer o ddulliau i gael gafael ar eich arian. Ond, mae digon o arwyddion a all eich helpu i adnabod sgam ac arferion y gallwch eu defnyddio i amddiffyn rhagddynt.

Sut i adnabod sgam

Pwyllwch os bydd y canlynol yn digwydd:

  • Mae rhywun yn cysylltu â chi yn ddigymell dros y ffôn, drwy neges e-bost neu neges destun neu alwr ar garreg y drws.
  • Rydych yn cael cynigion ynghylch cael mynediad i’ch pensiwn personol neu bensiwn eich cwmni cyn i chi gyrraedd 55 oed*
  • Rydych yn cael cynigion i drosglwyddo eich arian i un buddsoddiad tramor, gydag elw gwarantedig o 8% neu uwch.
  • Rydych yn cael cynigion neu sylwadau ar ‘fuddsoddiadau untro’, cynigion gyda chyfyngiadau amser, cymhellion arian parod ymlaen llaw, ‘adolygiadau pensiwn am ddim’, ‘bylchau cyfreithiol’ neu ‘fentrau’r llywodraeth’.
  • Gofynnir i chi roi eich rhif ffôn a chyfeiriad eich cartref a/neu wybodaeth ariannol bersonol, pan fyddwch ond yn holi am y cynhyrchion sydd ar gael.
  • Rydych yn cael eich rhoi dan bwysau i gyflymu’r broses drosglwyddo, drwy ddefnyddio gwasanaeth negesydd neu ymweliad gan gynrychiolydd taer.
  • Caiff y ddogfennaeth aelodaeth ei chelu oddi wrthych, naill ai gyda neu heb esboniad.
  • Rydych yn cael deunyddiau marchnata sgleiniog, ond dim llawer o fanylion cyswllt ar gyfer y cynghorydd na’r cwmni sy’n gwneud y cynigion.

*Dim ond mewn achosion prin – fel salwch – y mae’n bosibl cael gafael ar arian cyn cyrraedd 55 oed o’ch cynllun pensiwn presennol yn yr amgylchiadau hyn.

Diogelu rhag sgamiau pensiwn

  • Peidiwch byth â datgelu gwybodaeth ariannol na gwybodaeth bersonol i alwr diwahoddiad, neu mewn ymateb i neges e-bost neu neges destun.
  • Casglwch gymaint o wybodaeth ag y gallwch am gefndir y cwmni – rhowch gynnig drwy’r rhyngrwyd i ddechrau, ond pwyllwch cyn defnyddio gwefannau crand. Dylai unrhyw gynghorwyr ariannol wedi’u rheoleiddio fod wedi’u cofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
  • Dylech ofyn i’r cynllun pensiwn rydych yn trosglwyddo ohono wirio cofrestriad y cynllun newydd gyda CThEM a gwneud yn siŵr ei fod yn ddilys.
  • Os nad ydych yn siŵr ynghylch cynnig a gawsoch neu os nad oes rhywbeth yn swnio’n iawn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau ar 0300 123 1047 (rhwng 9 a 5 o ddydd Llun i ddydd Gwener) i holi.
  • Peidiwch â chael eich rhuthro, eich rhoi dan bwysau na’ch poenydio i wneud penderfyniad am eich pensiwn.
  • Cymerwch eich amser a chadarnhau pethau.

Rhagor o Wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am sgamiau pensiwn, gallwch ddarllen canllawiau penodol y Rheoleiddiwr Pensiynau fel a ganlyn: http://www.thepensionsregulator.gov.uk/

Os ydych wedi cael galwad ddiwahoddiad a’ch bod yn amau ei bod yn sgam

  • Rhowch wybod i’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol gan ddefnyddio ei ffurflen rhoi gwybod am sgamiau buddsoddi ar-lein neu drwy gysylltu â’i Linell Gymorth i Ddefnyddwyr ar 0800 111 6768.
  • Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll drwy ffonio 0300 123 20 40 neu drwy fynd i www.actionfraud.police.uk

Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef sgam pensiynau

  • Cysylltwch â’r cynllun pensiwn rydych yn trosglwyddo oddi wrtho ar unwaith – efallai y gall atal y trosglwyddiad os nad yw wedi mynd drwodd eisoes.
  • Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll drwy ffonio 0300 123 20 40 neu drwy fynd i www.actionfraud.police.uk
  • Os ydych yn ofni gallech fod wedi colli rhywfaint o’ch cynilion pensiwn neu eich holl gynilion pensiwn, gallwch siarad â’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau (0300 123 1047) oherwydd efallai y bydd angen i chi feddwl am sut yr effeithir ar eich ymddeoliad a’r ffordd orau o symud ymlaen.

Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.

 

 

See Also...

In Partnership With