English

Twyll Ffi Benthyciad

Bydd twyll ffi benthyciad, sy’n fath o dwyll ffi ymlaen llaw, yn digwydd pan gewch gynnig benthyciad naill ai o ganlyniad i gyflwyno cais neu’n ddirybudd. Gofynnir ichi dalu ffi drefnu ymlaen llaw i’w ddiogelu, ond wedyn byddwch yn canfod eich bod wedi cael eich twyllo ac yn colli eich arian.

P’un a ydych wedi cael gwybod bod y ffi yn ad-daladwy ac yn cael ei defnyddio fel tâl gweinyddu, ernes neu daliad yswiriant, neu am fod gennych hanes credyd gwael, fel arfer, bydd gofyn ichi dalu’r ffi drwy drosglwyddiad banc uniongyrchol neu ddull anghyffredin arall. Mae’n bosib hefyd y cewch eich rhoi dan bwysau i dalu’r ffi yn gyflym er mwyn diogelu’r benthyciad.

Gall pobl sy’n cael eu gorfodi i wneud penderfyniadau ariannol anodd, er enghraifft pan fydd costau byw yn cynyddu yn gyflymach na’r arfer, fod yn arbennig o agored i gael eu twyllo.

Y risgiau

  • Colli arian rydych wedi’i dalu fel ‘ffi’ am fenthyciad neu gredyd na fyddwch yn ei gael.

Diogelwch eich hun rhag twyll ffi benthyciad

  • Pan fyddwch yn gwneud cais am fenthyciad, dylech ond delio â benthycwyr sydd wedi eu hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn unig. Edrychwch ar Gofrestr Gwasanaethau Ariannol yr FCA i weld a yw’r cwmni yn cael ei reoleiddio. Ni fyddwch yn gallu gofyn am help gan Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol os byddwch yn cael benthyciad gan gwmni sydd heb ei reoleiddio a bod pethau’n mynd o chwith.
  • Gwnewch yn siŵr fod manylion cyswllt y cwmni yn cyfateb i’r manylion ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol.
  • Defnyddiwch y manylion cyswllt sydd ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol, yn hytrach na rhif llinell uniongyrchol neu gyfeiriad e-bost a gewch, rhag ofn bod rhywun yn ceisio eich twyllo.
  • Os na fydd manylion cyswllt y benthyciwr wedi’u rhestru ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol, neu os bydd y benthyciwr yn honni eu bod yn hen, ffoniwch Linell Gymorth Defnyddwyr yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar 0800 111 6768.

Sut rydych yn gwybod eich bod yn delio â chwmni awdurdodedig

Os bydd cwmni a awdurdodwyd gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn gofyn ichi dalu ffi ymlaen llaw cyn rhoi benthyciad i chi, dylai anfon hysbysiad atoch yn nodi manylion penodol gan gynnwys:

  • Enw cyfreithiol y cwmni fel y mae’n ymddangos ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol.
  • Datganiad bod y cwmni yn gweithredu fel deliwr credyd.
  • Datganiad yn nodi a fydd angen ichi dalu ffi am wasanaethau’r cwmni.
  • Swm y ffi (neu sut y caiff ei gyfrifo), pryd bydd y cwmni yn cymryd taliad gennych a sut y byddwch yn talu.
  • Bydd angen ichi ymateb i’r hysbysiad, yn nodi eich bod wedi ei dderbyn ac yn ei ddeall.

See Also...

In Partnership With