English

Twyll Eiddo

Mae twyll eiddo yn digwydd pan fydd twyllwyr yn gwerthu neu’n morgeisio eich eiddo heb eich cydsyniad.

Fel arfer, eiddo yw’r ased mwyaf gwerthfawr rydych yn berchen arno a gellir ei werthu a’i forgeisio er mwyn codi arian. Felly, mae’n darged deniadol i dwyllwyr, a all ddwyn eich hunaniaeth i ddechrau ac yna esgus mai chi ydyn nhw er mwyn cyflawni’r dwyll. Os na chaiff hyn ei ddatgelu ar unwaith, efallai y byddwch chi fel y gwir berchennog yn gweld nad yw eich eiddo yn eich enw mwyach neu fod morgais yn ei erbyn. Gall datrys y broblem a dileu unrhyw forgais fod yn ofidus, yn llafurus ac yn gostus.

Rydych yn wynebu mwy o risg os bydd y canlynol yn berthnasol:

  • Mae eich hunaniaeth wedi’i dwyn
  • Rydych yn rhoi eich eiddo ar rent
  • Rydych yn byw dramor
  • Mae’r eiddo yn wag
  • Nid yw’r eiddo wedi’i forgeisio
  • Nid yw’r eiddo wedi’i gofrestru* â Chofrestrfa Tir EM**

* Caiff eich eiddo ei gofrestru os gwnaethoch ei brynu neu ei forgeisio ers 1998 – edrychwch ar y gofrestr os nad ydych yn siŵr.

** Mae Cofrestrfa Tir EM yn cofrestru perchenogaeth tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr.

Diogelu rhag twyll eiddo

  • Sicrhewch fod eich eiddo wedi ei gofrestru â Chofrestrfa Tir EM. Os ydych yn ddioddefwr diniwed twyll ac yn dioddef colled ariannol, gallwch gael iawndal. Os nad yw eich eiddo wedi’i gofrestru, nid yw’r iawndal yn daladwy.
  • Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gwnewch yn siŵr fod eich manylion cyswllt wedi’u diweddaru fel y gallwch eu cyrraedd.Gallwch gofrestru hyd at dri chyfeiriad yn cynnwys cyfeiriad e-bost a chyfeiriad tramor. Os nad yw eich manylion wedi’u diweddaru, efallai na fyddwch yn derbyn llythyr neu e-bost Cofrestrfa Tir EM os bydd yn ceisio cysylltu â chi.
  • Cofrestrwch ar gyfer gwasanaeth Rhybudd Eiddo Cofrestrfa Tir EM er mwyn monitro hyd at ddeg eiddo a helpu i ddiogelu rhag twyll.Bydd yn anfon e-bost rhybudd i chi pan geir gweithgarwch penodol, er enghraifft os bydd rhywun yn ceisio trefnu morgais arno. Yna, gallwch benderfynu p’un a yw’r gweithgarwch yn amheus a chael cyngor pellach os bydd angen.
  • Cofrestrwch gyfyngiad (am ddim os nad ydych yn byw yn yr eiddo) sydd â’r bwriad o atal gweithgarwch megis trosglwyddiad neu forgais, oni bai bod trawsgludwr neu gyfreithiwr yn cadarnhau bod y cais wedi ei wneud gennych chi.

Rhagor o wybodaeth

Ceir rhagor o wybodaeth a chyngor ar wefan Cofrestrfa Tir EM drwy glicio yma.

Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef twyll eiddo

Cysylltwch â llinell twyll eiddo Cofrestrfa Tir EM drwy anfon e-bost i [email protected] neu drwy ffonio 0300 006 7030 rhwng 08:30 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gallwch hefyd:

Mae’r cyngor hwn wedi’i lunio gyda chymorth caredig Cofrestrfa Tir EM.

 

See Also...

In Partnership With