English

Twyll cardiau rhodd / rhodd

Mae sgam taleb neu gerdyn rhodd yn digwydd pan fydd twyllwyr yn cysylltu â dioddefwyr diniwed ac yn eu darbwyllo i dalu biliau, ffioedd neu ddyledion gan ddefnyddio cardiau rhodd iTunes neu dalebau eraill.

Fel arfer, bydd y dioddefwr yn cael galwad yn mynnu cael taliad brys drwy brynu iTunes neu gardiau rhodd/talebau eraill gan y manwerthwr agosaf, a allai fod yn siop cyfleustod neu fanwerthwr electroneg i ddefnyddwyr. Bydd y dioddefwr yn cael gwybod bod hyn er mwyn talu bil treth dyledus (bydd twyllwyr yn aml yn honni eu bod yn cynrychioli CThEM), bil ysbyty, bil cyfleustod, ffi casglu dyled neu arian mechnïaeth.

Ar ôl gwneud y pwrcasiad, gofynnir i’r dioddefwr dalu’r twyllwr dros y ffôn drwy ddarllen y cod 16-digid (yn achos cardiau rhodd iTunes) ar gefn y cerdyn. Yna, bydd y twyllwr yn gwerthu’r codau, neu’n prynu cynhyrchion gwerth uchel, ar draul y dioddefwr.

Mewn gwirionedd, dim ond i brynu nwyddau a/neu wasanaethau ar wefan y busnes sy’n cyhoeddi’r cerdyn rhodd/taleb y gellir eu defnyddio. Fodd bynnag, mae llawer o bobl wedi cael eu twyllo gan y sgam am nad ydynt yn deall sut mae cynlluniau o’r fath yn gweithio.

Yn ôl CThEM, y golled gyfartalog yw £1,150 ac mae’r rhan fwyaf o ddioddefwyr dros 65 oed – er y gellir targedu unrhyw un.

Ni fyddai unrhyw sefydliad ag enw da yn gofyn i chi dalu bil neu ddyled drwy dalebau neu gardiau rhodd. Ni ddylech chi fyth ddatgelu’r codau ar dalebau neu gardiau rhodd rydych wedi’u prynu heblaw am eu rhoi ar wefannau swyddogol fel taliad llawn neu rannol am nwyddau neu wasanaethau.

Os ydych wedi cael eich targedu gan sgam taleb / cerdyn rhodd

  • Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll ar 0300 123 20 40 neu yn www.actionfraud.police.uk
  •  Rhowch wybod i’ch banc neu’ch daprarwr cerdyn talu perthnasol ar unwaith. Cewch wybod sut i wneud hynny drwy edrych ar eu gwefannau.

Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr  i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.

 

 

In Partnership With