English

Twyll Bancio Ffôn

Mae Twyll Bancio Dros y Ffôn yn sgam sy’n dod yn fwyfwy cyffredin. Nid yw’r twyllwyr yn sgamio eu dioddefwyr ar-lein, ond yn hytrach, maent yn defnyddio’r ffôn i wneud hynny. Dyma sut mae’n gweithio:

Byddwch yn cael galwad gan rywun sy’n honni eu bod o sefydliad rydych yn ymddiried ynddo, fel eich banc neu’r heddlu. Byddant yn dweud wrthych fod problem diogelwch yn gysylltiedig â’ch cyfrif banc neu gardiau talu, a bod angen i chi gymryd rhyw fath o gamau ataliol ar frys, sydd fel arfer yn cynnwys cadarnhau eich manylion mewngofnodi cyfrinachol.

Fodd bynnag, nid eich banc na dyddorwr eich cerdyn yw’r person ar ben arall y ffôn, ond twyllwr.

Efallai y gofynnir i chi hefyd roi eich cardiau i negesydd a anfonir gan y ‘banc’ neu’r ‘heddlu’ er mwyn sicrhau eu bod wedi cael eu hatal, neu fel tystiolaeth. Caiff hyn ei adnabod fel ‘Twyll Negesydd’.

Y risgiau

  • Rydych yn rhoi manylion eich cyfrif a’ch atebion i gwestiynau diogelwch i dwyllwyr
  • Caiff eich cyfrif banc ei wagio a/neu caiff eich cardiau eu defnyddio hyd eu heithaf
  • Gallai rhywun ddwyn eich hunaniaeth am eich bod wedi datgelu gwybodaeth ariannol a gwybodaeth bersonol gyfrinachol

Sut i Osgoi Twyll Bancio Dros y Ffôn

  • Ni fydd banc na chwmni cardiau talu byth yn gofyn i chi drosglwyddo arian o’ch cyfrif i gyfrif arall nad ydych yn ei adnabod, felly dewch â’r alwad i ben ar unwaith.
  • Os byddwch yn meddwl y gall y galwr fod yn ddilys a’ch bod yn dewis ffonio eich banc neu ddyroddwr eich cerdyn, ffoniwch y rhif ar eich cyfriflen fanc neu ddogfen arall gan eich banc – neu ar gefn eich cerdyn, ac NID rhif a roddwyd i chi gan y galwr na’r rhif y daeth yr alwad ohono.
  • Peidiwch byth â rhoi manylion ariannol na phersonol i alwr. Ffoniwch yn ôl ar rif rydych yn gwybod sy’n ddilys. Mae gan lawer o sgamwyr y gallu i ffugio rhifau go iawn er mwyn eich twyllo i feddwl eu bod yn ddilys.

Os ydych wedi bod yn Ddioddefwr Twyll Bancio Dros y Ffôn

  • Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll ar 0300 123 20 40 neu yn  www.actionfraud.police.uk
  • Rhowch wybod i’ch banc neu’ch darparwr cardiau talu perthnasol ar unwaith. Cewch wybod sut i wneud hynny drwy edrych ar eu gwefannau.

Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.

 

 

In Partnership With