English

Trosglwyddo Arian

Mae sawl sefyllfa lle y gellir gofyn i chi drosglwyddo arian i bobl eraill – p’un a yw hynny ar gyfer teithio, addysgu, argyfyngau teuluol, neu i helpu aelodau o’r teulu. Caiff nifer o wasanaethau trosglwyddo arian hirsefydledig, uchel eu parch eu defnyddio at y diben hwn. Fodd bynnag, fel llawer o wasanaethau dilys, gall twyllwyr eu defnyddio i fanteisio ar bobl ddiniwed drwy ofyn iddynt drosglwyddo arian ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau nad ydynt yn bodoli.

Y risgiau

Fel y gwelwch o’r wefan hon, mae sawl gweithgarwch y gallwch ei gynnal ar-lein y gall twyllwyr ei beryglu os na fyddwch yn cymryd gofal. Gall y sgamiau dan sylw ddigwydd wrth geisio prynu neu werthu nwyddau neu wasanaethau, neu efallai y byddant yn chwarae ar eich emosiynau sylfaenol fel eich bod am wneud mwy o arian, neu ddod o hyd i gariad. Mae gennym dudalennau penodol, manwl ar sut i nodi ac osgoi sgamiau, ond dyma rai o’r sgamiau mwyaf cyffredin lle gall twyllwyr gamddefnyddio gwasanaethau trosglwyddo arian mewn ymgais i ddwyn arian dioddefwyr:

  • Sgamiau talu ffi ymlaen llaw / rhagdaliadau, pan fydd twyllwyr yn esgus bod yn gynrychiolwyr o gwmnïau benthyca ffug, yn defnyddio dogfennau, negeseuon e-bost, a gwefannau sy’n edrych yn rhai dilys er mwyn ymddangos yn briodol a chodi ‘ffioedd’ cyn gwneud benthyciadau, nad ydynt yn cael eu gwireddu.
  • Sgamiau etifeddiaeth, pan fydd twyllwyr yn ceisio eich denu gydag addewidion o fuddsoddiadau neu roddion etifeddiaeth yn gyfnewid am ffi.
  • Sgamiau siopa cudd, lle rydych yn cael siec ac yn cael gwybod y dylech ddefnyddio’r arian i ‘werthuso’ gwasanaeth trosglwyddo arian penodol. Mae’r siec yn bownsio a chi sy’n gyfrifol am ad-dalu’r arian i’r banc.
  • Sgamiau gordaliadau, lle mae ‘prynwr’ yn anfon siec sy’n edrych yn ddilys atoch chi, y gwerthwr, am swm sy’n uwch na’r pris y cytunwyd arno, gydag esboniad ynghylch y gordaliad a chais i drosglwyddo’r arian gormodol yn ôl.
  • Sgamiau cyflogaeth, lle rydych yn cael cynnig ‘swydd’ neu gyfle i weithio o gartref sy’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir. Rydych yn cael siec sy’n edrych yn ddilys er mwyn talu costau cychwynnol a gofynnir i chi drosglwyddo’r balans yn ôl, neu gofynnir i chi dalu ymlaen llaw ar gyfer ffioedd recriwtio neu wiriadau cyn cyflogi.
  • Sgamiau loteri neu wobrau, lle bydd rhywun yn cysylltu â chi ac yn dweud bod angen i chi anfon swm o arian er mwyn talu ffioedd prosesu neu drethi er mwyn hawlio eich enillion – neu lle byddwch yn cael siec neu archeb arian ddigymell gyda chyfarwyddiadau i adneuo’r arian, a throsglwyddo cyfran ohono yn ôl ar unwaith, a hefyd i dalu ffioedd prosesu neu drethi.
  • Sgamiau eiddo rhent, lle cewch eich twyllo i drosglwyddo arian er mwyn talu ffioedd amrywiol a blaendal ar gyfer eiddo rydych am ei rentu, neu, fel landlord, lle rydych yn cael siec ffug am y blaendal, mae’r cytundeb yn cael ei ganslo ac rydych yn trosglwyddo’r blaendal yn ôl i’r darpar ‘denant’.
  • Sgamiau cerbyd, lle cewch eich twyllo i drosglwyddo arian fel blaendal dros dro ar gyfer cerbyd rydych am ei brynu – neu i dalu ‘ffioedd morgludo’ – neu, fel gwerthwr, rydych yn cael siec ffug am y blaendal, mae’r cytundeb yn cael ei ganslo ac rydych yn trosglwyddo’r blaendal yn ôl i’r darpar ‘brynwr’.
  • Sgam tystiolaeth o daliad, lle bydd darpar landlord neu werthwr car yn gofyn i chi anfon arian at aelod o’r teulu/ffrind fel tystiolaeth bod gennych ddigon o arian i rentu eiddo neu brynu car. Byddant yn gofyn i chi anfon copi o’ch ffurflen trosglwyddo fel prawf, ac yna byddant yn casglu’r arian eu hunain gan ddefnyddio prawf adnabod ffug yn enw’r derbynnydd a nodwyd.
  • Sgamiau brys / neiniau a theidiau, lle bydd twyllwyr yn honni eu bod yn sâl, bod rhywun wedi ymosod arnynt neu eu bod wedi cael eu harestio ar gam a bod angen arian arnynt ar frys, neu’n esgus bod yn wyrion ac wyresau i bobl oedrannus, y mae angen arian arnynt.
  • Sgamiau arwerthiannau ar-lein, lle byddwch yn gwneud cynnig llwyddiannus ar eitem ac yn cael gwybod mai dim ond arian a anfonir drwy wasanaeth trosglwyddo y mae’r gwerthwr yn ei dderbyn, gan ddefnyddio enw ffug, a gaiff ei ddefnyddio wedyn gan y ‘gwerthwr’ i greu hunaniaeth ffug er mwyn cael yr arian. Neu, efallai na fyddwch wedi ennill yr eitem ond bod rhywun yn cysylltu â chi i gynnig cytundeb tebyg i chi ac yn gofyn i chi drosglwyddo’r arian, ar gyfer nwyddau nad ydynt yn bodoli.
  • Sgamiau rhamant, caru neu berthynas, lle byddwch yn creu perthynas ar-lein gyda rhywun sy’n dwyllwr mewn gwirionedd ac sy’n eich twyllo i drosglwyddo arian er mwyn talu am achos brys neu ymweliad i gwrdd yn bersonol.

Defnyddio Gwasanaethau Trosglwyddo Arian

  • Peidiwch byth ag anfon arian at rywun nad ydych wedi cwrdd ag ef yn bersonol.
  • Peidiwch byth ag anfon arian i dalu am ‘drethi’ neu ‘ffioedd prosesu’ ar enillion loteri neu wobrau.
  • Peidiwch byth â defnyddio cwestiwn prawf fel mesur diogelwch ychwanegol er mwyn diogelu eich trafodyn.
  • Peidiwch byth â rhoi eich gwybodaeth bancio i bobl na busnesau nad ydych yn eu hadnabod.
  • Peidiwch byth ag anfon arian cyn cael benthyciad neu gerdyn credyd.
  • Peidiwch byth ag anfon arian ymlaen llaw er mwyn talu costau darpar gyflogwr.
  • Peidiwch byth ag anfon arian ymlaen llaw i dalu unrhyw fath o flaendal neu ffioedd mewn perthynas â gwerthu neu brynu cerbyd.
  • Peidiwch byth ag anfon arian ymlaen llaw i dalu unrhyw fath o flaendal neu ffioedd mewn perthynas â rhentu eiddo.
  • Peidiwch byth ag anfon arian ar gyfer sefyllfa frys heb ddilysu ei bod yn argyfwng go iawn.
  • Peidiwch byth ag anfon arian o siec yn eich cyfrif nes iddi gael ei chlirio’n swyddogol – a allai gymryd wythnosau.
  • Peidiwch byth â throsglwyddo arian ar gyfer pethau y byddwch yn eu prynu ar-lein.
  • Peidiwch byth ag agor atodiad, na chlicio ar ddolen mewn e-bost sy’n honni ei bod wedi’i anfon gan wasanaeth trosglwyddo arian.

Os ydych wedi cael eich targedu gan sgam

Western Union: ffoniwch dîm diogelu defnyddwyr Western Union ar unwaith ar 0800 026 0309.Os ydych wedi anfon yr arian ond nad yw wedi cael ei dalu i’r derbynnydd eto, efallai y byddwch yn gallu atal y trafodyn.

Moneygram: os gwnaethoch ddefnyddio Moneygram o ganlyniad i sgam, ffoniwch 0800 8971 8971.

Rhagor o wybodaeth

Darllenwch gyngor Western Union ar ddiogelu defnyddwyr yn: www.westernunion.co.uk/stopfraud

Darllenwch gyngor Moneygram ar ddiogelu defnyddwyr yn: www.moneygram-preventfraud.com

Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll:

Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll ar 0300 123 20 40 neu yn www.actionfraud.police.uk.

 

In Partnership With