English

Trosglwyddo Arian

Mae gwasanaethau trosglwyddo arian symudol bellach yn gyffredin, ond fel gyda phopeth a wnewch ar-lein, mae angen i chi gymryd gofal wrth eu defnyddio.

Y risgiau

  • Anfon arian i’r rhif ffôn anghywir (er enghraifft, deialu’r rhif yn anghywir).
  • E-byst neu negeseuon testun sy’n honni eu bod gan eich gwasanaeth arian symudol ond sydd mewn gwirionedd yn eich cyfeirio at wefan ffug neu sy’n dweud wrthych i anfon arian i rif ffôn arall.

Trosglwyddo Arian yn Ddiogel

Mae’r gwasanaeth ei hun mor ddiogel ag unrhyw drafodyn bancio ar-lein arall, a chaiff ei ddiogelu gan gyfringod pum digid penodol i’r defnyddiwr ar yr ap ei hun.

Rydym yn argymell y rhagofalon diogelwch canlynol:

  • Gwnewch yn siŵr na ellir dyfalu eich cyfringod ar gyfer Pingit yn hawdd, felly dylech osgoi penblwyddi a phen-blwyddi priodas, rhifau esgynnol neu ddisgynnol (er enghraifft 54321 neu 12345), rhifau wedi’u dyblygu (er enghraifft 11111) neu batrymau bysellfwrdd y gellir eu hadnabod yn hawdd (er enghraifft 14789).
  • Peidiwch â storio eich cyfringod ar eich ffôn symudol, hyd yn oed yn eich cysylltiadau.
  • Diogelwch eich rhif ffôn symudol gyda nodwedd datgloi ddiogel (fel PIN).
  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi rhoi’r rhif ffôn cywir cyn cadarnhau trafodyn.
  • Cymerwch ofal ychwanegol i beidio â cholli eich ffôn. Mae diogelwch ffisegol yn bwysig hefyd.
  • Byddwch yn wyliadwrus o apiau ffug o safleoedd nad ydynt yn ddibynadwy.
  • Byddwch yn ymwybodol bod twyllwyr yn debygol o geisio anfon ceisiadau i we-rwydo testun.
  • Os caiff eich ffôn ei golli neu ei ddwyn, rhowch wybod i’r banc cyn gynted â phosibl.
  • Gwnewch yn siŵr fod unrhyw rwydwaith di-wifr cyhoeddus neu breifat rydych yn ei ddefnyddio yn ddiogel cyn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth neu ei ddefnyddio.
  • Byddwch yn wyliadwrus ynghylch pwy sy’n gwylio dros eich ysgwydd pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth – neu’n anfon neu’n derbyn arian.
  • Cofiwch allgofnodi pan fyddwch wedi gorffen defnyddio’r ap.
  • Ni waeth pa mor fach yw’r symiau o arian rydych yn eu trosglwyddo, cadwch gyfrif o gyfansymiau er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cadw o fewn eich terfyn.

In Partnership With