English

Trapiau Tanysgrifio

Mae trapiau tanysgrifio yn digwydd pan fyddwch yn cofrestru ar-lein neu ar y ffôn i gael treialon rhad neu am ddim o gynhyrchion, dim ond i ganfod eich bod wedi cael eich twyllo i wneud taliadau rheolaidd costus heb yn wybod i chi. Fel arfer, mae’r cynhyrchion hyn yn dabledi colli pwysau, bwydydd iachus, cynhyrchion fferyllol a chynhyrchion gwrth-heneiddio ond, yn fwyfwy cyffredin, mae cynhyrchion parhaol sy’n ddeniadol i ddefnyddwyr fel y ffôn symudol diweddaraf yn cael eu cynnwys.

Y risgiau

  • Manteisio ar gynnig rhad neu am ddim, dim ond i sylweddoli ei fod yn costio cannoedd neu filoedd o bunnoedd i chi yn y pen draw.
  • Methu â chanslo cytundeb nac atal taliadau rhag cael eu cymryd o’ch cyfrif.

Osgoi trapiau tanysgrifo

  • Darllenwch y print mân (y telerau ac amodau) yn ofalus cyn gwneud unrhyw gytundeb na phrynu unrhyw beth, ni waeth pa mor hir y gall hyn ei gymryd.
  • Gwnewch yn siŵr nad oes tic yn y blwch telerau ac amodau ymlaen llaw.
  • Os byddwch yn prynu rhywbeth fel hyn sy’n rhoi amser cyfyngedig i chi ganslo’r cytundeb, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei ganslo cyn i’r amser ddod i ben os ydych am wneud hynny.
  • Peidiwch byth â rhoi manylion banc i gwmnïau heb wneud gwaith ymchwil ymlaen llaw.
  • Cadwch gopi o unrhyw hysbyseb y byddwch yn ymateb iddi (drwy ei hargraffu neu gymryd sgrinlun), a chadwch nodyn o’r we-dudalen.
  • Cofiwch y bydd gennych well siawns o ganslo cytundebau neu gael ad-daliad os yw’r cwmni wedi’i leoli yn y DU. Yn aml, mae hyd yn oed y rhai gyda chyfeiriadau o’r DU yn gwmnïau darparu gwasanaethau sydd wedi’u contractio i anfon y nwyddau. Yn aml, nid oes gan y cwmnïau eu hunain unrhyw bresenoldeb ffisegol yn y DU.
  • Gwiriwch eich cyfriflenni cerdyn banc/talu yn rheolaidd am daliadau annisgwyl.

Os ydych wedi cael eich dal mewn trap tanysgrifio

  • Gwnewch bob ymdrech i gysylltu â’r cwmni dan sylw er mwyn canslo’r cytundeb.
  • Cysylltwch â’ch banc i ganslo taliadau yn y dyfodol.
  • Penderfynwch gyda’ch banc a oes angen cerdyn newydd.
  • Gofynnwch am ad-daliad gan y cyflenwr os nad oedd yr hysbyseb yn egluro’r taliadau, ond cofiwch y gallai eich hawliad gael ei wrthod os na fydd gennych gopi. Os yw’r wefan wedi newid yn y cyfamser, ceisiwch gael mynediad i cache eich porwr rhyngrwyd neu’r archif rhyngrwyd.
  • Cyfeiriwch gŵyn am y banc at y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol os bydd y banc yn gwrthod atal y taliadau neu ad-dalu taliadau sydd wedi’u gwneud, ac ystyriwch gyfeirio’r mater at yr Ombwdsmon Ariannol
  • Cysylltwch â’ch gwasanaeth Safonau Masnach lleol.
  • Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll, ar 0300 123 20 40  neu yn www.actionfraud.police.uk

Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.

Mae’r dudalen hon wedi’i llunio gyda chymorth caredig Tîm e-Droseddau y Gwasanaeth Safonau Masnach Cenedlaethol

 

 

In Partnership With