English

Talu am Gemau, Apps & Downloads

Heddiw, mae’n hawdd defnyddio ffôn clyfar neu lechen i lawrlwytho cynnyrch neu wasanaeth a thalu am hynny drwy eich bil ffôn. Mae gemau, apiau a chyfryngau fel fideos a chaneuon yn arbennig o ddeniadol i blant, a gallant eu lawrlwytho ar eu dyfeisiau symudol yn hawdd iawn..

Y risgiau

  • Efallai na fydd plentyn yn ymwybodol o’r costau posibl os bydd ond yn manteisio ar gynnwys sydd ‘am ddim’.
  • Mae rhai gemau am ddim yn ei gwneud yn ofynnol i gredyd gael ei wario er mwyn parhau i’r lefel nesaf, ac er y gallai’r swm rydych yn ei dalu bob tro fod yn isel, gall gronni a rhoi sioc i’r sawl sy’n talu’r bil ar ddiwedd y mis.
  • Gall eich plentyn lawrlwytho fideo neu dôn canu heb sylweddoli ei fod wedi sbarduno tanysgrifiad i wasanaeth a fydd yn dechrau codi tâl i’r ffôn yn rheolaidd.

Costau Diogelu

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o weithgarwch eich plentyn ar eich ffôn clyfar neu’ch llechen chi.
  • Peidiwch â caniatáu i’ch plentyn ddefnyddio eich dyfais symudol os ydych am osgoi unrhyw gostau annisgwyl.
  • Dylech bob amser amddiffyn eich dyfais symudol gyda PIN, y dylech ei gadw’n gyfrinachol.
  • Peidiwch â datgelu’r manylion mewngofnodi rydych yn eu defnyddio ar gyfer App Store, Google Play neu ffynonellau apiau eraill.
  • Chwiliwch drwy eich biliau ffôn am rifau neu daliadau nad ydych yn eu hadnabod.

Rhagor o Wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor, ewch Phone-Paid Services Authority

 

See Also...

In Partnership With