Siopa

Mae defnyddio’r rhyngrwyd i brynu nwyddau neu wasanaethau yn arbed llawer o amser ac ymdrech – a hefyd yn rhoi’r dewis ehangaf i chi. Fodd bynnag, mae hefyd risgiau sy’n gysylltiedig â siopa ar-lein ac mae angen i chi gymryd gofal gyda beth rydych yn ei brynu, gan bwy, a sut rydych yn talu am eich pwrcasiadau.

Y risgiau

  • Twyll sy’n deillio o wneud taliadau dros we-dudalennau anniogel.
  • Twyll sy’n deillio o wneud taliadau dros gysylltiad Wi-Fi anniogel.
  • Siopau ar-lein ffug – gwefannau ffug a chynigion dros e-bost ar gyfer nwyddau a gwasanaethau nad ydynt yn bodoli.
  • Prynu nwyddau ffug yn fwriadol neu’n anfwriadol – canfod eu bod o ansawdd gwael a hefyd ariannu rhagor o droseddau difrifol yn y broses o bosibl.
  • Colli eich arian wrth wneud taliadau banc uniongyrchol, dim ond i ganfod bod y nwyddau o ansawdd gwael, neu nad ydynt yn bodoli o gwbl.
  • Cael nwyddau neu wasanaethau nad ydynt yn cyfateb i ddisgrifiad yr hysbysebwr.
  • Cael cynnig prisiau wedi’u teilwra yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd gan y manwerthwr am eich arferion siopa ar-lein a’r gwefannau rydych wedi ymweld â nhw

Siopa’n Ddiogel

  • Gwnewch yn siŵr fod unrhyw fanwerthwr ar-lein sy’n anghyfarwydd i chi yn ddilys drwy ymchwilio iddo. Gwnewch yn siŵr fod ganddo gyfeiriad ffiesgol a manylion cyswllt dros y ffôn. Cofiwch mai’r ffordd orau o ddod o hyd i fanwerthwr dilys yw drwy argymhelliad gan ffynhonnell ddibynadwy.
  • Cofiwch fod talu â cherdyn credyd yn eich amddiffyn yn well na dulliau eraill mewn perthynas â thwyll, gwarantau ac achosion o fethu â dosbarthu.
  • Dylech wirio bod yr holl fanylion prynu yn gywir cyn cadarnhau’r taliad.
  • Peidiwch ag ateb e-byst digymell gan gwmnïau nad ydych yn eu hadnabod.
  • Cyn rhoi manylion cerdyn talu ar wefan, gwnewch yn siŵr fod y ddolen yn ddiogel, mewn dwy ffordd:
    • Dylai fod symbol clo clap yn ffrâm ffenestr y porwr, sy’n ymddangos pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi neu gofrestru. Gwnewch yn siŵr nad yw’r clo clap ar y dudalen ei hun … mae’n debyg y bydd hyn yn arwydd o safle twyllodrus.
    • Dylai’r cyfeiriad gwe ddechrau gyda ‘https://’. Mae’r ‘s’ yn golygu ei bod yn ddiogel.
  • Mae’r uchod yn dangos bod y cyswllt rhyngoch chi a pherchennog y wefan yn ddiogel, ond nid yw’n dangos bod y safle ei hun yn ddilys. Mae angen i chi wneud hyn yn ofalus drwy chwilio am achosion cynnil o gamsillafu yn y cyfeiriad, geiriau a nodau ychwanegol ac achosion eraill o afreoleidd-dra.
  • Bydd rhai gwefannau yn eich ailgyfeirio chi at wasanaeth talu trydydd parti (fel WorldPay). Gwnewch yn siŵr fod y safleodd hyn yn ddiogel cyn gwneud eich taliad.
  • Peidiwch â thalu am nwyddau gan ddefnyddio cysylltiad Wi-Fi anniogel.
  • Diogelwch a chofiwch y cyfrinair a ddewiswyd gennych ar gyfer y gwasanaethau dilysu ychwanegol a ddefnyddiwyd ar rai gwefannau, fel Verified by Visa.
  • Wrth wneud taliad i unigolyn, peidiwch byth â throsglwyddo’r arian yn uniongyrchol i’w gyfrif banc. Yn hytrach, defnyddiwch safle talu’n ddiogel fel PayPal, lle caiff taliad ei drosglwyddo rhwng dau gyfrif electronig.
  • Darllenwch bolisïau preifatrwydd a dychwelyd y gwerthwr.
  • Dylech bob amser allgofnodi o safleoedd rydych wedi mewngofnodi iddynt neu roi manylion cyfrestru arnynt. Nid yw cau eich porwr yn ddigon i sicrhau preifatrwydd.
  • Cadwch dderbynebau.
  • Darllenwch ddatganiadau cardiau credyd a banc yn ofalus ar ôl siopa er mwyn gwneud yn siŵr bod y swm cywir wedi cael ei ddebydu, a hefyd nad oes unrhyw dwyll wedi digwydd o ganlyniad i’r trafodyn.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg cyn i chi fynd ar-lein.
  • Lle y bo’n bosibl, gwnewch yn siŵr fod y pris a restrwyd gan y manwerthwr ar eich porwr yr un fath â’r hyn a ddyfynnir ar borwyr pobl eraill, er mwyn rhoi sicrwydd i chi nad ydych yn cael eich monitro ac yn gorfod talu gormod.

Rhagor o Wybodaeth

Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll: Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll ar 0300 123 20 40 neu yn www.actionfraud.police.uk.

Action Fraud LogoIOs ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.

 

In Partnership With