English

Sgamiau Ystafell Adfer

Mae dioddefwyr sgamiau buddsoddi yn gynyddol agored i sgamiau buddsoddi eraill, sgamiau dilynol a thwyll camau adennill.

Mae dioddefwyr sgamiau buddsoddi yn gynyddol agored i sgamiau buddsoddi eraill, sgamiau dilynol a thwyll camau adennill.

Mae cyflawnwyr y sgamiau hyn wedi caffael eich manylion a hyd yn oed pan fyddant wedi cael eu stopio a’u cau, efallai bod eich manylion wedi cael eu rhannu a’u hailddefnyddio eisoes gan sawl sgamiwr. Pan fyddwch wedi gwneud ‘buddsoddiad’ cychwynnol, byddwch yn cael eich ystyried yn darged mynych posibl a bydd y we o sgamwyr yn ddi-baid os byddant yn meddwl y gallant ddwyn mwy o’ch arian.

Y risgiau

  • Mae angen llwybr gadael ar gyfer buddsoddiadau mewn credydau carbon a metelau prin o’r ddaear, er enghraifft, er mwyn i chi allu gwneud arian ar eich buddsoddiad. Cam nesaf y sgam fydd helpu i adennill eich buddsoddiad (y llwybr gadael). Bydd angen gwneud taliadau ymlaen llaw er mwyn helpu i ryddhau/gwerthu eich buddsoddiad, ond fyddwch chi ddim yn gweld dim byd am eich taliad.
  • Hyd yn oed pan gaiff sgamiau gan endidau corfforaethol eu nodi, eu archwilio a’u dirwyn i ben er budd y cyhoedd, bydd twyllwyr yn dal i weld cyfleoedd. Er enghraifft, efallai y byddant yn ceisio personadu y diddymwyr neu’n dweud eu bod yn cynrychioli’r diddymwyr ac yn ceisio taliad ymlaen llaw (a threth) gennych chi naill ai i werthu eich buddsoddiad neu ei ryddhau a’i ddychwelyd i chi. Gellir cysylltu dros y ffôn, drwy e-bost neu’r post. Bydd rhai twyllwyr yn esgus bod yn gwmnïau dilys er mwyn gwneud i’w sgam ymddangos yn fwy dilys.

Diogelwch eich hun rhag sgamiau camau adennill

  • Peidiwch â rhoi arian iddynt. Bydd manylion y Diddymwr dilys i’w gweld yn y London Gazette neu drwy Dŷ’r Cwmnïau.
  • Os ydych wedi colli arian gan gwmni sydd wedi’i ddiddymu a bod rhywun yn cysylltu â chi i ofyn i chi dalu ffi neu dreth er mwyn rhyddhau eich buddsoddiad sydd wedi’i ‘ganfod’, dylech ddychwelyd at y Diddymwr a lleisio eich pryderon wrth Action Fraud.

www.thegazette.co.uk

www.beta.companieshouse.gov.uk

Os ydych wedi cael eich targedu gan sgam camau adennill

Peidiwch â theimlo cywilydd. Yn aml, mae twyllwyr yn bobl ddeallus neu’n llwgr-fasnachwyr troseddau cyfundrefnol medrus iawn. Y peth pwysicaf yw rhoi gwybod am y sgam er mwyn helpu i’w atal rhag digwydd i eraill ac atal y twyllwyr. Rhowch wybod amdano i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll ar 0300 123 20 40 neu drwy www.actionfraud.police.uk

Rhagor o wybodaeth

http://www.grantthornton.co.uk/en/insights/investment-scams—asset-tracing–recovering-money/

Mae’r dudalen hon wedi’i llunio gyda chymorth caredig Grant Thornton

See Also...

In Partnership With