English

Sgamiau Trwyddedu Teledu

Mae Trwyddedu Teledu ymhlith y sefydliadau y mae sgamwyr yn ceisio eu dynwared yn rheolaidd. Mae negeseuon twyllodrus ynghylch Trwyddedu Teledu a anfonir drwy ddulliau ar-lein yn dod yn fwyfwy cyffredin.

Os byddwch yn cael unrhyw neges sy’n honni ei bod wedi dod oddi wrth Trwyddedu Teledu rydych yn ansicr yn ei chylch, y peth cyntaf y dylech ei wneud yw STOPIO. Peidiwch â rhuthro i ddatgelu unrhyw wybodaeth bersonol. Bydd sgamwyr yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i geisio cael gwybodaeth gennych – fel arfer drwy e-bost, llythyr, neges destun, galwad ffôn neu ymweliad â’ch cartref hyd yn oed.

Negeseuon e-bost

Gall sgamiau drwy negeseuon e-bost edrych bron union yr un peth â negeseuon dilys. Dyma enghraifft o neges e-bost wirioneddol gan Trwyddedu Teledu, wedi’i labelu i’ch helpu i weld ai sgam yw’r neges rydych wedi’i chael.

Cadarnhewch pwy yw’r anfonwr

Caiff negeseuon e-bost dilys gan Trwyddedu Teledu eu hanfon o gyfeiriad: [email protected] neu [email protected] Ar gyfrifiadur neu liniadur, dylech allu gweld beth yw’r cyfeiriad e-bost go iawn rhwng y symbolau < > . Ond ar ddyfais symudol, efallai y bydd angen i chi ddewis enw’r anfonwr er mwyn gweld y cyfeiriad. Cwsmer Trwyddedu Teledu <[email protected]> Trwydded Teledu

Cod post rhannol

Os byddwch wedi rhoi manylion eich cod post i Trwyddedu Teledu, bydd ei negeseuon e-bost yn cynnwys rhan o’ch cod post a/neu’r enw ar y drwydded.

Chwiliwch am eich enw

Os byddwch wedi rhoi eich enw i Trwyddedu Teledu, bydd bob amser yn cyfeirio atoch gan ddefnyddio eich cyfenw a’ch teitl. Byddwch yn wyliadwrus o negeseuon e-bost sy’n cyfeirio atoch gan ddefnyddio “Annwyl gleient” (“Dear client”) neu “Annwyl gwsmer” (“Dear customer”) – neu sydd ond yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost (neu ran ohono).

Gwiriwch y sillafu a’r gramadeg

Cadwch lygad am sillafiadau ychydig yn wahanol a phethau fel cysylltnodau a gwallau gramadegol eraill, fel atalnodau llawn mewn mannau od. Cofiwch y bydd rhai sgamwyr yn ffugio cyfeiriadau e-bost anfonwyr er mwyn gwneud i’w negeseuon edrych yn ddilys.

Gwiriwch ddolenni

Dylech bob amser wirio dolenni mewn neges e-bost cyn clicio neu dapio arnynt. Byddwch yn arbennig o wyliadwrus o ddolenni sy’n addo arian/ad-daliadau i chi.  Os ydych ar gyfrifiadur:

  • Defnyddiwch eich llygoden i osod y cyrchwr dros y ddolen (ond peidiwch â chlicio arni). Bydd hyn yn datgelu’r cyfeiriad gwe llawn y cewch eich anfon iddo. Os ydych ar ffôn clyfar neu lechen:
  • Pwyswch y ddolen a dal eich bys i lawr (peidiwch â gollwng eich bys tra byddwch ar y ddolen). Bydd hyn yn datgelu’r cyfeiriad gwe llawn y cewch eich anfon iddo.

Os nad ydych yn siŵr

Peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni na rhannu unrhyw fanylion personol. Mewngofnodwch yn tvl.co.uk/yourlicence – gan ddefnyddio rhif eich trwydded, yr enw ar y drwydded a’r cod post – er mwyn gwirio eich trwydded, y dyddiad dod i ben a’r manylion talu.

Negeseuon testun

Sut mae dweud a yw neges destun wirioneddol oddi wrth Trwyddedu Teledu ai peidio.

Pan fyddwch yn cael neges destun wirioneddol

  • Os ydych yn gwsmer Trwyddedu Teledu sy’n talu â cherdyn, efallai y byddwch yn cael neges destun yn gofyn i chi wneud taliad. Os ydych yn gwsmer ar y Cynllun Talu Syml, bydd y ddolen yn mynd â chi i’r darparwr talu diogel (tvlspp.paythru.com).
  • Os ydych wedi cofrestru i dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol, efallai y byddwch yn cael neges destun yn gadael i chi wybod pryd y cymerir eich taliad cyntaf.
  • Os ydych wedi cysylltu â Trwyddedu Teledu dros y ffôn neu drwy ei wasanaeth awtomataidd, efallai y bydd yn anfon neges yn cadarnhau neu arolwg boddhad atoch.
  • Os ydych yn cael eich trwydded  drwy’r post, efallai y bydd yn anfon neges atoch yn gofyn i chi fynd yn ddi-bapur.

Galwadau ffôn

O bryd i’w gilydd, efallai y bydd Trwyddedu Teledu yn eich ffonio os oes problem gyda’ch Trwydded Deledu.  Fel arfer bydd hyn yn gysylltiedig â thaliad a gollwyd, Debyd Uniongyrchol a ganslwyd, neu i’ch atgoffa i adnewyddu.

Bydd Trwyddedu Teledu yn eich ffonio o un o’r rhifau canlynol: 0300 790 6075, 0300 555 0285 neu 0300 555 0355. Cofiwch fod rhai twyllwyr yn defnyddio technoleg i ffugio rhifau galwyr er mwyn gwneud i’w galwadau edrych yn ddilys.

Os nad ydych yn siŵr a yw’r alwad yn ddilys, peidiwch â darparu unrhyw wybodaeth bersonol. Gallwch fewngofnodi i’ch trwydded yn tvl.co.uk/yourlicence i weld eich cynllun talu ac i weld a oes angen cymryd unrhyw gamau. Os ydych wedi cysylltu â Trwyddedu Teledu gydag ymholiad, efallai y bydd aelod o’r tîm yn eich ffonio yn ôl i’w drafod. Efallai y daw’r alwad hon o rif ffôn wedi’i guddio, ond bydd yr alwad ond yn ymwneud â’r ymholiad a godwyd gennych.

See Also...

In Partnership With