English

Sgamiau Danfon

Mae cyfyngiadau a gyflwynwyd yn ystod pandemig COVID-19 wedi arwain at gynnydd enfawr yn nifer y pryniannau ar-lein ac, yn eu tro, ddanfoniadau i’r cartref, ac mae’n bur debyg y bydd hyn yn parhau gan fod cymaint o ddewis ac am ei fod mor hwylus. Fodd bynnag, yn anffodus mae hyn wedi creu cyfle delfrydol i dwyllwyr.

Gan fod llawer o bobl yn prynu cymaint o bethau ar-lein, gall fod yn hawdd anghofio beth sydd i fod i gael ei ddanfon, ar ba ddiwrnod a chan ba gludwr, sy’n gwneud y negeseuon twyllodrus yn fwy dilys.

Y risgiau

  • Rydych yn cael ac yn ymateb i neges e-bost neu neges destun ffug sy’n honni ei bod oddi wrth y Post Brenhinol neu gwmni danfon adnabyddus arall, yn rhoi gwybod bod parsel ar fin cael ei ddanfon ond bod angen i chi dalu ‘ffi ddosbarthu’ (shipping fee). Bydd dolen yn mynd â chi i wefan dwyllodrus (ond sy’n edrych yn ddilys yn aml) lle bydd gofyn i chi ddarparu manylion cyfrinachol, neu a fydd yn llwytho maleiswedd fel ysbïwedd neu feddalwedd wystlo ar eich dyfais.
  • Fel uchod, ond bydd y neges yn rhoi gwybod i chi nad oeddech i mewn pan geisiwyd danfon parsel, a bod angen talu ffi er mwyn iddo gael ei ailddanfon.
  • Rydych yn prynu eitem ddrud ac yn talu amdani. Mae’r gwerthwr yn anfon pecyn gwag yn fwriadol – a fydd fel arfer yn pwyso’r un faint â’r archeb go iawn – naill ai i’ch cyfeiriad neu i gyfeiriad gwahanol (fel eiddo masnachol) lle mae’n gwybod y bydd yn cael llofnod fel prawf o ddanfon y pecyn heb i’r derbynnydd edrych yn y blwch. Pan fyddwch yn rhoi gwybod na chafodd yr eitem ei danfon, er i chi gael hysbysiad yn dweud hynny, bydd y llofnod yn dangos i’r gwrthwyneb a chi fydd yn atebol.
  • Rydych wedi ceisio prynu eitem a’i hychwanegu at eich basged siopa, yna cewch neges e-bost yn dweud na ellir ei dosbarthu i’ch lleoliad. Ar ôl ychydig ddyddiau, cewch neges e-bost arall yn dweud bod yr eitem wedi cael ei dosbarthu ac yn gofyn i chi drosglwyddo’r taliad. Mae’r twyllwr wedi dargyfeirio’r gwerthiant oddi wrth y broses dalu, nid oes cynnyrch yn cyrraedd ac rydych wedi colli eich arian.
  • Mae’r twyllwr yn anfon neges e-bost i gadarnhau bod eich archeb wedi’i phrosesu, ond mae’r cyfeiriad dosbarthu yn anghywir. Yna gofynnir i chi glicio ar ddolen i ddiwygio’r wybodaeth, ond mae’n arwain at wefan ffug sy’n llawn maleiswedd.
  • Rydych yn cael neges e-bost yn honni ei bod oddi wrth un o’r cwmnïau danfon parseli adnabyddus, gyda ffeil atodedig yn honni mai nodyn danfon neu hysbysiad tracio ydyw. Mae agor yr atodiad yn arwain at ymosodiad maleiswedd ar eich dyfais.

Amddiffynnwch eich hun rhag sgamiau danfon

  • Peidiwch â chlicio ar ddolenni nac agor atodiadau mewn negeseuon neu negeseuon e-bost digymell, hyd yn oed os bydd cyfeiriad neu rif yr anfonwr yn ymddangos yn ddilys oherwydd gallai fod wedi cael ei ffugio.
  • Ni fyddai cwmni danfon parseli na’r Post Brenhinol yn codi ffi ar y derbynnydd.
  • Os bydd gennych unrhyw amheuon, ffoniwch y sefydliad go iawn y mae’r neges yn honni ei bod wedi dod oddi wrtho, ar y rhif y gwyddoch ei fod yn gywir.
  • Cadwch gofnod o’r hyn rydych wedi’i archebu ar-lein neu dros y ffôn bob amser – gan gynnwys dyddiad danfon a manylion y danfonwr, os cânt eu nodi.

See Also...

In Partnership With