English

Sgamiau Buddsoddi

Mae sgamiau buddsoddi yn ymwneud â throseddwyr yn cysylltu â phobl ar hap i’w perswadio i roi eu harian mewn cynlluniau neu gynhyrchion buddsoddi nad ydynt yn bodoli, neu sy’n bodoli ond yn ddi-werth. Yn draddodiadol, bydd cyflwyniadau gwerthu yn addo adenillion sylweddol gyda dim ond ychydig o risg ond, yn gynyddol, mae’r ‘adenillion’ yn lleihau er mwyn gwneud y stori yn fwy credadwy.

Mae sawl math o sgamiau buddsoddi … efallai y byddwch wedi clywed am yr ymadroddion ‘boiler room fraud’, ‘ponzi scheme’ neu ‘hedge fund fraud’. I bob pwrpas, enwau ar fuddsoddiadau twyllodrus yw’r rhain a llawer o rai eraill. Dywedir bod yr arian yn cael ei ‘fuddsoddi’ mewn llawer o feysydd gwahanol, gan gynnwys cronfeydd, cyfranddaliadau neu fondiau, cyfnewidfa dramor, eiddo, gwinoedd crand a darnau arian neu stampiau. Fodd bynnag, mae sgamwyr yn dechrau troi mwy at feysydd fel cêl-arian neu ynni adnewyddadwy.

Bydd troseddwyr yn esgus bod yn rheolwyr cronfeydd, yn froceriaid stoc, yn gynghorwyr ariannol ac yn arbenigwyr ar fuddsoddi. Efallai y byddant yn cysylltu â chi drwy neges e-bost neu neges destun, neu drwy alwad ffôn neu lythyr. Yn gyffredinol, byddant yn gyfarwydd iawn â marchnadoedd ariannol, sy’n golygu y gall eu cyflwyniad fod yn argyhoeddiadol iawn. Byddant yn creu gwefannau a deunyddiau cefnogi gwerthiannau credadwy, ynghyd â geirdaon gan ‘fuddsoddwyr hapus’ eraill sy’n edrych yn ddilys ac, weithiau, byddant hyd yn oed yn cynnal seminarau er mwyn iddynt wneud eu cyflwyniad wyneb yn wyneb.

Sut ydych yn gwybod a yw rhywun yn ceisio cyflawni twyll buddsoddi yn eich erbyn

Mae arwyddion nodweddiadol sgam buddsoddi yn cynnwys y canlynol:

  • Adenillion afrealistig o uchel ar eich buddsoddiad, ond nid dyma’r achos bob tro.
  • Pwysau amser – bydd yn dweud wrthych mai dim ond am gyfnod byr mae’r cyfle ar gael, neu y cewch fonws neu ostyngiad os byddwch yn buddsoddi cyn rhyw ddyddiad penodol.
  • Geirdaon – bydd yn rhannu adolygiadau ffug ac yn dweud wrthych fod cleientiaid eraill wedi cael adenillion sylweddol neu’n awyddus iawn i fanteisio ar y cynnig hwn.
  • Siarad ag awdurdod am gynlluniau a chynhyrchion buddsoddi, a defnyddio gwefannau a llyfrynnau argyhoeddiadol gan honni eu bod wedi’u rheoleiddio.
  • Ceisio meithrin cyfeillgarwch â chi neu eich seboni.
  • Bydd rhai twyllwyr yn gofyn i chi lawrlwytho meddalwedd neu alluogi mynediad o bell i’ch cyfrifiadur er mwyn ‘gwneud y broses yn haws’. Byddai caniatáu hyn bron yn sicr yn arwain at lwytho ysbïwedd ar y ddyfais, a/neu’n rhoi mynediad i’r twyllwr i’ch cyfrif banc neu gyfrifon eraill.

Amddiffyn eich hun

  • Os bydd unigolyn neu sefydliad yn cysylltu â chi yn annisgwyl am gyfle buddsoddi, dylech ystyried ei fod naill ai’n sgam neu’n fuddsoddiad sydd â risg uchel.
  • Er y bydd y rhan fwyaf o sgamwyr buddsoddi yn cysylltu â’u targed dros y ffôn, gallant gysylltu drwy neges e-bost, llythyr, post ar y cyfryngau cymdeithasol neu hyd yn oed ar lafar gwlad neu mewn seminar neu arddangosfa. Weithiau, efallai y byddwch yn cael neges e-bost neu daflen drwy’r post, ac yna alwad ffôn yn cyfeirio ati er mwyn gwneud y sgam yn fwy credadwy.
  • Os cewch alwad ddiwahoddiad yn cynnig buddsoddiad, peidiwch â dechrau sgwrs, rhowch y ffôn i lawr.
  • Os cewch neges ar-lein neu neges destun am fuddsoddiad, dylech ei hanwybyddu ac, os mai neges e-bost ydyw, dylech ei dileu. Peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni nac atodiadau.
  • Ystyriwch gofrestru â’r Telephone Preference Service a’r Mailing Preference Service i leihau nifer y galwadau a’r llythyrau digymell rydych yn eu cael.
  • Efallai y bydd galwyr yn esgus nad yw’n alwad ddiwahoddiad drwy gyfeirio at lyfryn neu neges e-bost y maent eisoes wedi’i (h)anfon.
  • Nid yw’n anghyffredin i ddioddefwyr sgamiau gael eu targedu eto naill ai gan y sgamiwr gwreiddiol neu droseddwr arall sydd wedi prynu eu manylion ar y we dywyll. Dylech hefyd anwybyddu galwadau/negeseuon digymell yn cynnig cymorth i adennill arian a gollwyd i sgam – ‘sgam ystafell adfer’ yw’r enw ar hyn.

Chwiliwch am awdurdodiad gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol

Yn y DU, mae’n rhaid i bron pob cwmni gwasanaethau ariannol gael ei awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

  • Defnyddiwch y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol (Financial Services Register) i gadarnhau bod cwmnïau wedi’u hawdurdodi neu eu cofrestru i gynnal busnes ariannol. Sicrhewch eich bod yn agor y Gofrestr o wefan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, ac nid drwy glicio ar ddolen mewn – neu drwy gopïo a gludo cyfeiriad o – neges gan y sawl sydd wedi cysylltu â chi.
  • Cadarnhewch fod ‘cyfeirnod y cwmni’ (firm reference number/FCN) a’i fanylion cyswllt yr un peth â’r rhai sydd wedi’u rhestru ar y Gofrestr.
  • Os nad oes manylion cyswllt ar y Gofrestr neu os bydd y cwmni yn honni eu bod yn hen, ffoniwch Linell Gymorth Defnyddwyr yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar 0800 111 6768.
  • Gallech edrych ar Restr Rybuddio’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol i weld cwmnïau ac unigolion nad ydynt wedi’u hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Fodd bynnag, cadwch mewn cof nad yw’r rhestr hon hyn gynhwysfawr a, hyd yn oed os nad yw’r enw yn ymddangos, gallai fod yn sgam o hyd.
  • Os byddwch yn defnyddio cwmni awdurdodedig, bydd mynediad at brosesau diogelu Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol a’r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol yn dibynnu ar y buddsoddiad rydych yn ei wneud a’r gwasanaeth y mae’r cwmni yn ei ddarparu. Fodd bynnag, os byddwch yn defnyddio cwmni anawdurdodedig, ni fyddwch yn gallu defnyddio Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol na’r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol os bydd pethau’n mynd o chwith. Mae hyn yn golygu y bydd yn annhebygol y byddwch yn adfer unrhyw golledion o’r twyll.
  • Nid yw pob buddsoddiad (fel gwin) wedi’i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Dysgwch fwy ar y dudalen am gynhyrchion buddsoddi anrheoleiddiedig.
  • Os byddwch yn delio â chwmni tramor, dylech gadarnhau gyda’r rheoleiddiwr yn y wlad honno. Hefyd, edrychwch ar rybuddion rheoleiddwyr tramor am sgamiau.

Cyngor arall

  • Cadarnhewch fod y sefydliad yn ddilys, ac nad ‘cwmni clôn’ ydyw. Defnyddiwch y manylion cyswllt ar Gofrestr yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol bob amser, nid y manylion a ddarperir yn y neges. Dylech hefyd gadarnhau manylion y cwmni â Thŷ’r Cwmnïau neu Ymholiadau Cyfeiriadur (Directory Enquiries) i wneud yn siŵr eu bod yr un peth.
  • Ceisiwch gyngor neu ganllawiau ariannol diduedd cyn buddsoddi. Dylech wneud yn siŵr bod unrhyw gwmni rydych yn delio ag ef wedi’i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Peidiwch â dilyn cyngor buddsoddi gan y cwmni na’r unigolyn sydd wedi cysylltu â chi, oherwydd gallai hyn fod yn rhan o’r sgam.
  • Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am fuddsoddi a sut i ddod o hyd i gynghorydd ariannol gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, neu gorff sy’n cynrychioli’r diwydiant fel PIMFA.
  • Mae gan wasanaeth MoneyHelper a weithredir gan y llywodraeth wybodaeth am fuddsoddi a gwybodaeth am sut i ddod o hyd i gynghorydd ariannol. Fel arall, gallech gael rhagor o wybodaeth gan grŵp sy’n cynrychioli cynghorwyr, fel PIMFA.

Rhoi gwybod am sgamiau buddsoddi

  • Os ydych yn amau mai twyllwr sydd wedi cysylltu â chi ynghylch buddsoddiad, cysylltwch â’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol drwy ffonio’r Llinell Gymorth Defnyddwyr ar 0800 111 6768 neu drwy ddefnyddio ei ffurflen adrodd.
  • Os ydych yn meddwl bod y sgamiwr yn ffugio bod yn gwmni dilys, dylech hefyd roi gwybod i’r busnes hwnnw am y twyll, neu’r ymgais i dwyllo.
  • Os ydych wedi rhoi manylion eich cyfrif banc i gwmni neu unigolyn ac rydych yn credu y gall fod yn gweithredu sgam, rhowch wybod i’ch banc ar unwaith.
  • Os ydych wedi cytuno i drosglwyddo eich pensiwn ac rydych nawr yn amau mai sgam ydyw, cysylltwch â darparwr eich pensiwn ar unwaith. Efallai y bydd yn gallu atal y trosglwyddiad os nad yw wedi digwydd eto.

See Also...

In Partnership With