English

Setiau Teledu Clyfar

Mae setiau teledu clyfar (a elwir yn setiau teledu cysylltiedig hefyd) yn integreiddio’r teledu â’r rhyngrwyd. Pan fyddant wedi’u cysylltu â’r rhyngrwyd, maent yn eich galluogi i chwilio a dod o hyd i fideos, ffilmiau, ffotograffau a chynnwys arall ar y we drwy ryngweithio drwy eich teclyn rheoli o bell – neu gyda rhai modelau, drwy eich ffôn clyfar neu lechen. Felly, gallwch chwilio’r rhyngrwyd, cael mynediad i’r cyfryngau cymdeithasol a defnyddio apiau fel Netflix, Skype a YouTube heb orfod newid rhwng dyfeisiau. Mae gwe-gamera yn rhan o rai ohonynt hefyd. Mae gan rai setiau teledu clyfar hefyd y gallu i fonitro a dadansoddi hanes eich defnydd, data a ddefnyddir i wneud argymhellion ar gyfer rhaglenni a chynnwys y byddech yn ei hoffi o bosibl.

Y risgiau

  • Mae cysylltiad â’ch Wi-Fi yn golygu y gellid cael mynediad i’ch teledu clyfar heb eich awdurdod, gan arwain at y canlynol:
    • Rhywun yn gweld eich hanes gwylio, pori a hanes defnyddio arall a’i ddefnyddio yn eich erbyn at ddibenion anghyfreithlon.
    • Rhywun yn gweld eich hanes gwylio, pori a hanes defnyddio arall a’i ddefnyddio i’ch targedu gyda negeseuon hysbysebu.
    • Cael eich targedu gyda negeseuon hysbysebu uniongyrchol sy’n seiliedig yn benodol ar yr hyn rydych yn ei wneud o flaen y teledu clyfar.
    • Rhywun yn herwgipio gwe-gamera a microffon eich set deledu glyfar (os oes rhai wedi’u gosod) er mwyn gwylio/clustfeinio arnoch chi a’ch teulu, neu ganfod pa eiddo personol sydd gennych.
    • Mynediad at wybodaeth, ffotograffau a data eraill ar ddyfeisiau storio (fel cofau USB) sydd wedi’u cysylltu â’r set deledu glyfar.
    • Eich set deledu glyfar yn dod yn rhan o fotrwyd, a ddefnyddir fel arfer i ymosod ar wefannau corfforaethol neu wefannau’r llywodraeth.

Diogelu eich Preifatrwydd

  • Yn syml, os nad ydych am gymryd y risg y bydd eich arferion defnyddio yn cael eu monitro, datgysylltwch eich set deledu glyfar o’r rhyngrwyd. Fodd bynnag, bydd hyn yn golygu na fyddwch yn gallu defnyddio ei nodweddion ar-lein.
  • Os mai dim ond pryderu y caiff eich gwe-gamera a microffon eu herwgipio ydych chi, rhowch dâp anhryloyw neu nodyn gludiog drostynt. Bydd y cyfleuster sy’n eich galluogi i reoli eich teledu o’ch symudiadau hefyd yn cael ei analluogi.

See Also...

In Partnership With