English

Seiberstelcio

Mae stelcio ac aflonyddu wedi digwydd erioed, ond ers twf y rhyngrwyd, mae wedi dod yn haws i bobl wneud hynny naill ai fel estyniad o’u gweithgareddau presennol, neu ar-lein yn unig. Mae’r cyswllt digroeso mynych ac aml hwn gan unigolyn arall yn annymunol iawn i ddioddefwyr gwrywaidd neu fenywaidd a gall arwain at anesmwythder a dicter ar ei orau, a phryder a thrawma meddyliol difrifol ar ei waethaf.

Gall seiberstelcwyr fod yn ddieithriaid neu’n bobl rydych chi’n eu hadnabod (cyn-bartneriaid weithiau), a gall fod ganddyn nhw sawl cymhelliad gwahanol. Po fwyaf penderfynol neu obsesiynol y bydd stelcwyr, y mwyaf tebygol y byddant o symud o un sianel ar-lein i un arall nes byddant wedi ymyrryd yn llwyr ar eich presenoldeb ar-lein. Byddant yn aml yn cael gwybodaeth amdanoch drwy eich manylion ar-lein o faterion personol ac ariannol, cydberthnasau, bywyd cymdeithasol a gwaith a’ch lleoliad.

Ym mis Tachwedd 2012, cafodd stelcio ei enwi fel trosedd yng Nghymru a Lloegr am y tro cyntaf.

Y risgiau

  • Dwyn hunaniaeth – rhywun yn rheoli eich manylion
  • Rhywun yn cymryd eich cyfrifon ar-lein drosodd
  • Rhywun yn cael ac yn defnyddio eich manylion cyswllt
  • Canfod eich lleoliad a’ch tracio drwy GPS ar ffonau symudol, dyfeisiau tracio neu ysbïwedd ar ffonau
  • Rhywun yn postio proffiliau ffug ar rwydweithiau cymdeithasol a safleoedd eraill
  • Rhywun yn creu gwefannau, blogiau a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol maleisus amdanoch chi
  • Rhywun yn esgus mai chi ydyw (personadu) gan fynd ati i stelcio eraill, a gwneud iddo edrych fel mai chi sy’n euog
  • Rhywun yn dwyn anfri arnoch ar gyfryngau cymdeithasol a chymunedau ar-lein eraill
  • Rhywun yn dwyn anfri arnoch yn eich gweithle
  • Cael bygythiadau uniongyrchol drwy negeseuon e-bost/uniongyrchol
  • Rhywun yn stelcio eich perthnasau, ffrindiau neu gydweithwyr neu’n aflonyddu arnynt (ar gyfartaledd, bydd stelciwr yn cysylltu â 21 o bobl sy’n gysylltiedig â’r dioddefwr)
  • Defnyddio eich delwedd
  • Eraill yn cael eu pryfocio i ymosod arnoch
  • Dwysáu i drais corfforol
  • Y stelciwr yn cymryd eich cyfrifon ar-lein drosodd
  • Anhwylder Straen wedi Trawma

Diogelu eich hun rhag Seiberstelcio

  • Adolygwch pa wybodaeth ar-lein sy’n bodoli amdanoch a gwnewch yn siŵr bod cyn lleied â phosibl o wybodaeth ar gael
  • Newidiwch eich e-bost a’ch cyfrineiriau ar gyfer cyfrifon ar-lein allweddol yn rheolaidd a’u cadw’n ddiogel
  • Adolygwch eich holl osodiadau preifatrwydd a diogelwch
  • Osgowch fforymau cyhoeddus
  • Gwnewch yn siŵr fod y feddalwedd gwrthysbïwedd ddiweddaraf wedi ei gosod ar eich cyfrifiadur a’ch dyfeisiau symudol a’u bod wedi’u troi ymlaen
  • Gwnewch yn siŵr fod y gosodiad diogelwch wedi’i droi ymlaen ar eich hwb di-wifr/llwybrydd.
  • Oni fyddwch yn defnyddio tudalen we ddiogel, peidiwch ag anfon na derbyn gwybodaeth breifat wrth ddefnyddio WiFi cyhoeddus
  • Cyfyngwch ar y wybodaeth bersonol ac ariannol rydych yn ei rhannu ar-lein ac all-lein
  • Addysgwch ffrindiau, teulu a chydweithwyr am y risgiau

Os yw Seiberstelcio yn Effeithio arnoch

  • Casglwch a dogfennwch gymaint o dystiolaeth ag y gallwch
  • Rhowch wybod i’r heddlu am y stelcio
  • Ceisiwch help a chymorth gan sefydliadau perthnasol, er enghraifft y Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Achosion o Stelcio ar 0808 802 0300, neu anfonwch e-bost i [email protected]
  • Mae gan y rhan fwyaf o safleoedd rhwydweithio cymdeithasol ddull o adrodd am faterion o’r fath, er enghraifft Facebook, cliciwch yma. Mae Twitter hefyd yn cyflwyno botwm ‘Adrodd am Gamdriniaeth’ mewn trydariad ar bob ap ac ar ei wefan

Os ydych wedi wynebu seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.

 

See Also...

In Partnership With