English

Seiberfwlio

Gall bwlio ar-lein – fel bwlio yn yr iard chwarae, ar y stryd neu yn y cartref – beri gofid i blant. Dylai eich plentyn bob amser ddweud wrthych os a phryd y bydd hyn yn digwydd iddo.

Rhaid iddo hefyd gael gwybod ei bod yn anghywir tecstio, ysgrifennu neu rannu unrhyw beth sy’n peri tramgwydd, loes neu fath arall o niwed i unrhyw un mewn unrhyw ffordd, yn cynnwys rhywun nad yw’n ei hoffi – neu nad yw’n ei adnabod. Dylech wneud yn siŵr ei fod yn ymwybodol o sut y byddai’n teimlo pe byddai ar ben arall ymddygiad o’r fath.

Os yw ar gyfrifiadur, cadwch gofnod o’r neges bwlio drwy ddefnyddio’r allwedd ‘Print Screen’ ar eich bysellfwrdd. Os yw ar ddyfais symudol, defnyddiwch y camera.

Hefyd … gwnewch yn siŵr fod eich plentyn yn gwybod bod yn rhaid iddo amddiffyn ei gyfrifiadur a’i ddyfais symudol â chyfrinair neu PIN fel na ellir copïo neu ryng-gipio hyd yn oed y neges destun neu e-bost fwyaf didaro a’i defnyddio i fwlio rhywun arall yn ei enw.

Rhagor o Wybodaeth

www.nspcc.org.uk/preventing-abuse/child-abuse-and-neglect/bullying-and-cyberbullying 

www.childline.org.uk/info-advice/bullying-abuse-safety/types-bullying/online-bullying/

 

 

See Also...

In Partnership With