English

Safleoedd Rhwydweithio Cymdeithasol

Mae rhwydweithio cymdeithasol yn chwyldro byd-eang, sy’n galluogi biliynau o bobl ledled y byd i gadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau, i rannu profiadau a ffotograffau a chyfnewid cynnwys personol. Mewn sawl ffordd, mae wedi disodli’r ffôn ac e-bost. Mae wedi dod yn ffordd o fyw i lawer o ddefnyddwyr.

Mae safleoedd rhwydweithio cymdeithasol amrywiol hefyd yn adnoddau gwerthfawr a ddefnyddir gan lawer o gwmnïau ac unigolion i ehangu eu cysylltiadau a rhannu negeseuon marchnata.

Mae natur rhwydweithio cymdeithasol – cael sylfaen anferth o ddefnyddwyr nad ydych yn eu hadnabod – yn golygu bod rhywfaint o risg yn cynnwys bod yn darged i seiberdroseddwyr.

Y risgiau

  • Datgelu gwybodaeth breifat gennych chi neu ffrindiau/cysylltiadau.
  • Bwlio.
  • Seiber stelcio.
  • Mynediad i gynnwys sy’n amhriodol i rai oedrannau.
  • Paratoi at bwrpas rhyw a cham-drin plant.
  • Dod ar draws sylwadau sy’n ymosodol, rhywiol, eithafol neu hiliol eu natur, neu weithgareddau sarhaus ac agweddau atgas.
  • Pobl yn ceisio eich darbwyllo neu eich poenydio i newid eich credoau neu ideolegau sylfaenol, neu fabwysiadu safbwynt eithafol.
  • Erlyniad neu wrthgyhuddiad am bostio sylwadau ffiaidd neu amhriodol.
  • E-byst gwe-rwydo sy’n honni eu bod o safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, ond sydd mewn gwirionedd yn eich annog i ymweld â gwefannau twyllodrus neu amhriodol.
  • Pethau y mae ffrindiau, pobl eraill a chwmnïau wedi’u postio yn eich annog i fynd i wefannau twyllodrus neu amhriodol.
  • Pobl yn hacio i mewn i’ch cyfrif neu dudalen neu’n eu eu cymryd drosodd.
  • Feirysau neu ysbïwedd wedi’u cynnwys mewn atodiadau negeseuon neu ffotograffau.
  • Chi neu aelod o’ch teulu yn postio eich bod i ffwrdd neu’n mynd i ffwrdd ar wyliau ac felly’n hysbysebu’r ffaith bod eich cartref yn wag, sy’n gadael y ffordd yn glir i ladron. Os byddwch yn gwneud hynny ac yn hawlio yswiriant am ladrad a ddigwyddodd pan oeddech i ffwrdd, efallai y bydd eich cwmni yswiriant yn ei wrthod am y rheswm hwn.

Rhwydweithio Cymdeithasol Diogel

Gallwch osgoi’r risgiau hyn a mwynhau defnyddio safleoedd rhwydweithio cymdeithasol drwy ddilyn rhai canllawiau synhwyrol:

  • Peidiwch â gadael i bwysau gan gyfoedion neu beth mae pobl eraill yn ei wneud ar y safleoedd hyn eich darbwyllo i wneud rhywbeth nad ydych yn gyfforddus ag ef.
  • Byddwch yn wyliadurus ynghylch cyhoeddi unrhyw wybodaeth amdanoch eich hun – naill ai yn eich proffil neu yn y pethau rydych yn eu postio – fel rhifau ffôn, lluniau o’ch cartref, eich gweithle neu ysgol, eich cyfeiriad neu eich pen-blwydd.
  • Dewiswch enw defnyddiwr nad yw’n cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol. Er enghraifft, byddai, “joe_glasgow” neu “jane_liverpool” yn ddewisiadau gwael.
  • Sefydlwch gyfrif e-bost ar wahân i gofrestru a derbyn post o’r safle. Fel hynny, os byddwch am gau eich cyfrif/tudalen, gallwch roi’r gorau i ddefnyddio’r cyfrif post hwnnw. Mae sefydlu cyfrif e-bost newydd yn syml iawn ac yn gyflym i’w wneud gan ddefnyddio darparwyr fel Hotmail, Yahoo! Mail neu gmail.
  • Defnyddiwch gyfrineiriau cryf.
  • Cadwch eich proffil wedi’i gau a dylech ond adael i’ch ffrindiau weld eich proffil.
  • Mae’r hyn sy’n mynd ar-lein yn aros ar-lein. Peidiwch â dweud unrhyw beth na chyhoeddi lluniau a allai godi cywilydd arnoch chi neu rywun arall yn ddiweddarach.
  • Peidiwch byth â phostio sylwadau sy’n sarhaus neu a allai beri tramgwydd i unigolion eraill neu grwpiau cymdeithasol.
  • Byddwch yn ymwybodol o beth mae ffrindiau yn ei bostio amdanoch, neu’n ymateb i’r pethau rydych yn eu postio, yn benodol ynghylch eich manylion personol a’ch gweithgareddau.
  • Cofiwch fod llawer o gwmnïau yn edrych ar dudalennau rhwydweithio cymdeithasol cyflogeion presennol neu ddarpar gyflogeion yn rheolaidd, felly byddwch yn ofalus ynghylch beth rydych yn ei ddweud, pa luniau rydych yn eu rhannu a’ch proffil.
  • Peidiwch â rhannu dyddiadau gwyliau – na ffotograffau o’r teulu pan fyddwch i ffwrdd – gan fod safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yn adnodd ymchwilio poblogaidd i’r lleidr modern.
  • Dysgwch sut i ddefnyddio’r safle yn briodol. Defnyddiwch y nodweddion preifatrwydd i gyfyngu ar fynediad dieithriaid i’ch proffil. Byddwch yn ofalus pwy rydych yn gadael iddynt ymuno â’ch rhwydwaith.
  • Byddwch yn wyliadwrus ynghylch sgamiau gwe-rwydo, yn cynnwys ceisiadau ffug i fod yn ffrind ac unigolion neu gwmnïau yn eich gwahodd i ymweld â thudalennau neu safleoedd eraill.
  • Os byddwch yn cael eich twyllo gan sgam, gwnewch yn siŵr eich bod yn dileu unrhyw achosion o hoffi a chaniatáu apiau o’ch cyfrif.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg cyn i chi fynd ar-lein.

Am ragor o Wybodaeth

Ceir rhagor o gyngor ar ddefnyddio safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yn ddiogel ar safle ThinkuKnow.

Neu ewch i dudalennau diogelwch ar-lein y safleoedd rhwydweithio cymdeithasol eu hunain. Dyma rai o’r rhai mwyaf poblogaidd:

Facebook

Twitter

Myspace

YouTube

Instagram

Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.

 

In Partnership With