Safleoedd Ocsiwn

Mae safleoedd arwerthiannau ar-lein yn ffordd boblogaidd iawn o brynu a gwerthu nwyddau newydd ac ail law. Fodd bynnag, mae risgiau yn gysylltiedig â defnyddio safleoedd arwerthiannau – ac mae rhai ohonynt yn wahanol i siopa ar-lein arferol. Felly, mae angen i chi gymryd gofal o’r hyn rydych yn ei brynu a gan bwy, pwy rydych yn gwerthu iddo, a sut rydych yn talu am eich pwrcasiadau neu’n cael eich talu am eitemau rydych yn eu gwerthu.

Y risgiau

  • Siopau ffug – gwefannau ffug a chynigion dros e-bost ar gyfer nwyddau a gwasanaethau nad ydynt yn bodoli.
  • Cael nwyddau nad ydynt yn cyfateb i ddisgrifiad yr hysbysebwr.
  • Peidio â derbyn nwyddau rydych wedi talu amdanynt.
  • Peidio â derbyn taliad am nwyddau rydych wedi’u dosbarthu.
  • Cael eich perswadio i werthu’n gynnar neu am bris isel. Fel arfer, bydd y cynigion gorau yn dod tuag at ddiwedd cyfnod yr arwerthiant.
  • Eich hunaniaeth mewn arwerthiant yn cael ei dwyn a’i defnyddio mewn ffordd dwyllodrus.
  • Eich gwybodaeth bersonol/ariannol yn cael ei dwyn a’i defnyddio mewn ffordd dwyllodrus.
  • Negeseuon e-bost gwe-rwydo, y mae’n ymddangos eu bod o safleoedd arwerthiannau neu dalu ar-lein neu sydd mewn gwirionedd gan droseddwyr sy’n ceisio eich denu i ymweld â gwefan ffug er mwyn cael eich gwybodaeth bersonol fel manylion mewngofnodi ar gyfer eich cyfrif talu ar-lein.

Defnyddio Arwerthiannau Ar-lein yn Ddiogel

  • Os ydych yn newid i arwerthiannau ar-lein, cymerwch amser i ddarllen y canllawiau ar-lein a ddarperir gan y cwmni arwerthiant er mwyn deall sut mae’r system yn gweithio a beth yw’r rheolau.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall yr hyn y gall y cwmni arwerthiant ei wneud (a’r hyn na all ei wneud) os bydd rhywbeth yn mynd o’i le.
  • Defnyddiwch enw mewngofnodi ar gyfer y safle arwerthiant sy’n wahanol i’ch cyfeiriad e-bost.
  • Diweddarwch eich gwybodaeth gyswllt yn cynnwys eich cyfeiriad e-bost.
  • Ymchwiliwch i fanylion y prynwr neu’r gwerthwr – p’un a yw’n unigolyn preifat neu’n siop ar-lein. Edrychwch ar ei broffil, ei sgôr a’i hanes o ran trafodion. Efallai na fydd gan brynwyr a gwerthwyr newydd hanes cynhwysfawr iawn, felly byddwch yn fwy gwyliadwrus.
  • Os mai busnes yw’r gwerthwr, gwnewch yn siŵr ei fod yn bodoli yn y byd go iawn. Os bydd yn rhoi rhif ffôn neu gyfeiriad, rhowch alwad iddo. Efallai y bydd yn anoddach olrhain gwerthwyr y tu allan i’r DU os bydd problem.
  • Edrychwch ar bolisïau preifatrwydd a dychwelyd siopau ar-lein.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn glir ynghylch costau morgludo a dosbarthu (er enghraifft, p’un a ydynt wedi’u cynnwys ai peidio, ac os nad ydynt, a ydynt wedi’u nodi’n glir).
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn glir ynghylch dulliau o dalu a ph’un a godir gordal am unrhyw un ohonynt.
  • Dim ond gwybodaeth bersonol hollol angenrheidiol y dylech ei rhoi i brynwyr a gwerthwyr, fel eich cyfeiriad at ddibenion casglu neu ddosbarthu.
  • Dylech wneud yn siŵr fod yr holl fanylion prynu yn gywir cyn cadarnhau’r taliad.
  • Gwnewch yn siŵr nad yw hysbysiadau o ohebiaeth rhyngoch chi a’ch prynwr neu werthwr yn cael eu blocio gan hidlwyr sbam, drwy edrych yn eich ffolder sbam yn rheolaidd.
  • Peidiwch â chael eich twyllo gan geisiadau i gau arwerthiannau yn gynnar.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael eich talu cyn dosbarthu nwyddau.
  • Wrth wneud taliad i unigolyn, peidiwch byth â throsglwyddo’r arian yn uniongyrchol i’w gyfrif banc. Yn hytrach, defnyddiwch safle talu’n ddiogel fel PayPal, lle caiff taliad ei drosglwyddo rhwng dau gyfrif electronig.

A chofiwch bob amser…

  • Defnyddiwch gyfrineiriau cryf. Peidiwch byth â datgelu eich cyfrineiriau ar gyfer arwerthiannau neu wneud taliadau ar-lein i neb.
  • Os ydych yn meddwl bod eich arwerthiant neu gyfrif talu ar-lein wedi cael ei beryglu, gweithredwch ar unwaith. Ewch ar dudalen gymorth ar-lein y safle.
  • Pwyllwch cyn clicio ar ddolenni mewn negeseuon e-bost digymell. Er enghraifft, mae’n well rhoi cyfeiriad gwefan eich banc yn uniongyrchol yn eich porwr, neu ddefnyddio nod tudalen a grëwyd gennych gan ddefnyddio’r cyfeiriad cywir.
  • Os byddwch yn talu â cherdyn talu, cofiwch fod cerdyn credyd yn eich amddiffyn yn well na dulliau eraill mewn perthynas â thwyll, gwarantau ac achosion o fethu â dosbarthu.
  • Wrth dalu naill ai drwy wasanaeth talu ar-lein neu gan ddefnyddio cerdyn talu, gwnewch yn siŵr fod y ddolen yn ddiogel, mewn dwy ffordd:
    • Dylai fod symbol clo clap yn ffrâm ffenestr y porwr, sy’n ymddangos pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi neu gofrestru. Gwnewch yn siŵr nad yw’r clo clap ar y dudalen ei hun … mae’n debyg y bydd hyn yn arwydd o safle twyllodrus.
    • Dylai’r cyfeiriad gwe ddechrau gyda ‘https://’. Mae’r ‘s’ yn golygu ei bod yn ddiogel.
  • Mae’r uchod yn dangos bod y cyswllt rhyngoch chi a pherchennog y wefan yn ddiogel, ond nid yw’n dangos bod y safle ei hun yn ddilys. Mae angen i chi wneud hyn yn ofalus drwy chwilio am achosion cynnil o gamsillafu yn y cyfeiriad, geiriau a nodau ychwanegol ac achosion eraill o afreoleidd-dra.
  • Dylech bob amser allgofnodi o safleoedd rydych wedi mewngofnodi iddynt neu roi manylion cofrestru arnynt. Nid yw cau eich porwr yn ddigon i sicrhau preifatrwydd.
  • Cadwch dderbynebau.
  • Darllenwch ddatganiadau cardiau credyd a banc yn ofalus ar ôl siopa er mwyn gwneud yn siŵr bod y swm cywir wedi cael ei ddebydu, a hefyd nad oes unrhyw dwyll wedi digwydd o ganlyniad i’r trafodyn.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg cyn i chi fynd ar-lein.

Rhagor o Wybodaeth

Gwybodaeth gan eBay ar ddiogelwch ar-lein.

Cyngor eBay ar brynu’n ddiogel.

Cyngor eBay ar werthu’n ddiogel.

Os ydych wedi wynebu twyll gwirioneddol neu honedig, rhowch wybod amdano ar unwaith i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll drwy ffonio 0300 123 20 40 neu drwy fynd i www.actionfraud.police.uk.

Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.

 

In Partnership With