English

Rhwydweithiau Preifat Rhithwir (VPN)

Mae pob Rhwydwaith Preifat Rhithwir yn darparu’r un gwasanaeth sylfaenol: darparu swyddogaeth amgryptio o’r dechrau i’r diwedd ar gyfer unrhyw ddata a anfonir drwyddo. Nid yw’r amgryptiad hwn yn atal eich data rhag cael eu rhyng-gipio … yn hytrach, mae’n golygu y bydd y sawl sy’n darllen cynnwys eich data yn gweld testun annealladwy. Mae modd torri pob  math o amgryptiad, hynny yw gallai’r sawl sy’n rhyng-gipio’r data dorri’r amgryptiad, mewn egwyddor. Mae’r system gyfan yn dibynnu ar y ffaith y byddai’r pŵer cyfrifiadura y byddai ei angen i dorri’r amgryptiad yn costio llawer mwy na’r hyn y gellid ei ennill a gallai gymryd amser afresymol o hir. 

VPNau Cwmnïau

Ymddengys y byddai’r amgryptiad hwn o’r dechrau i’r diwedd yn beth da, ond mae’n dibynnu i raddau helaeth ar ble mae’r dechrau a’r diwedd. Yn draddodiadol, defnyddiwyd VPNau i hwyluso trefniadau gweithio o bell; dyma lle mae’r VPN yn cysylltu rhwydwaith y cwmni ar un pen a’r ddyfais sy’n cael ei defnyddio, o bell, gan y gweithiwr ar y pen arall. Mae’r math hwn o VPN wedi cael ei ddefnyddio’n llwyddiannus ers llawer o flynyddoedd ac mae’n creu ‘twnnel’ wedi’i amgryptio rhwng cyfrifiadur y gweithiwr a’r rhwydwaith corfforaethol, gan felly wneud cyfrifiadur y gweithiwr yn rhan o’r rhwydwaith (yn rhithwir). Mae hyn yn cynrychioli cysylltiad diogel rhwng cyfrifiaduron dibynadwy y mae’r un sefydliad yn berchen arnynt.

VPNau Defnyddwyr

Yn wahanol i’r enghraifft uchod lle mae’r cysylltiad diogel rhwng cyfrifiaduron dibynadwy, mae’r math hwn o VPN yn cysylltu cyfrifiadur y cwsmer ar un pen a gweinyddion darparwr y VPN ar y pen arall. Felly, pan fydd y darparwyr hyn yn hysbysebu ‘prosesau cyfathrebu diogel o’r dechrau i’r diwedd’, dim ond cyn belled â’u safleoedd y mae hyn yn mynd. Caiff unrhyw gyfathrebiad anniogel a anfonir gennych ei ddiogelu gan y VPN o’ch dyfais cyn belled â chyfrifiaduron darparwr y VPN, ond yna bydd yn dychwelyd i’w gyflwr anniogel i gwblhau ei daith o’r man hwnnw. Mae hyn yn golygu, pan fyddwch yn defnyddio’r math hwn o VPN, rydych yn rhoi llawer iawn o ymddiriedaeth yng ngonestrwydd darparwr y VPN.

Yn yr achos hwn, gallai darparwr eich VPN weld popeth rydych yn ei wneud, pob gwefan rydych yn ymweld â hi a chynnwys unrhyw gyfathrebiadau y byddwch yn eu hanfon. Yn achos cyfathrebiadau diogel – er enghraifft gwefan sydd â’r “s” ar ddiwedd y cyfeiriad HTTP a chlo clap gwyrdd – ni fydd yn gallu gweld cynnwys unrhyw ddata y byddwch yn eu hanfon. Pe baech yn mewngofnodi i system fancio ar-lein, er enghraifft, ni fyddai’n gweld unrhyw fanylion fel enwau defnyddiwr, cyfrineiriau na manylion eich cyfrifon. Fodd bynnag, byddai’n gallu gweld pa fanc rydych yn ei ddefnyddio a chael rhestr o bob gwefan rydych yn ymweld â hi, pob cyfrifiadur rydych yn cysylltu ag ef a pha wasanaeth e-bost rydych yn ei ddefnyddio tra byddwch yn defnyddio ei wasanaeth.

Felly, pan fyddwch yn defnyddio’r math hwn o VPN i ddefnyddwyr, byddwch yn ymddiried yn y darparwr i beidio â defnyddio eich data mewn ffordd a fyddai’n annerbyniol yn eich barn chi. Mae’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau hyn yn honni nad ydynt yn cadw unrhyw gofnodion o’r hyn rydych yn ei wneud ar-lein, ond nid oes ganddynt unrhyw ffordd o brofi hyn. O ystyried y ffaith y gallent fod â chofnod o’r holl wefannau rydym yn ymweld â nhw ac y gallent fod wedi gweld cynnwys unrhyw gyfathrebiadau sydd fel arall yn anniogel, rydych yn ymddiried ynddynt i beidio â chadw’r wybodaeth a pheidio â’i defnyddio at ddibenion fel proffilio a hysbysebu wedi’i dargedu, naill ai ar eu rhan nhw eu hunain neu ar gyfer trydydd partïon.

Mae llawer o’r hysbysebion ar gyfer VPNau defnyddwyr yn honni eu bod yn caniatáu i chi dwyllo gwasanaethau ar-lein i feddwl eich bod mewn lleoliad daearyddol gwahanol, gan eich galluogi i gael mynediad at wasanaethau nad ydynt ar gael yn eich ardal chi. Mae mwy o wasanaethau fel Netflix a BBC iPlayer yn sylweddoli hyn ac, ar ôl sylwi bod y defnyddiwr yn ceisio cuddio ei leoliad gwirioneddol, byddant yn ei atal rhag cael mynediad at y gwasanaeth. Mae rhai darparwyr hefyd yn crybwyll y bydd defnyddio eu systemau yn cuddio rhai gweithgareddau amheus eraill rhag eich ISP, rhywbeth nad yw Get Safe Online yn ei oddef.

Mantais wirioneddol VPN defnyddwyr yw pan fyddwch yn defnyddio llecynnau Wi-Fi, fel llecynnau mewn caffis ac ystafelloedd mewn gwestai, lle gellid clustfeinio’n hawdd ar eich cyfathrebiadau os nad yw’r Wi-Fi wedi’i ddiogelu. Yn yr achos hwn, ni fyddai VPN yn atal y wybodaeth rhag cael ei rhyng-gipio ond, fel uchod, byddai’n ei gwneud yn annarllenadwy. Yn yr achos hwn, dylech gofio nad ydych yn dileu’r risg, dim ond yn ei symud o’r Wi-Fi lleol i gyfrifiaduron darparwr y VPN.

Crynodeb

  • Yn achos VPN a ddarperir gan eich sefydliad i gael mynediad at ei rwydwaith, mae’r broses gyfathrebu o’r dechrau i’r diwedd rhwng cyfrifiaduron dibynadwy ac, os caiff ei ffurfweddu’n gywir, dylid ystyried ei fod yn ddiogel.
  • Cyn defnyddio VPNau defnyddwyr, dylech ystyried
  • I ba raddau rydych yn ymddiried yn y darparwr.
  • Pa iawndal a allech ei gael gan gwmni nad yw, yn ôl pob tebyg, wedi’i leoli yn y DU.
  • A oes wir angen i chi ddefnyddio Wi-Fi agored yn hytrach na’ch data 3G, 4G neu 5G sy’n fwy diogel yn gynhenid.
  • A yw VPN defnyddwyr werth y ffi danysgrifio mewn gwirionedd gan mai dim ond symud y risg ydych chi mewn gwirionedd.

See Also...

In Partnership With