Rhwydweithiau Di-wifr a Mannau Gwag

Mae rhwydweithiau di-wifr wedi chwyldroi’r ffordd y gallwn ddefnyddio ffonau clyfar a llechi, pan fyddwn yn y cartref neu’r swyddfa ai peidio. Mae rhwydweithiau di-wifr yn y cartref a’r swyddfa yn ei gwneud hi’n haws i ddefnyddio’r rhyngrwyd ac anfon a derbyn negeseuon e-bost mewn unrhyw ystafell yn yr adeilad a’r tu allan hyd yn oed… a galluogi ymwelwyr i wneud yr un fath. Mae rhwydweithiau a llecynnau di-wifr ‘cyhoeddus’ yn golygu y gallwn wneud yr un peth mewn llefydd fel caffis, gwestai a thafarndai. Ac mae dyfeisiau band-eang symudol plygio i mewn, neu ‘dongls’, yn rhoi hyd yn oed mwy o hyblygrwydd, gan eich galluogi i weithio ar-lein pan fydd cwmpas 3G neu 4G cellog.

Rhwydweithiau Di-wifr Cartref/Swyddfa/Symudol

Y risgiau

Os nad yw eich hwb/llwybrydd/dongl di-wifr wedi’i ddiogelu, gall pobl eraill gael mynediad iddo yn rhwydd os byddant o fewn y cwmpas. Gall hyn arwain at bobl anawdurdodedig yn gwneud y canlynol:

  • Cymryd eich lled band – gan effeithio ar gyflymder ar-lein eich dyfeisiau eich hun.
  • Defnyddio eich lwfans lawrlwytho, rydych wedi talu eich Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP) amdano.
  • Bod deunydd amhriodol yn cael ei lawrlwytho, a fyddai’n cael ei olrhain i’ch cyfeiriad ac nid i’w cyfrifiadur nhw.
  • Cael gafael ar wybodaeth sensitif y gallwch fod yn ei anfon neu’n ei dderbyn ar-lein.

Rhwydweithio Di-wifr Diogel

Gellir osgoi’r holl risgiau uchod drwy sicrhau bod yr hwb/llwybrydd/dongl di-wifr rydych am gysylltu ag ef wedi’i ddiogelu. Er mwyn gwneud yn siŵr fod hyn yn wir, chwiliwch am rwydweithiau di-wifr sydd ar gael, a bydd y rhai sydd wedi’u diogelu yn cynnwys symbol clo clap.

Pan fyddwch yn cysylltu ffôn clyfar, llechen, argraffwr neu unrhyw ddyfais ddi-wifr arall ag unrhyw hwb/llwybrydd/dongl di-wifr am y tro cyntaf, cewch eich annog i roi cyfrinair/allwedd ar yr amod bod y rhwydwaith mewn modd diogel. Bydd hyn yn galluogi’r ddyfais i gysylltu ar yr achlysur hwn ac fel arfer, ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol.  Caiff y cyfrinair/allwedd ei ddarparu gyda’r hwb/llwybrydd/dongl, ond efallai y cewch y cyfle i’w newid i un diogel eich hun. Mae’n debyg y bydd angen i chi wneud hyn gan ddefnyddio cyfrifiadur.

Os ydych yn sefydlu hwb/llwybrydd/dongl newydd, mae’n siŵr y bydd wedi’i ddarparu gyda’r diogelwch wedi’i droi ymlaen fel y gosodiad diofyn. Mae tair prif lefel amgryptio ar gael (WEP, WPA a WPA2), a WPA2 yw’r uchaf. Mae’r rhan fwyaf o hybiau/llwybrwyr/dongls yn rhoi’r opsiwn i chi o ddewis lefel uwch, ond cofiwch efallai na fydd rhai dyfeisiau hŷn yn gydnaws â lefelau uwch. Mae’n debyg y bydd angen i chi wneud hyn gan ddefnyddio cyfrifiadur.

Os na fydd hwb/llwybrydd/dongl di-wifr cartref/swyddfa/symudol rydych am gysylltu ag ef wedi’i ddiogelu am unrhyw reswm, darllenwch y llawlyfr defnyddiwr.

Nid yw diogelu eich rhwydwaith di-wifr yn golygu nad oes angen cymryd rhagofalon diogelwch ar-lein eraill.

WiFi Cyhoeddus

Y Risg

Y brif risg diogelwch sy’n gysylltiedig â defnyddio WiFi cyhoeddus yw y gall pobl heb awdurdod ryng-gipio unrhyw beth y byddwch yn ei wneud ar-lein. Gallai hyn gynnwys cael gafael ar eich cyfrineiriau a darllen e-byst preifat. Gall hyn ddigwydd os nad yw’r cysylltiad rhwng eich dyfais a’r WiFi wedi’i amgryptio, neu os bydd rhywun yn creu llecyn ffug sy’n eich twyllo i feddwl ei fod yn un dilys.

Gyda chysylltiad wedi’i amgryptio, bydd angen i chi roi ‘allwedd’ a all edrych yn debyg i hyn: 1A648C9FE2.

Neu, efallai y byddwch yn cael eich annog i fewngofnodi er mwyn cael mynediad i’r rhyngrwyd. Bydd hyn yn dweud wrth y gweithredwr eich bod ar-lein yn eu gaffi, gwesty neu dafarn. Mae bron yn sicr na fydd unrhyw ddiogelwch drwy amgryptio.

WiFi Cyhoeddus Diogel

  • Oni fyddwch yn defnyddio tudalen we ddiogel, peidiwch ag anfon na derbyn gwybodaeth breifat wrth ddefnyddio WiFi cyhoeddus.
  • Lle bynnag y bo’n bosibl, defnyddiwch ddarparwyr llecynnau WiFi masnachol, adnabyddus fel BT OpenZone neu EE.
  • Dylai pobl fusnes sydd am gael mynediad i’w rhwydwaith corfforaethol ddefnyddio Rhwydwaith Preifat Rhithwir (VPN) diogel, wedi’i amgryptio).

Cyngor arall

  • Peidiwch â gadael eich ffôn clyfar, llechen, gliniadur na dongl heb neb i gadw llygad arnynt.
  • Byddwch yn ymwybodol o bwy sydd o’ch amgylch ac a all fod yn gwylio beth rydych yn ei wneud ar-lein.
  • Nid yw defnyddio cysylltiad WiFi diogel yn golygu nad oes angen cymryd rhagofalon diogelwch ar-lein eraill.

 

 

In Partnership With