English

Rhwydweithiau Di-wifr a Mannau Gwag

Mae rhwydweithiau di-wifr wedi chwyldroi’r ffordd y gallwn ddefnyddio cyfrifiaduron a dyfeisiau symudol, yn y cartref a’r swyddfa – a phan fyddwn allan o’r cartref a’r swyddfa. Mae rhwydweithiau di-wifr yn y cartref a’r swyddfa yn ei gwneud hi’n haws i ddefnyddio’r rhyngrwyd ac anfon a derbyn negeseuon e-bost mewn unrhyw ystafell yn yr adeilad a’r tu allan hyd yn oed… a galluogi ymwelwyr i wneud yr un fath. Mae rhwydweithiau a llecynnau di-wifr ‘cyhoeddus’ yn golygu y gallwn wneud yr un peth mewn llefydd fel caffis, gwestai a thafarndai. Ac mae dyfeisiau band-eang symudol plygio i mewn, neu ‘dongls’, yn rhoi hyd yn oed mwy o hyblygrwydd, gan eich galluogi i weithio ar-lein pan fydd cwmpas 3G neu 4G cellog.

Mae Wi-Fi cartref/swyddfa/symudol a chyhoeddus (fel y gelwir cysylltiadau di-wifr fel arfer) yn defnyddio’r un dechnoleg (802.11). Mae rhai problemau cyffredin posibl, ac mae gan bob un ei risgiau penodol ei hun. Gallwch ddiogelu eich hun yn rhwydd gyda rhai rhagofalon syml.

Rhwydweithiau Di-wifr Cartref/Swyddfa

Y risgiau

Os nad yw eich hwb/llwybrydd/dongl di-wifr wedi’i ddiogelu, gall pobl eraill gael mynediad iddo yn rhwydd os byddant o fewn y cwmpas. Gall hyn arwain at bobl anawdurdodedig yn gwneud y canlynol:

  • Cymryd eich lled band – gan effeithio ar gyflymder ar-lein eich cyfrifiaduron eich hun a dyfeisiau eraill.
  • Defnyddio eich lwfans lawrlwytho, rydych wedi talu eich Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP) amdano.
  • Bod deunydd amhriodol yn cael ei lawrlwytho, a fyddai’n cael ei olrhain i’ch cyfeiriad ac nid i’w cyfrifiadur nhw.
  • Cael gafael ar wybodaeth sensitif y gallwch fod yn ei anfon neu’n ei dderbyn ar-lein.

Rhwydweithio Di-wifr Diogel

Gellir osgoi’r holl risgiau uchod drwy sicrhau bod yr hwb/llwybrydd/dongl di-wifr rydych am gysylltu ag ef wedi’i ddiogelu. Er mwyn gwneud yn siŵr fod hyn yn wir, chwiliwch am rwydweithiau di-wifr sydd ar gael, a bydd y rhai sydd wedi’u diogelu yn cynnwys symbol clo clap.

Pan fyddwch yn cysylltu cyfrifiadur, ffôn clyfar, llechen, argraffwr neu unrhyw ddyfais ddi-wifr arall ag unrhyw hwb/llwybrydd/dongl di-wifr am y tro cyntaf, cewch eich annog i roi cyfrinair/allwedd ar yr amod bod y rhwydwaith mewn modd diogel. Bydd hyn yn galluogi’r ddyfais i gysylltu ar yr achlysur hwn ac fel arfer, ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol. Caiff yr allwedd a’r cyfrinair gweinyddol ar gyfer y Wi-Fi ei ddarparu gyda’r hwb/llwybrydd/dongl, ond rydym yn argymell i chi ei newid i rai diogel eich hun.

Os ydych yn sefydlu hwb/llwybrydd/dongl newydd, mae’n siŵr y bydd wedi’i ddarparu gyda’r diogelwch wedi’i droi ymlaen fel y gosodiad diofyn. Mae tair prif lefel amgryptio ar gael (WEP, WPA a WPA2), a WPA2 yw’r uchaf. Mae’r rhan fwyaf o hybiau/llwybrwyr yn rhoi’r opsiwn i chi o ddewis lefel uwch, ond cofiwch efallai na fydd rhai dyfeisiau hŷn yn gydnaws â lefelau uwch.

Os byddwch yn cael eich annog i lawrlwytho diweddariadau i feddalwedd llwybrydd, neu fersiynau newydd ohono, gwnewch hynny ar unwaith er mwyn sicrhau bod diogelwch yn cael ei gynnal.

Os na fydd hwb/llwybrydd/dongl di-wifr cartref/swyddfa/symudol rydych am gysylltu ag ef wedi’i ddiogelu am unrhyw reswm, darllenwch y llawlyfr defnyddiwr.

Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd effeithiol wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg cyn i chi ddefnyddio rhwydwaith di-wifr.

Cadwch godau Wi-Fi yn ddiogel fel na all eraill gael mynediad iddynt na’u defnyddio.

Cofiwch fod y cod mynediad wedi’i argraffu ar yr hwb/llwybrydd, felly gwnewch yn siŵr eich bod naill ai yn ei ddileu, neu wneud yn siŵr na ellir cael mynediad i’r hwb/llwybrydd ei hun os bydd ymyrraeth neu os bydd pobl nad ydych yn eu hadnabod yn cael mynediad i’ch safle.

WiFi Cyhoeddus

Y risgiau

Y brif risg diogelwch sy’n gysylltiedig â defnyddio WiFi cyhoeddus yw y gall pobl heb awdurdod ryng-gipio unrhyw beth y byddwch yn ei wneud ar-lein. Gallai hyn gynnwys cael gafael ar eich cyfrineiriau a darllen e-byst preifat. Gall hyn ddigwydd os nad yw’r cysylltiad rhwng eich dyfais a’r WiFi wedi’i amgryptio, neu os bydd rhywun yn creu llecyn ffug sy’n eich twyllo i feddwl ei fod yn un dilys.

Gyda chysylltiad wedi’i amgryptio, bydd angen i chi roi ‘allwedd’ a all edrych yn debyg i hyn: 1A648C9FE2.

Neu, efallai y byddwch yn cael eich annog i fewngofnodi er mwyn cael mynediad i’r rhyngrwyd. Bydd hyn yn dweud wrth y gweithredwr eich bod ar-lein yn eu caffi, gwesty neu dafarn. Mae bron yn sicr na fydd unrhyw ddiogelwch drwy amgryptio.

WiFi Cyhoeddus Diogel

  • Oni fyddwch yn defnyddio tudalen we ddiogel, peidiwch ag anfon na derbyn gwybodaeth breifat wrth ddefnyddio WiFi cyhoeddus.
  • Lle bynnag y bo’n bosibl, defnyddiwch ddarparwyr llecynnau WiFi masnachol, adnabyddus fel BT OpenZone neu EE.
  • Dylai pobl fusnes sydd am gael mynediad i’w rhwydwaith corfforaethol ddefnyddio Rhwydwaith Preifat Rhithwir (VPN) diogel, wedi’i amgryptio.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd effeithiol wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg cyn i chi ddefnyddio WiFi cyhoeddus.

Cyngor arall

  • Peidiwch â gadael eich cyfrifiadur, eich ffôn clyfar neu’ch llechen heb neb i gadw llygad arnynt.
  • Byddwch yn ymwybodol o bwy sydd o’ch amgylch ac a all fod yn gwylio beth rydych yn ei wneud ar-lein.

 

In Partnership With