English

Rhoi i Elusen Ar-lein

Mae’r gwaith a wneir gan elusennau a sefydliadau gwirfoddol yn werthfawr i gymdeithas, am eu bod yn helpu pobl sydd â’r angen mwyaf yn y Deyrnas Unedig a thramor. Mae elusennau yn dibynnu ar roddion gan y cyhoedd a gan fusnesau i wneud eu gwaith, yn enwedig mewn cyfnodau economaidd anodd. Mae’r rhan fwyaf o gasgliadau ac apeliadau yn ddilys, ond yn anffodus gall twyllwyr fanteisio ar natur elusengar pobl a dwyn arian y mae’r rhoddwr yn meddwl fydd yn helpu’r elusen. Un o’r ffyrdd mwyaf cyffredin o wneud hyn yw ar-lein. Peidiwch â rhoi’r gorau i roi arian i achos da o’ch dewis. Yn hytrach, cymerwch ragofalon i ddiogelu eich hun – a’ch hoff elusen – rhag twyll ar-lein.

  • Safleoedd elusennol ffug – gwefannau ffug ar gyfer elusennau nad ydynt yn bodoli, fel gwefannau twyllodrus dros dro a gaiff eu sefydlu yn ystod trychinebau y rhoddir llawer o gyhoeddusrwydd iddynt (er enghraifft newynau a daeargrynfeydd).
  • E-byst gwe-rwydo – e-byst a anfonir atoch i geisio eich twyllo i ddatgelu eich manylion banc a’ch cyfrineiriau.
  • Twyll sy’n deillio o wneud taliadau dros wedudalennau anniogel.
  • Achosion o ddwyn hunaniaeth a achosir gan feirysau neu ysbïwedd, sy’n rhoi mynediad i droseddwyr i’r cyfrifon banc a gwybodaeth bersonol arall sydd wedi’i storio ar eich cyfrifiadur.

Rhoi yn Ddiogel

Er mwyn sicrhau eich bod yn rhoi yn ddiogel:

Er mwyn gwirio dilysrwydd elusen gofrestredig, ewch i gofrestr ar-lein eich rheoleiddiwr elusen genedlaethol:

Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr

Yng Nghymru a Lloegr, mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o elusennau sydd ag incwm blynyddol o £5,000 neu fwy fod wedi’u cofrestru â’r Comisiwn. Mae’r Comisiwn yn cynnal cofrestr ar-lein. https://www.charity-commission.gov.uk

Efallai y byddwch hefyd am weld p’un a yw elusen yn perthyn i’r huanreoleiddiwr codi arian yn y DU, y Bwrdd Safonau Codi Arian (FRSB) http://www.frsb.org.uk/give-with-confidence/

Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll:

Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll, ar 0300 123 20 40 neu yn www.actionfraud.police.uk.

 

In Partnership With