English

Rhentu eiddo diogel

Mae twyll yn ymwneud ag eiddo ar rent wedi bodoli erioed, ond mae’r ffaith bod y rhan fwyaf o eiddo ar rent bellach yn cael ei hysbysebu ar-lein wedi cynyddu’r cyfleoedd i dwyllwyr, ac felly faint o dwyll rhent sy’n bodoli. Mae sgamiau o’r fath yn gyffredin iawn ar wefannau fel craigslist.com neu gumtree.com a gallant arwain at golled ariannol ddifrifol. Gellir effeithio ar ddarpar denantiaid a landlordiaid.

Mathau o dwyll rhen

  • Mae’r twyllwr yn esgus bod yn unigolyn sy’n gosod ei eiddo ei hun ar rent. Fel arfer bydd wedi’i restru am fod y perchennog yn honni ei fod yn byw neu’n gweithio rywle arall am resymau amrywiol – gwaith elusennol, cenhadol neu waith arall tebyg yn aml sy’n gwneud i’r twyllwr ymddangos yn barchus ac yn ddiffuant. Efallai y bydd yr hysbyseb neu’r rhestriad yn cynnwys ffotograff sydd wedi’i ddwyn oddi ar wefannau asiantau eiddo/rhentu dilys. Mae’r twyllwr hefyd yn defnyddio esgusodion dros y ffaith nad yw’r eiddo ar gael i’w weld. Bydd y ‘landlord’ yn gofyn i rent y mis cyntaf gael ei anfon drwy wasanaeth trosglwyddo arian fel Western Union neu MoneyGram, ac yn addo y bydd yr allweddi’n cael eu hanfon drwy wasanaeth dosbarthu. Un ffordd arall yw gofyn i’r darpar denant brofi y gall fforddio’r rhent drwy anfon arian i ffrind neu berthynas yr ymddiriedir ynddo, ac yna anfon copi wedi’i sganio o’r dderbynneb at y sgamiwr, gyda’r honiad ffug mai dim ond y derbynnydd a enwyd a all gael yr arian.
  • Mae’r twyllwr yn esgus bod yn fusnes rheoli eiddo sydd â sawl eiddo ar rent. Mae hon yn sgam fwy cymhleth, sy’n cynnwys gwefannau a chyfrifon banc hyd yn oed weithiau. Efallai y bydd yr hysbyseb neu’r rhestriad yn cynnwys ffotograff sydd wedi’i ddwyn oddi ar wefannau asiantau eiddo/rhentu dilys. Eto, ni fydd yr eiddo ar gael i’w weld, ond mae’r twyllwr yn defnyddio esgusodion i guddio’r ffaith honno.
  • Mae twyllwr sy’n esgus bod yn landlord yn is-osod eiddo i sawl person yr un pryd. Mae’r darpar denantiaid i gyd yn cyrraedd er mwyn symud i mewn ar yr un diwrnod ac mae’r ‘landlord’ yn diflannu. Weithiau, pan fydd y person sy’n esgus bod yn landlord eisoes yn denant, bydd y bobl sydd wedi cael eu twyllo yn dewis byw gyda’i gilydd mewn amodau cyfyng heb roi gwybod i’r landlord go iawn.
  • Gall landlord gael ei dwyllo pan fydd sgamiwr yn esgus bod yn ddarpar denant sydd am rentu eiddo. Bydd yn cynnig anfon siec (yn aml gan ‘berthynas’ neu fusnes), yn gofyn i’r siec gael ei gyfnewid am arian parod a bod rhywfaint o’r arian yn cael ei anfon at berson arall gan Western Union neu MoneyGram, gan ddefnyddio esgus fel gordaliad damweiniol, neu arian i dalu cwmni symud. Bydd ymdeimlad o frys oherwydd bydd y sgamiwr am i’r arian gael ei anfon cyn canfod bod y siec yn ffug.

Diogelwch eich hun rhag twyll rhent

  • Dylech fynd i weld y tu mewn a’r tu allan i eiddo cyn ymrwymo i gytundeb neu dalu arian. Bydd unrhyw landlord neu asiant dilys yn gallu trefnu i chi fynd i weld yr eiddo.
  • Dylech fynd i weld yr eiddo o’r tu allan ar adeg wahanol o’r diwrnod i’r hyn a drefnwyd, er enghraifft gyda’r nos er mwyn sicrhau nad yw eiddo ‘gwag’ eisoes yn llawn.
  • Cyn mynd i weld eiddo, edrychwch i weld a yw’r ffotograffau yn yr hysbyseb yn cyd-fynd â’r ffotograffau ar Google Maps Street View. Os ydych yn amau hyn, ymchwiliwch ymhellach i weld a yw’r un ffotograffau yn cael eu defnyddio ar restriadau eraill gyda chyfeiriadau gwahanol – sy’n dangos bod rhestriad yn ffug.
  • Os ydych yn delio ag asiant ar-lein, ffoniwch nhw neu gwnewch yn siŵr fod ganddynt gyfeiriad sefydlog, ac ewch i weld yr eiddo hwnnw.
  • Dim ond asiantau tenantiaeth dibynadwy ar y stryd fawr y dylech ystyried eu defnyddio. Mae’r gost ychwanegol bosibl yn rhoi tawelwch meddwl i chi o ran gonestrwydd a fetio landlordiaid. Neu, defnyddiwch wefannau rhentu arbenigol, a all gynnwys hidlwyr a thimau sy’n mynd ati i archwilio rhestriadau yr ystyrir eu bod yn cynnig risg uchel.
  • Gofynnwch am ddogfennau cyfreithiol fel tystysgrifau perfformiad ynni a thystysgrifau diogelwch nwy. Efallai y byddant yn rhoi’r trywydd papur sydd ei angen arnoch i fod yn hyderus nad yw hysbyseb ar gyfer eiddo yn sgam.
  • Gofynnwch i’r landlord am fanylion adnabod.
  • Gwnewch yn siŵr fod y pris rhentu yn nodweddiadol o eiddo o’r math hwnnw yn yr ardal lle rydych yn chwilio. Os bydd rhywbeth yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debygol mai dyna yw’r gwirionedd.
  • Peidiwch ag anfon arian drwy wasanaethau trosglwyddo arian fel Western Union a MoneyGram. Maent ond wedi’u bwriadu ar gyfer trafodion rhyngoch chi a phobl rydych yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt. Gellir cael mynediad atynt unrhyw le yn y byd heb ddangos llawer o fanylion adnabod os o gwbl – ac mae bron yn amhosibl eu holrhain unwaith y bydd yr arian wedi’i gasglu.
  • Lle bynnag y bo’n bosibl, talwch flaendaliadau a thaliadau rhent ymlaen llaw drwy gerdyn credyd oherwydd y gall hyn eich diogelu rhag twyll.
  • Os ydych yn landlord sy’n rhoi eiddo ar rent, peidiwch â derbyn taliadau sy’n cynnwys ailgyfeirio rhan o’r rhent i barti arall. Dylech bob amser wirio geirdaon a chynnal gwiriadau credyd ar ddarpar denantiaid.
  • Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau, ni waeth pa mor wirion y gallant swnio yn eich barn chi.

Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll eiddo:

Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll ar 0300 123 20 40 neu yn www.actionfraud.police.uk.

  • Rhowch wybod i dîm y wefan am y digwyddiad er mwyn ei atal rhag digwydd eto.

Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.

 

 

See Also...

In Partnership With