English

Radicaleiddio Ar-lein

Gall grwpiau neu unigolion eithafol fynd ati i radicaleiddio mewn sawl ffordd: wyneb yn wyneb gan gyfoedion, mewn grwpiau wedi’u trefnu yn y gymuned ac, yn gynyddol, ar-lein. Eu targedau yw unigolion neu grwpiau o bobl y gellir eu harwain yn hawdd tuag at ideolegau terfysgol oherwydd eu profiadau, eu cyflwr meddwl neu weithiau eu magwraeth.

Fodd bynnag, mae eithafwyr yn ceisio dylanwadu ar bobl sy’n agored i niwed, ac mae’r rhyngrwyd yn chwarae rhyw fath o rôl yn ddi-ffael … gan ei fod yn cael ei ddefnydido i ennyn diddordeb cychwynnol, ac er mwyn ategu mathau eraill o gyfathrebu. Fel yn achos popeth y caiff ei ddefnyddio ar ei gyfer, mae’r rhyngrwyd yn golygu y gellir cyrraedd niferoedd llawer mwy o bobl, mewn ardal ddaearyddol ehangach a gyda llai o ymdrech gan y troseddwyr.

Mae grym y cyfryngau cymdeithasol yn amlwg, a dyna’r prif ddull o feithrin perthynas amhriodol ar-lein – boed hynny ar Facebook, Twitter neu’r llu o safleodd ac apiau eraill. Ymysg y dulliau ar-lein eraill mae ystafelloedd sgwrsio, fforymau, negeseuon uniongyrchol a negeseuon testun. Mae eithafwyr yn defnyddio’r dulliau hyn hefyd ar gyfer cyfathrebu o ddydd i ddydd, ynghyd â’r we dywyll.

Defnyddir y cyfryngau cymdeithasol hefyd ar gyfer gwneud gwaith ymchwil gan eithafwyr, sy’n golygu ei bod yn hawdd iddynt nodi pwy all fod yn agored i niwed o’r hyn maent yn ei ddatgelu yn eu proffiliau, postiau/trydariadau, lluniau a rhestrau o ffrindiau.

Y risgiau

Bod yn agored i eithafwyr sy’n meithrin perthynas amhriodol â chi ar-lein ac yn eich cyflyru drwy safleoedd cyfryngau cymdeithasol, ystafelloedd sgwrsio, negeseuon testun a negeseuon uniongyrchol.

Sut i amddiffyn eich hun rhag cael eich radicaleiddio ar-lein

  • Os bydd rhywun yn cysylltu â chi neu’n meithrin perthynas amhriodol â chi ar-lein, meddyliwch yn galed am ganlyniadau radicaleiddio i chi eich hun, i’ch teulu a’ch ffrindiau, a’ch gwerthoedd sylfaenol.
  • Cadwch lygad ar aelodau o’r teulu, ffrindiau ac eraill a all fod yn agored i gael eu radicaleidido yn eich barn chi. A yw eu patrymau ymddygiad wedi newid? A ydynt wedi mynd yn dawedog neu’n fewnblyg am ddim rheswm amlwg? A yw eu strwythur credoau wedi newid? A ydynt yn gwneud cynlluniau teithio anarferol? A oes ffrindiau a chydnabod ar y cyd hefyd yn bryderus?

Rhoi gwybod am ddeunydd ar-lein sy’n hyrwyddo twristiaeth neu eithafiaeth

Gallwch roi gwybod am yr hyn rydych chi’n meddwl sy’n ddeunydd o’r fath ar wefan y llywodraeth yma.

Os byddwch yn rhoi gwybod am ddigwyddiad terfysgaeth neu eithafol sy’n digwydd ar y pryd – neu os oes bygythiad i fywyd rhywun – ffoniwch 999 ar unwaith. Gallwch hefyd roi gwybod am weithgarwch amheus drwy gysylltu â’r heddlu yn gyfrinachol ar 0800 789 321 yn ddi-oed, neu yn gov.uk/ACT

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chyngor yn:

 

See Also...

In Partnership With