English

Prynu Tocynnau

Mae gwylio eich hoff fand, tîm neu ddigrifwr o’ch cadair freichiau yn wych, ond does dim i’w gymharu â bod yno yn fyw, ar y diwrnod. Mae tocynnau i ddigwyddiadau adloniant a chwaraeon mawr yn gwerthu allan yn gyflym iawn, sy’n siomedig iawn pan fyddwch wedi bod yn edrych ymlaen at y diwrnod mawr. Gallech gael eich temptio i’w prynu o ffynonellau heblaw gwefannau swyddogol. Fodd bynnag, mae un o bob deg person yn y DU wedi cael eu targedu gan sgam tocynnau ar-lein, gan dalu am docynnau nad ydynt yn bodoli, cael eu gwrthod rhag mynd i mewn i ddigwyddiad neu ddatgelu manylion eu cerdyn talu i rywun sy’n dwyn hunaniaeth neu dwyllwr.

Y risgiau

  • Twyll sy’n deillio o wneud taliadau dros wedudalennau anniogel.
  • Safleoedd prynu tocynnau ffug – gwefannau ffug a chynigion dros e-bost ar gyfer tocynnau nad ydynt yn bodoli.
  • Negeseuon ffug ar fforymau cefnogwyr – prynu tocynnau nad ydynt yn bodoli.
  • Peidio â derbyn tocynnau, ar ôl trosglwyddo arian yn uniongyrchol i gyfrif banc twyllwr.
  • Derbyn tocynnau nad ydynt yn cyfateb i ddisgrifiad y gwerthwr.

Prynu Tocynnau’n Ddiogel

  • Prynwch docynnau o swyddfa docynnau’r safle, hyrwyddwr, asiant swyddogol neu wefan cyfnewid tocynnau ddibynadwy.
  • Cofiwch fod talu â cherdyn credyd yn eich amddiffyn yn well na dulliau eraill mewn perthynas â thwyll, gwarantau ac achosion o fethu â dosbarthu.
  • Gwnewch yn siŵr fod yr holl fanylion prynu tocynnau yn gywir cyn cadarnhau’r taliad.
  • Peidiwch ag ateb e-byst digymell gan werthwyr nad ydych yn eu hadnabod.
  • Cyn rhoi manylion cerdyn talu ar wefan, gwnewch yn siŵr fod y ddolen yn ddiogel, mewn dwy ffordd:
    • Dylai fod symbol clo clap yn ffrâm ffenestr y porwr, sy’n ymddangos pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi neu gofrestru. Gwnewch yn siŵr nad yw’r clo clap ar y dudalen ei hun … mae’n debyg y bydd hyn yn arwydd o safle twyllodrus.
    • Dylai’r cyfeiriad gwe ddechrau gyda ‘https://’. Mae’r ‘s’ yn golygu ei bod yn ddiogel.
  • Mae’r uchod yn dangos bod y cyswllt rhyngoch chi a pherchennog y wefan yn ddiogel, ond nid yw’n dangos bod y safle ei hun yn ddilys. Mae angen i chi wneud hyn yn ofalus drwy chwilio am achosion cynnil o gamsillafu yn y cyfeiriad, geiriau a nodau ychwanegol ac achosion eraill o afreoleidd-dra.
  • Bydd rhai gwefannau yn eich ailgyfeirio chi at wasanaeth talu trydydd parti (fel WorldPay). Gwnewch yn siŵr fod y safleoedd hyn yn ddiogel cyn gwneud eich taliad.
  • Diogelwch a chofiwch y cyfrinair a ddewiswyd gennych ar gyfer y gwasanaethau dilysu ychwanegol a ddefnyddiwyd ar rai gwefannau, fel Verified by Visa.
  • Os byddwch yn dewis prynu tocynnau gan unigolyn (er enghraifft ar eBay), peidiwch byth â throsglwyddo’r arian yn uniongyrchol i’w gyfrif banc. Yn hytrach, defnyddiwch safle talu’n ddiogel fel PayPal, lle caiff taliad ei drosglwyddo rhwng dau gyfrif electronig.
  • Darllenwch bolisïau preifatrwydd a dychwelyd y gwerthwr.
  • Dylech bob amser allgofnodi o safleoedd rydych wedi mewngofnodi iddynt neu roi manylion cofrestru arnynt. Nid yw cau eich porwr yn ddigon i sicrhau preifatrwydd.
  • Cadwch dderbynebau.
  • Darllenwch ddatganiadau cardiau credyd a banc yn ofalus ar ôl prynu tocynnau er mwyn gwneud yn siŵr bod y swm cywir wedi cael ei ddebydu, a hefyd nad oes unrhyw dwyll wedi digwydd o ganlyniad i’r trafodyn.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg cyn i chi fynd ar-lein.

Rhagor o Wybodaeth

Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll: Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll ar 0300 123 20 40 neu yn www.actionfraud.police.uk.

Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.

 

In Partnership With