English

Prynu Meddyginiaethau Ar-lein

Mae’r rhyngrwyd yn cynnig amrywiaeth eang o gynhyrchion i’w gwerthu o wefannau ledled y byd. Mae prynu meddyginiaethau ar-lein yn dod yn fwyfwy poblogaidd, ond nid yw meddyginiaethau yn nwyddau defnyddwyr arferol a dylech gymryd gofal mawr os byddwch yn dewis eu prynu yn y ffordd hon. Mae’r dudalen hon yn cwmpasu rhai o’r materion dan sylw ac mae’n cynnig awgrymiadau ar sut i’ch amddiffyn chi a’ch teulu rhag meddyginiaethau ffug a/neu beryglus, a gweithgarwch twyllodrus.

Y risgiau

Mae llawer o wefannau sy’n gwerthu meddyginiaethau wedi’u lleoli dramor (er efallai y byddant yn honni eu bod wedi’u lleoli yn y DU ac yn hysbysebu mewn Punnoedd Sterling). O ganlyniad, nid ydynt wedi’u rheoleiddio gan awdurdodau yn y DU. Ni ellir gwarantu bod meddyginiaethau a brynir o wefannau y tu allan i’r DU yn cyrraedd safonau ansawdd, diogelwch ac effeithiolrwydd. Mae prynu meddyginiaethau o safleoedd o’r fath yn cynyddu’r siawns o gael cynhyrchion ffug, ansafonol, peryglus neu sy’n peryglu eich bywyd.

Dim ond ar ôl ymgynghori â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol y dylid cymryd meddyginiaethau presgripsiwn yn unig. Bydd yn gyfarwydd â’ch hanes meddygol ac ni fydd yn rhagnodi meddyginiaethau a allai fod yn anniogel neu’n anaddas i chi. Wrth ragnodi meddyginiaethau, bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hefyd yn osgoi cyfuniadau o feddyginiaethau gwahanol nad ydynt yn gydnaws â’i gilydd ac a allai fod yn niweidiol i’ch cyflwr.

Ymysg y risgiau penodol sy’n gysylltiedig â phrynu meddyginiaethau presgripsiwn yn unig dros y rhyngrwyd mae:

  • Cymryd meddyginiaethau nad ydynt wedi’u rhagnodi gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
  • Cymryd meddyginiaethau a all olygu na fydd meddyginiaethau eraill rydych eisoes yn eu cymryd yn gweithio – neu waethygu cyflwr meddygol hysbys neu anhysbys presennol.
  • Dim archwiliadau na rheolaethau ar ansawdd, diogelwch ac effeithiolrwydd y meddyginiaethau a gyflenwir.
  • Meddyginiaethau ffug sy’n cynnwys cynhwysion niweidiol. Mae enghreifftiau gwirioneddol o hyn wedi cynnwys gwenwyn llygod mawr, asid borig a phaent ffordd sy’n cynnwys plwm.
  • Cymryd meddyginiaethau sy’n cynnwys gormod neu ddim digon o gynhwysyn actif – neu ddim cynhwysyn actif o gwbl.
  • Cymryd meddyginiaethau sydd wedi pasio eu dyddiad defnyddio, sy’n lleihau eu heffeithiolrwydd.
  • Prynu condomau sy’n rhoi amddiffyniad ansafonol neu ddim amddiffyniad rhag clefydau a drosglwyddir yn rhywiol a beichiogrwydd anfwriadol.
  • Cymryd meddyginiaethau a wnaed mewn amgylchedd anhylan gan bobl heb unrhyw gymwysterau priodol.
  • Hunanddiagnosis anghywir sy’n arwain at driniaeth amhriodol a methiant i ymgynghori â’r gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol priodol.
  • Dim opsiynau cyfreithiol os bydd problem.

Ymysg y risgiau eraill o brynu meddyginiaethau presgripsiwn yn unig dros y rhyngrwyd mae:

  • Clonio cardiau talu.
  • Dwyn hunaniaeth.
  • Cynhyrchion yn cael eu gwerthu am bris sylweddol uwch na’r hyn y byddent yn ei gostio o siop fferyllydd ar y stryd fawr, er gwaethaf y ffaith eu bod wedi’u hysbysu fel rhai ‘rhad’.
  • Ysbïwedd a feirysau eraill o wefannau twyllodrus, p’un a ydych wedi ymweld â nhw’n uniongyrchol neu drwy e-bost gwe-rwydo.

Prynu Meddyginiaethau yn Ddiogel Ar-lein

  • Dim ond o safleoedd y gallwch gadarnhau eu bod wedi’u lleoli yn y DU ac wedi’u cofrestru gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol y dylech brynu. Mae’r logo  gwyrdd i’w weld ar hafan y safle fferyllol ar-lein – drwy glicio arno dylech fynd i gofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol o fferyllfeydd cymeradwy. Dylai gwefan y fferyllfa hefyd gynnwys:
    • Enw perchennog y busnes.
    • Cyfeiriad y fferyllfa lle y cynhelir y busnes.
    • Enw’r Fferyllydd Uwcharolygydd*, lle y bo’n briodol.
  • Dylech bob amser ymgynghori â gweithiwr meddygol proffesiynol priodol neu fferyllydd cofrestredig ynghylch unrhyw gwestiynau sydd gennych am gyflwr meddygol neu sut i’w drin.
  • Peidiwch â chael eich temtio i roi hunanddiagnosis.

* Mae gan Fferyllydd Uwcharolygydd gyfrifoldeb proffesiynol personol i wneud yn siŵr bod yr holl ofynion cyfreithiol a phroffesiynol yn cael eu dilyn mewn perthynas â’r agweddau fferyllol ar y busnes.

O 1 Gorffennaf 2015, mae hefyd angen i unrhyw un yn y DU sy’n gwerthu meddyginiaethau i’r cyhoedd drwy wefan fod wedi’i gofrestru â’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) a bod ar restr yr MHRA o werthwyr manwerthu ar-lein cofrestredig yn y DU. Mae hefyd angen iddynt arddangos logo cyffredinol yr UE ar bob tudalen o’u gwefan sy’n cynnig meddyginiaethau i’w gwerthu, hyd yn oed os ydynt eisoes yn arddangos logo gwirfoddol y Cyngor Fferyllol Cyffredinol. Bydd logo cyffredinol yr UE hefyd wedi’i gysylltu â’u cofnod ar restr yr MHRA o werthwyr ar-lein cofrestredig.

Ac fel gyda phob math o siopa ar-lein, dylid dilyn y rhagofalon canlynol bob amser:

  • Peidiwch ag ateb i e-byst digymell neu sbam gan gwmnïau nad ydych yn eu hadnabod na chlicio ar ddolenni yn yr e-byst hynny.
  • Cyn rhoi manylion cerdyn talu ar wefan, gwnewch yn siŵr fod y ddolen yn ddiogel, mewn dwy ffordd:
    • Dylai fod symbol clo clap yn ffrâm ffenestr y porwr, sy’n ymddangos pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi neu gofrestru. Gwnewch yn siŵr nad yw’r clo clap ar y dudalen ei hun … mae’n debyg y bydd hyn yn arwydd o safle twyllodrus.
    • Dylai’r cyfeiriad gwe ddechrau gyda ‘https://’. Mae’r ‘s’ yn golygu ei bod yn ddiogel.
  • Mae’r uchod yn dangos bod y cyswllt rhyngoch chi a pherchennog y wefan yn ddiogel, ond nid yw’n dangos bod y safle ei hun yn ddilys. Mae angen i chi wneud hyn yn ofalus drwy chwilio am achosion cynnil o gamsillafu yn y cyfeiriad, geiriau a nodau ychwanegol ac achosion eraill o afreoleidd-dra.
  • Dylech wirio bod yr holl fanylion prynu yn gywir cyn cadarnhau’r taliad.
  • Bydd rhai gwefannau yn eich ailgyfeirio chi at wasanaeth talu trydydd parti (fel WorldPay). Gwnewch yn siŵr fod y safleodd hyn yn ddiogel cyn gwneud eich taliad.
  • Diogelwch a chofiwch y cyfrinair a ddewiswyd gennych ar gyfer y gwasanaethau dilysu ychwanegol a ddefnyddiwyd ar rai gwefannau, fel Verified by Visa.
  • Darllenwch bolisïau preifatrwydd a dychwelyd y gwerthwr.
  • Dylech bob amser allgofnodi o safleoedd rydych wedi mewngofnodi iddynt neu roi manylion cyfrestru arnynt. Nid yw cau eich porwr yn ddigon i sicrhau preifatrwydd.
  • Cadwch dderbynebau.
  • Cofiwch fod talu â cherdyn credyd yn eich amddiffyn yn well na dulliau eraill mewn perthynas â thwyll, gwarantau ac achosion o fethu â dosbarthu.
  • Darllenwch ddatganiadau cardiau credyd a banc yn ofalus ar ôl siopa er mwyn gwneud yn siŵr bod y swm cywir wedi cael ei ddebydu, a hefyd nad oes unrhyw dwyll wedi digwydd o ganlyniad i’r trafodyn.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd a wal dân yn rhedeg cyn i chi fynd ar-lein.

Rhoi gwybod am feddyginiaethau ffug

Os ydych wedi prynu meddyginiaethau neu ddyfeisiau meddygol ar-lein, a’ch bod yn credu y gallant fod yn rhai ffug, neu os oes gennych unrhyw bryderon neu wybodaeth a all ein helpu i ddod o hyd i’r sawl sy’n gyfrifol am gynhyrchu neu werthu meddyginiaethau ffug, anfonwch e-bost atom yng Ngrŵp Gorfodi’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn [email protected] neu ffoniwch y llinell gymorth benodol 24 awr ar 020 3080 6701. Fel arall, gallwch ysgrifennu at yr MHRA yn y cyfeiriad canlynol:

Counterfeits
Case Referral Centre
MHRA
5th Floor
151 Buckingham Palace Road
Victoria
London
SW1W 9SZ

Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.

 

 

 

In Partnership With