English

Prynu a Gwerthu Cerbydau

Mae’n haws nag erioed i brynu neu werthu cerbyd … diolch i’r rhyngrwyd. Mae’r gallu i lanlwytho a gweld ffotograffau a disgrifiadau o gerbydau, a chysylltu â phrynwyr a gwerthwyr – drwy un clic yn unig – wedi trawsnewid y busnes, a phrofiad pobl o brynu a gwerthu. Fodd bynnag, mae’r rhyngrwyd hefyd wedi ei gwneud yn haws i brynwyr a gwerthwyr anonest dwyllo nifer fawr o bobl, felly mae nifer o bethau y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt cyn mynd ar-lein i brynu neu werthu cerbyd.

Y risgiau

Prynu

  • Caiff hysbysiadau twyllodrus eu gosod gan gangiau troseddol sy’n esgus bod yn werthwyr ac, yn aml, maent yn cynnwys cerbyd am bris bargen nad yw’n bodoli, rhif ffôn ffug ac yn mynnu eich bod yn trosglwyddo arian i wasanaeth diogelu taliadau neu dramor.
  • Prynu cerbyd sydd wedi’i ddwyn, a allai gynnwys prynu cerbyd y mae ei rifau adnabod wedi cael eu newid i rai o gerbyd sydd wedi’i ddifrodi’n llwyr, ac sydd â dogfennaeth ffug (gelwir hyn yn ‘ringer’). Os ydych chi’n ddigon anffodus i brynu cerbyd sydd wedi’i ddwyn, efallai y byddwch yn gymwys i gael taliadau cytundeb cyllid pan gaiff ei ddychwelyd i’r perchennog iawn.
  • Prynu cerbyd sydd wedi’i ‘glocio’ (h.y. bod y teclyn cofnodi milltiroedd wedi cael ei droi yn ôl er mwyn gwneud i’r cerbyd ymddangos fel pe bai wedi teithio llai o filltiroedd).
  • Prynu cerbyd lle mae dau neu fwy o gerbydau wedi cael eu weldio at ei gilydd i greu model ‘newydd’ (gelwir hyn yn ‘cut and shut’).
  • Masnachwyr / archfarchnadoedd ceir yn codi ‘ffioedd gweinyddu’ arnoch nad ydynt wedi’u cynnwys yn y pris a gafodd ei hysbysebu. Gall y rhain honni eu bod yn cwmpasu nifer o wasanaethau, gan gynnwys cosbau am beidio â derbyn cyllid gan y gwerthwr.
  • Prynu cerbyd sydd wedi’i glonio, lle mae gan y cerbyd blatiau rhif sydd wedi’u dwyn o’r un model. Nid yw hyn o’r rheidrwydd yn golygu cerbyd sydd wedi’i ddwyn. Os ydych chi’n prynu cerbyd sydd wedi’i glonio, byddwch chi fwy na thebyg yn cael gorchmynion i dalu ffioedd parcio a goryrru, neu gael eich holi am droseddau yr oedd y cerbyd gwreiddiol yn rhan ohonynt.
  • Negeseuon e-bost gwe-rwydo sy’n gofyn am fanylion mewngofnodi a manylion cardiau talu, sy’n honni eu bod o wefannau prynu a gwerthu.

Gwerthu

  • Prynwyr twyllodrus – lladron yn esgus bod yn ddarpar brynwyr – sy’n cynnig gwerth llawn y cerbyd drwy PayPal neu gyfrif tebyg sydd wedi’i greu gyda manylion cerdyn credyd ffug.
  • Cwmnïau prynu ceir twyllodrus yn gofyn i chi dalu blaendal ‘ad-daladwy’ er mwyn cwblhau’r broses o werthu a chasglu’r cerbyd.
  • Taliad ddim yn cael ei wneud neu ei glirio tan ar ôl i chi ryddhau’r cerbyd, gan gynnwys taliadau drwy sieciau bancwyr ffug neu wasanaethau esgrow ffug.
  • Sgamiau allforio cerbyd – eich annog i drosglwyddo ‘ffioedd morgludo’ i ‘brynwyr’ dramor.
  • Negeseuon testun sy’n mynegi diddordeb yn eich cerbyd, ond sy’n gwneud esgusodion pam na allent eich ffonio. Gall y rhain fod yn rhan o sgam cyfradd premiwm a fydd yn codi tâl am symiau mawr o arian arnoch os ydych chi’n ymateb gyda galwad neu neges destun.
  • Negeseuon e-bost gwe-rwydo sy’n gofyn am fanylion mewngofnodi a manylion cardiau talu, sy’n honni eu bod o wefannau prynu a gwerthu.

Prynu’n Ddiogel

  • Talwch am gerbyd pan fyddwch yn mynd i’w gasglu oddi wrth y gwerthwr. Peidiwch byth ag anfon arian dramor, talu unrhyw arian (gan gynnwys blaendal) ar gyfer cerbyd nad ydych wedi’i weld na’i archwilio, na thalu i mewn i wasanaeth ‘diogelu taliadau’.
  • Os yw’r cerbyd yn cael ei gynnig am bris rhad iawn, gallai fod yn arwydd o sgam. Dylech bob amser edrych ar werth y farchnad drwy gael y cerbyd wedi’i brisio neu drwy gymharu’r pris ar Auto Trader neu wefannau tebyg.
  • Ewch i edrych ar y cerbyd yn bersonol (yn ystod y dydd yn ddelfrydol) a sicrhau bod ganddo ddogfennaeth – dogfen V5C (gelwir hefyd yn ‘llyfr cofnod’) hanes gwasanaeth a thystysgrifau MOT – cyn trosglwyddo unrhyw arian.
  • Cadarnhewch fod nifer y milltiroedd sy’n ymddangos ar y milomedr yn cyfateb i’w hanes gwasanaeth a hen dystysgrifau MOT. Ar filomedrau analog (ar rai cerbydau hŷn) gwnewch yn siŵr bod y barilau rhifau yn cyfateb. Gwnewch yn siŵr bod y cyflwr cyffredinol yn cyfateb i’r oedran a nifer y milltiroedd honedig.
  • Cadarnhewch – neu gofynnwch i arbenigwr gadarnhau – nad yw’r cerbyd yn un ‘cut and shut’ (dau neu fwy o gerbydau wedi’u weldio at ei gilydd).
  • Cadarnhewch fod y V5C yn ddilys, gyda dyfrnod y DVLA. Edrychwch ar y rhif cyfresol yn y gornel dde uchaf – os yw’n dod o dan yr ystod ganlynol, gallai’r cerbyd fod wedi cael ei ddwyn a dylech roi gwybod i’r heddlu: BG8229501 i BG9999030, a BI2305501 i BI2800000.
  • Ewch i gartref y gwerthwr a chadarnhewch fod y cyfeiriad yr un peth â’r cyfeiriad sy’n cael ei nodi ar y ddogfen gofrestru (V5C). Sicrhewch mai’r gwerthwr yw’r perchennog cofrestredig, fel arall, efallai nad oes hawl ganddo’n gyfreithiol i werthu’r cerbyd.
  • Cadarnhewch fod y Rhif Adnabod Cerbyd yr un peth â’r rhif sydd ar y V5C. Gallwch ddod o hyd i’r rhif hwn fel arfer ar ffrâm y cerbyd, ar y ffenestr flaen neu ar y llawr wrth ymyl sedd y gyrrwr. Cadarnhewch nad oes neb wedi ymyrryd ag ef.
  • Mynnwch gadarnhad o hanes cerbyd er mwyn cael gwybod p’un a yw’r cerbyd wedi’i ddwyn, ei ddifrodi’n llwyr, ei sgrapio, neu a yw’n destun cyllid dyledus. Gallwch edrych ar-lein i weld pa wybodaeth y mae’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn ei chadw am gerbyd. Gall sefydliadau eraill gan gynnwys Auto Trader gynnig gwiriadau hanes cerbyd.
  • Os ydych yn prynu oddi wrth fasnachwr neu archfarchnad geir, gwnewch yn siŵr ymlaen llaw mai’r pris sy’n cael ei hysbysebu yw’r pris y byddwch yn ei dalu, ac na chodir unrhyw ‘ffioedd gweinyddu’ na chostau ychwanegol arnoch.

Gwerthu’n Ddiogel

  • Gwnewch yn siŵr fod unrhyw un sy’n dod i brawf-yrru’r cerbyd yn meddu ar drwydded yrru ddilys a bod ei yswiriant yn addas. Gallech fod yn atebol am unrhyw ddamweiniau gall yr unigolyn eu cael.
  • Er mwyn osgoi gadael prynwyr ar eu pen eu hunain (a gyrru i ffwrdd o bosibl) gyda’ch cerbyd, cadwch yr allweddi gyda chi bob amser, a dylech osgoi eu cadw yn y taniad.
  • Peidiwch byth â throsglwyddo unrhyw allweddi na dogfennaeth tan fod eich banc wedi cadarnhau fod gwerth llawn y cerbyd wedi’i glirio i’ch cyfrif banc.
  • Peidiwch byth ag anfon arian dramor.
  • Peidiwch byth â thalu blaendal mawr.
  • Peidiwch â gadael i neb roi pwysau arnoch i ryddhau eich cerbyd – bydd prynwr dilys yn fodlon aros tan fod yr arian wedi’i glirio.
  • Byddwch yn ofalus ynglŷn â’r ffordd rydych yn derbyn taliadau:
    • Arian parod – gofynnwch i’r arian parod gael ei roi i chi mewn banc, lle y gellir cadarnhau a yw’r papurau arian yn ffug a’u talu i mewn i’ch cyfrif ar unwaith.
    • Sieciau – peidiwch byth â gadael i brynwr fynd â’ch cerbyd tan fod yr arian wedi’i glirio yn eich cyfrif banc.
    • Drafftiau banc – nid yw’r rhain cystal ag arian parod, felly dylech eu trin yn yr un ffordd ag y byddech yn trin siec bersonol.
    • Trosglwyddiad banc ar-lein yw un o’r ffyrdd mwyaf diogel i dalu am ei bod yn osgoi trin symiau mawr o arian a’r problemau sy’n gysylltiedig â sieciau.

Ac fel gyda phob math o drosglwyddiad ar-lein, dylid dilyn y rhagofalon canlynol bob amser:

  • Peidiwch ag ateb i e-byst digymell na sbam gan gwmnïau neu unigolion nad ydych yn eu hadnabod na chlicio ar ddolenni yn yr e-byst hynny.
  • Gwnewch yn hollol siŵr fod y cyfeiriad cywir ar gyfer y wefan yn ymddangos yn y bar cyfeiriad, am ei bod yn hawdd i dwyllwyr ddefnyddio sillafu tebyg neu fanylion eraill i’ch twyllo chi i fynd i safle ffug.
  • Cyn rhoi manylion cerdyn talu ar wefan, gwnewch yn siŵr fod y ddolen yn ddiogel, mewn tair ffordd:
  • Dylai fod symbol clo clap yn ffrâm ffenestr y porwr, sy’n ymddangos pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi neu gofrestru. Gwnewch yn siŵr nad yw’r clo clap ar y dudalen ei hun … mae’n debyg y bydd hyn yn arwydd o safle twyllodrus.
  • Dylai’r cyfeiriad gwe ddechrau gyda ‘https://’. Mae’r ‘s’ yn golygu ei bod yn ddiogel.
  • Dylech wirio bod yr holl fanylion prynu yn gywir cyn cadarnhau’r taliad.
  • Bydd rhai gwefannau yn eich ailgyfeirio chi at wasanaeth talu trydydd parti (fel WorldPay). Gwnewch yn siŵr fod y safleoedd hyn yn ddiogel cyn gwneud eich taliad.
  • Dewis cyfrineiriau diogel a pheidiwch â’u datgelu i neb, ni waeth pa mor ddibynadwy ydynt yn eich barn chi.
  • Dylech bob amser allgofnodi o wefannau rydych wedi mewngofnodi iddynt neu roi manylion cofrestru arnynt. Nid yw cau eich porwr yn ddigon i sicrhau preifatrwydd.
  • Cadwch dderbynebau.
  • Cofiwch fod talu â cherdyn credyd yn eich amddiffyn yn well na dulliau eraill mewn perthynas â thwyll, gwarantau ac achosion o fethu â dosbarthu.
  • Darllenwch ddatganiadau cardiau credyd a banc yn ofalus ar ôl siopa er mwyn gwneud yn siŵr bod y swm cywir wedi cael ei ddebydu, a hefyd nad oes unrhyw dwyll wedi digwydd o ganlyniad i’r trafodyn.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd wedi’i ddiweddaru a wal dân yn rhedeg cyn i chi fynd ar-lein.
  • Os ydych chi’n defnyddio rhwydwaith di-wifr, gwnewch yn siŵr ei fod yn ddiogel ac wedi’i amgryptio.

Os ydych amau unrhyw beth

  • Os byddwch yn cael e-bost ac yn credu ei fod oddi wrth dwyllwr, peidiwch ag ymateb iddo, ond anfonwch yr e-bost ymlaen i adran gamddefnydd darparwr e-bost yr anfonwr a defnyddiwch feddalwedd eich e-bost i flocio e-byst pellach oddi wrth y defnyddiwr.
  • Os ydych chi’n cael neges destun yn gofyn i chi ffonio rhif cyfradd premiwm, cysylltwch â llinell gymorth am ddim yr Awdurdod Gwasanaethau y Telir Amdanynt drwy’r Ffôn ar 0300 30 300 20. Fel arall, gallwch gwyno i Awdurdod Gwasanaethau y Telir Amdanynt drwy’r Ffôn neu gadarnhau rhif cyfradd premiwm.

Rhowch wybod amdano!

Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll cerbyd:

  • Rhowch wybod amdano i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll ar 0300 123 20 40 neu drwy fynd i www.actionfraud.police.uk.
  • Rhowch wybod i dîm y wefan am y digwyddiad er mwyn helpu i ddal troseddwyr ac atal digwyddiadau tebyg rhag digwydd i bobl eraill

Ynglŷn â VSTAG

Fforwm yw’r Grŵp Cynghori Masnachu Cerbydau’n Ddiogel (VSTAG), a gafodd ei greu i helpu i ddiogelu prynwyr a gwerthwyr cerbydau ail-law rhag twyll yn ystod y broses o brynu a gwerthu ar-lein. Er mwyn helpu i gyflawni’r nod hwn, gall aelodau VSTAG rannu gwybodaeth am hysbysebion twyllodrus a hysbysebion yr amheuir eu bod yn dwyllodrus.

Mae VSTAG yn helpu prynwyr a gwerthwyr cerbydau ar-lein drwy wneud y canlynol:

  • Cynnig cyngor i ddefnyddwyr a masnachwyr ceir ar sut i osgoi twyll sy’n ymwneud â cherbydau
  • Rhannu cudd-wybodaeth rhwng aelodau a allai leihau twyll sy’n ymwneud â cherbydau, gan gynnwys cyngor ar sgamiau presennol a manylion hysbysebion twyllodrus
  • Datblygu canllawiau arfer da i aelodau ynghylch atal ac ymchwilio i droseddau sy’n ymwneud â cherbydau
  • Cydgysylltu ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith ac awdurdodau rheoleiddiol

Os ydych wedi wynebu seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioeddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.

 

In Partnership With