English

Preifatrwydd

Mae cynnal preifatrwydd ar-lein yn hanfodol er mwyn osgoi achosion o ddwyn hunaniaeth a thwyll. Fodd bynnag, heblaw am y risgiau hyn, mae gwybodaeth bersonol amdanoch na fyddwch am ei datgelu i bobl benodol eraill.

Mae’n syndod o hawdd rhannu eich gwybodaeth bersonol yn anfwriadol ar-lein, yn enwedig pan gewch eich annog i wneud hynny mewn e-bost, ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol neu ar wefannau cwmnïau sy’n gwneud cais am wybodaeth nad oes ei hangen arnynt er mwyn gwneud busnes gyda chi.

Hefyd, mae gan rai sefydliadau wybodaeth amdanoch sy’n eich galluogi i wneud trafodion gyda nhw. Mae’r rhain yn cynnwys adrannau’r llywodraeth fel CThEM, sefydliadau ariannol fel banciau, cymdeithasau adeiladu a chwmnïau yswiriant, manwerthwyr, peiriannau chwilio … mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Maent oll yn ddarostyngedig i’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, ond mae angen i chi gymryd gofal o’u defnydd o’ch data.

Y risgiau

  • Dwyn hunaniaeth
  • Blacmel/cribddeiliaeth
  • Difenwi cymeriad
  • Gwerthu a marchnata digymell
  • Pobl yn defnyddio eu hymwybyddiaeth o’ch gweithgareddau a’ch symudiadau i weithredu yn eich erbyn
  • Cyflogwyr yn defnyddio’r wybodaeth i ymwelwa arnoch

Sut y gellir Peryglu eich Preifatrwydd

  • Gellir monitro negeseuon e-bost heb eu hamgryptio a’r rhan fwyaf o achosion o ryngweithio â gwefannau, yn cynnwys gan eich cyflogwr a’ch darparwr gwasanaeth rhyngrwyd (ISP).
  • Drwy we-rwydo – lle mae e-bost annilys yn eich annog i glicio ar ddolen i wefan ffug sy’n casglu eich gwybodaeth breifat neu eich gwybodaeth ariannol.
  • Drwy lais-rwydo (vishing), lle mae twyllwyr yn eich ffonio neu’n galw yn bersonol, er mwyn casglu eich gwybodaeth breifat neu eich gwybodaeth ariannol.
  • Defnyddio rhwydweithiau WiFi anniogel – yn y cartref/swyddfa a phan fyddwch allan.
  • Defnyddio dolenni heb eu hamgryptio ar gyfer dulliau cyfathrebu sensitif (er enghraifft peidio â defnyddio VPN i gysylltu â’r swyddfa).
  • Peidio â defnyddio gwefannau diogel wrth fancio neu wneud taliadau ar-lein, yn cynnwys y rhai ar gyfer prynu pethau.
  • Peidio â defnyddio cyfrineiriau cryf, peidio â newid cyfrineiriau yn rheolaidd, peidio â defnyddio cyfrineiriau o gwbl neu ddatgelu cyfrineiriau i bobl eraill.
  • Peidio â defnyddio cyfrif e-bost neu wefan ddiogel.
  • Defnyddio cyfrif e-bost gwaith ar gyfer negeseuon e-bost personol.
  • Aros wedi mewngofnodi â’ch cyfrif gwefan neu e-bost pan fydd y cyfrifiadur/ffôn clyfar/llechen yn cael ei defnyddio gan rywun arall.
  • Drwy ysbïwedd a feirysau, yn cynnwys y rhai sy’n cofnodi eich trawiadau bysellau er mwyn canfod eich gweithgarwch ar-lein.
  • Drwy gofnodwyr trawiadau bysellau ffisegol wedi’u hatodi i gebl y bysellfwrdd.
  • Peidio â storio dogfennau personol neu ariannol yn ddiogel.
  • Peidio â rhwygo dogfennau personol neu ariannol diangen.
  • Ymddiried yn rhywun yn rhy gyflym.

Cynnal eich Preifatrwydd

  • Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd wedi’i diweddaru yn rhedeg.
  • Mewn amgylchedd cyhoeddus neu amgylchedd gwaith, gwiriwch eich cyfrifiadur yn ffisegol am unrhyw ddyfeisiau anarferol a all fod wedi’u cysylltu, yn enwedig ar gebl y bysellfwrdd.
  • Defnyddiwch wefannau diogel wrth siopa neu fancio ar-lein.
  • Allgofnodwch o wefannau diogel pan fyddwch wedi gorffen eich trafodyn, oherwydd efallai na fydd cau’r ffenest yn eich allgofnodi o’r safle yn awtomataidd.
  • Defnyddiwch gyfrineiriau cryf, newidiwch eich cyfrineiriau yn rheolaidd a pheidiwch byth â’u datgelu i bobl eraill.
  • Dylech osgoi defnyddio cyfeiriad e-bost gwaith at ddefnydd personol. Yn hytrach, dylech gael cyfeiriad e-bost preifat ar wahân ar gyfer busnes preifat.
  • Gwnewch yn siŵr fod rhwydwaith WiFi eich cartref/swyddfa yn ddiogel.
  • Storiwch ddogfennau personol ac ariannol yn ddiogel.
  • Rhwygwch ddogfennau personol neu ariannol diangen.
  • Pwyllwch cyn datgelu gwybodaeth bersonol i bobl.
  • Lle y bo’n bosibl, dylech osgoi defnyddio eich enw go iawn ar-lein.
  • Byddwch yn wyliadwrus ynghylch pwy sy’n ceisio gwneud ffrindiau â chi ar-lein yn cynnwys drwy e-bost a rhwydweithiau cymdeithasol/safleoedd caru.
  • Pwyllwch cyn datgelu gwybodaeth bersonol ar wefan gwaith neu wefan bersonol.
  • Defnyddiwch gyfrif gwebost dienw, untro ar gyfer gwefannau sy’n gofyn am gyfeiriad e-bost i gofrestru.
  • Pennwch ganllawiau clir ar gyfer plant ynghylch pryd a sut y gallant ddatgelu gwybodaeth.

Gwybodaeth Ychwanegol

O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, mae gennych hawl gyfreithiol i ofyn am gopi o’r holl ddata personol sydd gan sefydliad amdanoch, a elwir yn gais gwrthrych am wybodaeth.

 

See Also...

In Partnership With