English

Pori Diogel

Nid yw’r ffaith y gall ddefnyddio’r rhyngrwyd yn golygu bod gan eich plentyn yr aeddfedrwydd na’r profiad i ddelio â phopeth y gall ddod ar ei draws yno.

Siaradwch â’ch plentyn am syrffio’n ddiogel, a chyfeiriwch ef at safleoedd sy’n ddiogel i blant.

Gwnewch yn siŵr fod eich porwr wedi’i osod i gynnig nodweddion diogelwch a phreifatrwydd mewnol i chi a bod peiriannau chwilio yn hidlo canlyniadau sydd â chynnwys a allai fod yn niweidiol fel delweddau rhywiol, cynnwys hiliol a deunydd ar anhwylderau bwyta a hunan-niweidio.

Heb reolyddion o’r fath, mae’n debygol iawn y bydd eich plentyn yn dod ar draws rhywbeth nad yw’n briodol i’w oedran … neu unrhyw oedran.

Os byddwch yn gweld bod eich plentyn wedi bod yn edrych ar gynnwys o’r fath neu’n cael ei amlygu i gynnwys o’r fath, peidiwch â thybio mai chwilfrydedd diniwed oedd hynny. Trafodwch pam nad yw’n beth da. Siaradwch ag ef am y math o wefannau y mae’n edrych arnynt. Dylech ei annog i siarad â chi os bydd yn dod ar draws rhywbeth sy’n peri pryder neu ofid iddo ar wefannau, gemau neu ar y gwefannau rhyngweithio cymdeithasol.

 

See Also...

In Partnership With