English

Pobl Ifanc a Seiber-droseddoldeb

Rhoddwyd llawer o sylw i’r peryglon i bobl ifanc sy’n treulio oriau di-ri ar eu cyfrifiadur neu eu llechen yn eu hystafell wely ac maent yn cynnwys problemau iechyd a phroblemau cymdeithasol. Fodd bynnag, un o’r risgiau mwyaf difrifol yw torri’r gyfraith ar-lein drwy ddefnyddio eu sgiliau codio er mwyn datblygu maleiswedd neu gymryd rhan mewn seiberdroseddau – naill ai ar eu rhan eu hunain neu yn gweithio ar gyfer gangiau troseddol. Mae nifer gynyddol o achosion o dorri data proffil uchel, seiberdroseddau ariannol ac ymosodiadau DDoS (Ymosodiad Gwrthod Gwasanaeth Gwasgaredig) yn erbyn cwmnïau bach, corfforaethau a thargedau unigol yn cynnwys pobl ifanc yn eu harddegau a’u hugeiniau cynnar.

Pwy sy’n wynebu’r risg fwyaf?

  • Mae pobl ifanc sydd fwyaf tebygol o gymryd rhan mewn seiberdroseddu yn debygol o fod â diddordeb mawr mewn technoleg.
  • Yn aml, caiff hyn ei ysgogi gan frwdfrydedd dros chwarae gemau, a all fod wedi arwain at ymweld â gwefannau a fforymau sy’n rhannu codau twyllo wrth chwarae gemau cyfrifiadurol. Gall y sefyllfaoedd hyn fod yn boblogaidd ar gyfer codio maleiswedd a seiberdroseddau arall.
  • Efallai na fydd y bobl ifanc yn cael eu herio’n ddigonol gan gynnwys meysydd llafur technoleg yr ysgol, y coleg neu’r brifysgol.
  • Mewn rhai achosion (ond nid pob un o bell ffordd), maent wedi cael diagnosis o fath o awtistiaeth neu Syndrom Asperger.

Mae ymchwil gan Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol y DU yn awgrymu y gallai pobl ifanc mor ifanc â 12 oed wynebu risg o gael eu cynnwys mewn troseddau seiber-ddibynnol. Mae rhai yn cael enillion ariannol mawr, ond i eraill, y nod yw cwblhau her, cael ymdeimlad o gyflawniad ac ennill ‘bathodyn anrhydedd’ o fewn eu grŵp o gyfoedion. Mae’r rhan fwyaf o’r rhai yr effeithiwyd arnynt yn meddwl bod y tebygolrwydd o wynebu camau gorfodi’r gyfraith yn isel, ac nid yw rhai hyd yn oed yn sylweddoli bod eu camau yn cyfateb i weithgarwch troseddol.

Fel rhiant neu ofalwr, mae’n annhebygol y byddwch yn amau unrhyw weithgarwch troseddol os bydd person ifanc yn eich cartref yn treulio cyfnodau hir ar-lein. Mewn gwirionedd, efallai y byddwch yn meddwl eu bod wedi’u diogelu am eu bod yn ‘ddiogel yn y tŷ’.

Canlyniadau posibl

  • Ymweliad gan swyddogion gorfodi’r gyfraith sy’n arwain at rybudd neu arestio posibl, dirwyon a/neu garchariad.
  • Gorchymyn llys sy’n cyfyngu ar fynediad i’r rhyngrwyd.
  • Cofnod troseddol, a allai effeithio ar addysg a rhagolygon gyrfa.

Mathau o seiberdroseddau

1.  Troseddau seiber-ddibynnol (neu seiberdroseddau ‘pur’) yw’r rhai y gellir ond eu cyflawni drwy ddefnyddio cyfrifiadur, rhwydweithiau cyfrifiadurol neu fathau eraill o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh). Un enghraifft o drosedd seiber-ddibynnol fyddai cynnal ymosodiad gwrthod gwasanaeth, wedi’i gynllunio i foddi gwefan â thraffig er mwyn ei hatal rhag gweithredu.

2. Troseddau a hwylusir gan ddulliau seiber yw troseddau traddodiadol y gellir cynyddu eu graddfa neu eu cwmpas drwy ddefnyddio cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd. Byddai twyll marchnata torfol a sgamiau defnyddwyr ar-lein yn enghreifftiau o hyn.

Os oes gennych bryder

Os oes gennych bryder bod eich plentyn neu berson ifanc arall rydych yn ei adnabod yn gwneud y dewisiadau seiber anghywir, dylech gysylltu â’r tîm Atal SeiberDroseddau yn eich Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol (ROCU).

Gyrfaoedd sy’n defnyddio codio a sgiliau cyfrifiadurol eraill

Gall fod sawl cyfle i bobl ifanc yn eu harddegau droi eu talentau codio a’u talentau cyfrifiadurol eraill at yrfaoedd gwerth chweil sy’n talu’n dda. Mae’r prinder sgiliau seiber ledled y DU ac yn fyd-eang wedi arwain at nifer fawr o gyfleoedd o’r fath ym maes chwarae gemau, y cyfryngau cymdeithasol a chwmnïau technoleg eraill, ac asiantaethau’r llywodraeth ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith.

Ceir canllawiau drwy ddilyn y dolenni canlynol:

CYBER SECURITY CHALLENGE

Rhaglenni wedi’u cynllunio i nodi, ysbrydoli a galluogi mwy o bobl i ddod yn weithwyr proffesiynol ym maes diogelwch seiber www.cybersecuritychallenge.org.uk

NCSC CYBER FIRST

Datblygu cenhedlaeth nesaf y DU o weithwyr proffesiynol ym maes seiber drwy fwrsarïau myfyrwyr, cyrsiau a chystadlaethau www.cyberfirst.ncsc.gov.uk

IMMERSIVE LABS

Am ddim (i fyfyrwyr) – dysgu rhithwir ar borwr ar-lein i bob gallu  www.immersivelabs.com

CYBRARY

Hyfforddiant Seiberddiogelwch ar-lein am ddim gyda dewis o gannoedd o gyrsiau http://www.cybrary.it

KHAN ACADEMY

Fideos, ymarferion, rhaglenni seiberddiogelwch ar-lein am ddim www.khanacademy.org

Fideo NCA

Gwyliwch fideo NCA ar helpu pobl ifanc i wneud y #dewisiadauseiber cywir yn

Adnodd i athrawon

Mae Cyber Security Challenge UK wedi datblygu adnoddau addysgu am ddim er mwyn helpu rhieni ac athrawon i godi ymwybyddiaeth o seiberdroseddau ymysg pobl ifanc.

See Also...

In Partnership With