English

Os yw’ch plentyn yn 13 oed neu’n hŷn

Cyngor os yw eich plentyn yn 13 oed neu’n hŷn

  • Nid yw byth yn rhy hwyr i atgyfnerthu ffiniau … efallai bod eich plentyn yn meddwl ei fod yn ddigon o oedolyn ei hun, ond mae angen iddo gael eich doethineb a’ch arweiniad o hyd.
  • Efallai eich bod yn dechrau meddwl bod eich plentyn yn gwybod mwy am ddefnyddio technoleg na chi, ac efallai eich bod yn iawn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ac yn trafod beth rydych chi’n ei wybod gyda’ch plentyn.
  • Siaradwch yn onest â’ch plentyn am sut mae’n archwilio materion yn ymwneud ag iechyd, llesiant, delwedd y corff a’i rywioldeb ei hun ac eraill ar-lein. Efallai ei fod wedi canfod gwybodaeth anghywir neu beryglus ar-lein ar adeg fregus yn ei fywyd.
  • Adolygwch y gosodiadau ar reolyddion i rieni yn unol ag oedran ac aeddfedrwydd eich plentyn a’u haddasu os yw’n briodol. Efallai y bydd yn gofyn i chi ymddiried digon ynddo i’w troi i ffwrdd yn llwyr, ond ystyriwch yn ofalus cyn gwneud hynny a chytunwch ymlaen llaw beth sy’n ymddygiad derbyniol ar-lein.
  • Hefyd, siaradwch yn onest â’ch plentyn ynghylch sut mae’n ymddwyn tuag at eraill, yn enwedig mewn perthynas â’r hyn mae’n ei rannu ar-lein. Byddwch yn barod i gael sgyrsiau gonest am fwlio, a rhannu sylwadau niweidiol, camarweiniol neu anwir. Gwnewch yn siŵr ei fod yn ymwybodol o beryglon ymddygiadau fel secstio a defnyddio gwegamerau yn amhriodol.
  • Rhowch reolaeth i’ch plentyn o’i gyllideb ei hun ar gyfer gweithgareddau fel lawrlwytho apiau a cherddoriaeth, ond cytunwch ar ffiniau ymlaen llaw er mwyn iddo reoli ei arian yn gyfrifol. Peidiwch â rhoi mynediad iddo i’ch cerdyn talu na manylion ariannol eraill.
  • Byddwch yn glir yn eich meddwl eich hun ar faterion fel deunydd â hawlfraint a llên-ladrad fel y gallwch egluro wrth eich plentyn beth sy’n gyfreithlon a beth nad yw’n gyfreithlon.
  • Os yw eich plentyn yn meddu ar ddealltwriaeth dechnolegol – a’i fod yn cael digon o ddylanwad gan eraill – gallai fod yn agored i arbrofi o ran cael gwybodaeth gyfrinachol o wefannau pobl eraill neu gwmnïau. Mae hacio yn beth prin iawn ymysg y grŵp oedran hwn, ond mae’n bodoli. Eglurwch y peryglon a’r canlyniadau.

Dyma rai cwestiynau y gallech eu trafod gyda’ch plant, nawr eu bod yn hŷn:

  • Wyt ti wir yn adnabod pawb ar dy restr ‘ffrindiau’?
  • Wyt ti’n gwybod sut i ddefnyddio a phennu gosodiadau preifatrwydd a diogelwch? Elli di ddangos i mi sut i wneud hyn?
  • Wyt ti’n cael negeseuon gan ddieithriaid weithiau? Os felly, sut wyt ti’n delio â nhw?
  • Wyt ti’n adnabod rhywun sydd wedi gwneud cynlluniau i gwrdd â rhywun all-lein y maen nhw ond wedi siarad â nhw ar-lein?
  • A yw pobl yn dy grŵp o ffrindiau yn gas i’w gilydd, neu i bobl eraill, ar-lein neu ar ffonau? Os felly, beth maen nhw’n ei ddweud? A oes unrhyw un erioed wedi bod yn gas i ti? Fyddet ti’n dweud wrtha i pe byddai hynny’n digwydd?
  • A oes unrhyw un yn dy ysgol, neu unrhyw un arall rwyt ti’n ei adnabod, erioed wedi tynnu lluniau noeth neu rywiol a’u hanfon at bobl eraill, neu wedi cael lluniau o’r fath?

 

See Also...

In Partnership With