English

Os yw’ch plentyn yn 6 i 9 oed

Os yw eich plentyn rhwng 6 a 9 oed

  • Ar gyfrifiaduron ac unrhyw ddyfeisiau eraill y mae gan eich plentyn fynediad iddynt, gosodwch y rheolyddion i rieni i’r oedran priodol, a galluogi mynediad i gynnwys priodol yn unig.
  • Prynwch neu lawrlwythwch feddalwedd rheolyddion i rieni, trowch y feddalwedd ymlaen a’i diweddaru’n rheolaidd. Mae sawl fersiwn ar y farchnad, sy’n gweithio mewn ffyrdd gwahanol ac sydd ar gael am brisiau amrywiol, yn dechrau am ddim.
  • Mae’r pedwar Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd (ISPs) mawr yn rhoi rheolyddion i rieni am ddim i’w cwsmeriaid y gellir eu hactifadu unrhyw bryd. Cymerwch gipolwg arnyn nhw a manteisiwch arnyn nhw.
  • Cytunwch ar restr o wefannau y gall eich plentyn ymweld â nhw a’r math o wybodaeth bersonol na ddylai ddatgelu amdano’i hun ar-lein, fel enw ei ysgol neu gyfeiriad ei gartref.
  • Gosodwch y cyfyngiadau amser ar gyfer gweithgareddau fel defnyddio’r rhyngrwyd a chonsolau gemau.
  • Gwnewch yn siŵr fod eich plentyn ond yn cael gafael ar gynnwys sy’n briodol i’w oedran drwy wirio’r cyfraddau oedran ar gemau, teledu ar-lein, ffilmiau ac apiau.
  • Trafodwch â’ch plant hŷn beth y dylen nhw neu beth na ddylen nhw ei ddangos i’w brodyr a’u chwiorydd iau ar y rhyngrwyd, dyfeisiau symudol, consolau gemau a dyfeisiau eraill.
  • Trafodwch â rhieni eraill bynciau fel pa oedran i brynu dyfeisiau sy’n cysylltu â’r rhyngrwyd i blant.
  • Peidiwch â chael eich darbwyllo gan eich plentyn i adael iddo ddefnyddio technolegau penodol na gweld cynnwys penodol ar-lein, os nad ydych yn meddwl ei fod yn ddigon hen neu aeddfed … ni waeth faint y bydd yn rhoi pwysau arnoch neu beth mae rhieni ei ffrindiau yn ei ganiatáu.

See Also...

In Partnership With