English

Os yw’ch plentyn dan bump oed

Cyngor os yw eich plentyn dan 5 oed

  • Dechreuwch osod ffiniau, hyd yn oed ar yr oedran cynnar hwn … nid yw byth yn rhy gynnar i wneud pethau fel gosod terfynau ar gyfer faint o amser y gall ei dreulio ar y cyfrifiadur.
  • Gwnewch yn siŵr fod dyfeisiau fel eich ffôn symudol, llechen neu liniadur allan o’i gyrraedd. Gosodwch gyfrineiriau/PIN a gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’r manylion hyn i chi eich hun.
  • Ar gyfrifiaduron ac unrhyw ddyfeisiau eraill y mae gan eich plentyn fynediad iddynt, gosodwch y rheolyddion i rieni i’r oedran priodol, a galluogi mynediad i gynnwys priodol yn unig.
  • Prynwch neu lawrlwythwch feddalwedd rheolyddion i rieni, trowch y feddalwedd ymlaen a’i diweddaru’n rheolaidd. Mae sawl fersiwn ar y farchnad, sy’n gweithio mewn ffyrdd gwahanol ac sydd ar gael am brisiau amrywiol, yn dechrau am ddim.
  • Mae’r pedwar Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd (ISPs) mawr yn rhoi rheolyddion i rieni am ddim i’w cwsmeriaid y gellir eu hactifadu unrhyw bryd. Cymerwch gipolwg arnyn nhw a manteisiwch arnyn nhw.
  • Dim ond apiau, gemau, rhaglenni teledu a ffilmiau arlein sy’n cynnwys cyfradd oedran y dylech eu prynu neu eu lawrlwytho, a dylech gymryd golwg arnynt cyn gadael i’ch plentyn chwarae â nhw neu eu gwylio.
  • Rhannwch eich rheolau o ran technoleg â neiniau a theidiau, gwarchodwyr plant a rhieni ffrindiau eich rheini fel eu bod yn gwybod beth i’w wneud pan fyddant yn gofalu am eich plentyn.
  • Wrth ddefnyddio WiFi cyhoeddus – er enghraifft mewn caffis neu westai – cofiwch ei bod yn bosibl na fydd yn cynnwys rheolyddion i rieni. Gallai caniatáu i’ch plentyn chwarae â’ch ffôn symudol neu lechen yn ddiniwed wrth i chi fwynhau latte olygu eu bod yn cael gafael ar gynnwys amhriodol neu’n datgelu gwybodaeth bersonol.
  • Os oes gennych gyfrifiadur neu lechen i’r teulu, gosodwch yr hafan i dudalen briodol fel Cbeebies

 

See Also...

In Partnership With