English

Negeseuon Testun Sbam

Negeseuon testun gan bobl nad ydych yn eu hadnabod sydd, ar ey gorau yn annifyr ac, ar eu gwaethaf yn gallu cynnwys dolenni i wefannau maleisus sydd wedi’u cynllunio i ddwyn eich manylion personol a’ch twyllo yn y pen draw. Yn ogystal â bod yn ddiflas, mae negeseuon sbam sy’n ceisio eich darbwyllo i gysylltu â’r anfonwr mewn perthynas â hawliad am ddamwain, hawliad PPI, gwyliau neu gar am ddim, meddyginiaeth neu rywbeth tebyg … maent hefyd yn anghyfreithlon.

Dylai negeseuon testun dilys gynnwys enw a manylion cyswllt yr anfonwr. Dylech fod wedi rhoi caniatâd iddynt gael eu hanfon, ond efallai eich bod wedi anghofio, neu na wnaethoch sylweddoli.

Os byddwch yn derbyn neges destun sbam, peidiwch ag ymateb na’i hanfon ymlaen. Dylech ei dileu.

Gallwch hefyd roi gwybod am negeseuon testun sbam yn uniongyrchol i’ch darparwr ffôn symudol, y mae pob un ohonynt wedi cydweithio er mwyn sefydlu adnodd sy’n casglu’r holl wybodaeth o’r cod byr 7726* mewn amser real. Mae deialu 7726 (neu 87726 i danysgrifwyr Vodafone) yn galluogi eich darparwr i gymryd camau gweithredu cynnar i flocio rhifau sy’n creu sbam ar eu rhwydweithiau, a rhoi gwybod i’r rheoleiddwyr amdanynt.

Rydym yn argymell eich bod yn rhoi gwybod am negeseuon testun sbam yn uniongyrchol i ddarparwr eich ffôn symudol yn rhad ac am ddim drwy eu hanfon i 7726 o’r ddyfais y cânt eu derbyn arni.

‘Mae ‘Which’ hefyd yn gweithredu gwasanaeth adrodd ar-lein ar gyfer negeseuon testun sgam a galwadau ffôn, yma: www.which.co.uk/consumer-rights/advice/how-to-deal-with-sbam-text-messages

*7726 yw’r rhifau cyfatebol ar gyfer S P A M ar fysellfwrdd ffôn

 

 

In Partnership With