English

Negeseua Gwib

Mae negeseuon uniongyrchol yn eich galluogi i ‘sgwrsio’ mewn amser real dros y rhyngrwyd mewn ffordd debyg i neseuon testun ar ffonau symudol. Mae systemau datblygedig yn eich galluogi i gyfathrebu dros we gamerâu a gan ddefnyddio eich llais. Mae’r rhan fwyaf o lwyfannau negeseuon uniongyrchol penodol wedi cael eu cau i lawr bellach. Y rhai a ddefnyddir fwyaf yw’r rhai mewn cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â llwyfannau chwarae gemau, caru a llwyfannau eraill. Gall negeseuon uniongyrchol fod yn wych ar gyfer cadw mewn cysylltiad â ffrindiau ond, fel e-bost, mae risg yn gysylltiedig â hyn.

Y risgiau

  • Efallai nad yw pobl ar-lein yn dweud y gwir am bwy ydynt neu am bwy mae’n ymddangos ydynt.
  • Rhywun yn eich darbwyllo i lawrlwytho a rhedeg darn o feddalwedd sydd wedi’i heintio gan feirws.
  • Clustfeinio ar eich sgyrsiau. Nid oes sicrwydd o breifatrwydd gan nad yw sgyrsiau wedi’u hamgryptio a gellir eu cadw i’w defnyddio all-lein.
  • Gall meddalwedd negeseuon uniongyrchol fod yn agored i feirws neu ymosodiad arall.
  • Gall ystafelloedd sgwrsio ar-lein – sydd ar gael drwy negeseuon uniongyrchol – fod yn llefydd annymunol.

Defnyddio Negeseuon Uniongyrchol yn Ddiogel

  • Peidiwch byth â rhannu cyfrineiriau, gwybodaeth am gardiau credyd na data preifat eraill.
  • Blociwch ddieithriaid. Os bydd eich meddalwedd yn caniatáu hynny, sefydlwch y system fel mai dim ond pobl ar eich rhestr ‘caniatáu’ a all gysylltu â chi.
  • Byddwch yn wyliadwrus iawn ynghylch datgelu unrhyw wybodaeth breifat i ddieithryn y byddwch yn cwrdd ag ef drwy negeseuon uniongyrchol. Gall twyllwyr ddefnyddio gwybodaeth sy’n ymddangos yn ddiniwed hyd yn oed fel enw eich cyflogwr yn eich erbyn.
  • Peidiwch byth â chlicio ar ddolenni y byddwch yn eu derbyn drwy negeseuon uniongyrchol gan bobl nad ydych yn eu hadnabod nac yn ymddiried ynddyn nhw, ac nad ydych erioed wedi cwrdd â nhw go iawn.
  • Gadewch eich proffil ar-lein yn wag, neu lle mae’n rhaid i chi roi data er mwyn defnyddio’r system, rhowch ddata ffug.
  • Peidiwch â defnyddio eich cyfrinair system neu e-bost i fewngofnodi i system negeseuon uniongyrchol.
  • Nid yw negeseuon uniongyrchol wedi’u hamgryptio, felly peidiwch â’u defnyddio i drosglwyddo gwybodaeth fel rhifau cardiau credyd neu wybodaeth sensitif arall.
  • Dylech analluogi lawrlwythiadau awtomatig.
  • Dilyswch wybodaeth a gewch am negeseuon uniongyrchol mewn mannau eraill. Yn benodol, gwiriwch unrhyw ‘gyngor’ diogelwch a gewch.
  • Diweddarwch eich meddalwedd negeseuon uniongyrchol yn rheolaidd.
  • Peidiwch â gadael â’ch plant ddefnyddio ystafelloedd sgwrsio negeseuon uniongyrchol heb eu goruchwylio.

 

In Partnership With