English

Muriau Tân

Am fod y rhyngrwyd yn rhwydwaith gyhoeddus, gall unrhyw gyfrifiadur cysylltiedig ddod o hyd i unrhyw gyfrifiadur cysylltiedig arall a chysylltu ag ef. Rhwystr rhwng y rhyngrwyd â’ch cyfrifiadur neu rwydwaith eich hun yw wal dân. Meddyliwch amdani fel swyddog diogelwch pwrpasol iawn sy’n rhwystro unrhyw un rhag mynd i mewn i’ch cyfrifiadur os nad yw ar y rhestr gwesteion, ac yn rhwystro unrhyw un rhag gadael heb ganiatâd.

Mae wal dân yn eich diogelu rhag:
  • Hacwyr yn torri i mewn i’r cyfrifiadur.
  • Mwydod (worms) – mathau o feirysau sy’n lledaenu o gyfrifiadur i gyfrifiadur dros y rhyngrwyd.
  • Traffig allanol sy’n deillio o haint feirws.

Beth NAD yw wal dân yn ei wneud:

Nid yw wal dân yn ddigonol ynddi’i hun i sicrhau diogelwch, ond dyma’r llinell amddiffyniad gyntaf. Bydd hefyd angen i chi gymryd y camau amddiffynnol eraill a amlinellir ar y wefan hon. Fodd bynnag, dim ond diogelwch cyfyngedig os o gwbl y mae wal dân yn ei sicrhau yn erbyn y canlynol:

  • Os byddwch yn rhoi caniatâd i gyfrifiaduron eraill gysylltu â’ch un chi.
  • Os bydd wedi’i droi i ffwrdd, wedi’i analluogi neu’n cynnwys llawer o eithriadau neu byrth agored.
  • Y rhan fwyaf o feirysau.
  • Sbam.
  • Gosodiadau ysbïwedd.
  • Unrhyw fath o weithgarwch twyll neu droseddol ar-lein.
  • Os ydych chi neu feirws wedi creu drws cefn drwy’r wal dân.
  • Pobl sydd â mynediad ffisegol i’ch cyfrifiadur neu rwydwaith.
  • Data a gyflwynir i’r cyfrifiadur heblaw ar-lein, e.e. drwy ddyfeisiau USB cysylltiedig, CD/DVD ac ati.
  • Ymosodiadau ar ôl i rwydwaith gael ei beryglu.
  • Traffig sy’n ymddangos yn ddilys.

Fodd bynnag, nid oes yr un o’r pethau hyn yn rheswm dros BEIDIO â gosod wal dân, gan nad yw hyn ynddo’i hun y ddigon i sicrhau diogelwch llwyr.

Mae’n fwy diogel tybio NAD yw darparwr eich gwasanaeth rhyngrwyd yn darparu unrhyw fath o wal dân, felly gwnewch yn siŵr fod gennych y feddalwedd gywir i ddiogelu eich hun.

Mathau o waliau tân

Waliau tân personol

Dylid gosod waliau tân personol ar bob cyfrifiadur sydd wedi’i gysylltu â’r rhyngrwyd ac sy’n monitro (ac yn rhwystro, lle y bo angen) traffig rhyngrwyd. Weithiau, gelwir y rhain hefyd yn ‘waliau tân meddalwedd’ (‘software firewalls’) neu’n ‘waliau tân bwrdd gwaith’ (‘desktop firewalls’).

Wal dân bersonol sylfaenol yw Windows Firewall. Mae am ddim, ac mae wedi’i chynnwys gyda systemau gweithredu Windows. Yn Windows 8, Windows 7 a Vista, mae’r wal dân yn weithredol yn ddiofyn, felly does dim angen i chi boeni ynghylch ei ffurfweddu eich hun.

Os byddwch yn dymuno, gallech osod wal dân bersonol arall o’ch dewis yn lle Windows Firewall, yn cynnwys y math sydd wedi’i chynnwys mewn rhai pecynnau diogelwch ar y rhyngrwyd, neu feddalwedd wal dân annibynnol y gellir ei lawrlwytho o’r rhyngrwyd, y mae rhai ohonynt am ddim.

Waliau tân caledwedd

Efallai y bydd angen wal dân caledwedd ar fusnesau mawr a chanolig eu maint – yn ogystal â waliau tân personol – yn dibynnu ar ffurfweddiad eu hisadeiledd TG. Bydd eich adnodd cymorth TG mewnol neu allanol yn gallu argymell, cyrchu, gosod a ffurfweddu’r un sydd fwyaf addas ar gyfer eich anghenion busnes.

Gwnewch yn siŵr fod eich Windows Firewall wedi’i throi ymlaen

Yn Windows 8 a Windows 7, ewch i Control Panel, dewiswch System a Security, yna dewiswch Windows Firewall. Mae gweithrediad Windows Firewall wedi’i nodi o dan Home or work (private) networks.

 

In Partnership With