English

Meddalwedd Rheoli Rhieni

Yn ogystal ag ymgysylltu â’ch plentyn i’w addasu a’i dywys drwy fywyd digidol diogel – ac fel y gallwch ddeall y datblygiadau diweddaraf yn llawn – mae’n gwneud synnwyr i fanteisio ar yr hidlwyr a’r rheolyddion y gallwch eu defnyddio i leihau’r siawns y bydd yn dod ar draws cynnwys amhriodol neu dramgwyddus.

Fodd bynnag, cofiwch mai yno i helpu y mae rheolyddion i rieni, ac nad ydynt yn datrys y broblem. Nid ydynt yn ‘warchodwr plant’ ychwaith … mae angen i chi wybod beth mae eich plentyn yn ei wneud ar-lein.

Dyma’r gwahanol fathau o ragofalon y gallwch eu rhoi ar waith:

Rheolyddion Rhieni ar Eich Cyfrifiadur neu Ddyfais Symudol

Bron yn ddieithriad, mae cyfrifiaduron a dyfeisiau symudol a gaiff eu gwerthu i’w defnyddio gan y cyhoedd yn cynnwys rheolyddion yn ddiofyn gyda’r modd i chi, fel rhiant, hidlo’r cynnwys nad ydych am i’ch plentyn (neu unrhyw ddeiliad cyfrif arall o ran hynny) gael mynediad iddo. Gellir cael mynediad i’r cyfleusterau hyn drwy banel rheoli’r cyfrifiadur neu sgrin gosodiadau dyfeisiau eraill. Os nad ydych yn siŵr sut i gael mynediad i’r rhain a’u sefydlu, cyfeiriwch at yr help ar-lein neu gofynnwch i’ch manwerthwr.

Meddalwedd Rheolyddion i Rieni i’w Phrynu neu Lawrlwytho

Mae nifer fawr o frandiau a mathau gwahanol o feddalwedd rheolyddion i rieni ar gael ar gyfer cyfrifiaduron a dyfeisiau symudol.

Fel arfer, maent yn eich galluogi i hidlo cynnwys amhriodol fel deunydd pornograffig a threisgar, gan leihau’r siawns y caiff eich plentyn ei amlygu iddo. Bydd rhai yn eich galluogi i osod proffiliau gwahanol ar gyfer plant o oedran gwahanol a fydd yn defnyddio’r cyfrifiadur neu ddyfais arall.

Weithiau, gall yr hidlwyr hyn flocio gormod o ddeunydd neu ddim digon, felly efallai na fydd eich plentyn yn gallu cael mynediad i rai safleoedd hollol ddiniwed, neu weithiau, efallai y bydd yn gallu gweld tudalennau sy’n anaddas ar gyfer ei oedran. Bydd y rhan fwyaf yn caniatáu i chi flocio neu ddadflocio safleoedd penodol er mwyn rhoi mwy o reolaeth i chi.

Mae rhai mathau o feddalwedd rheolyddion i rieni yn caniatáu i chi fonitro gweithgarwch eich plentyn ar-lein, fel y gallwch weld pa wefannau y mae wedi bod yn edrych arnynt ac am ba hyd yr oedd ar-lein. Bydd rhai hyd yn oed yn rhoi adroddiadau i chi ar weithgarwch rhwydweithio cymdeithasol eich plentyn.

Bydd rhai rhaglenni yn eich galluogi i bennu cyfyngiadau amser ar weithgarwch ar-lein eich plentyn – drwy gyfyngu mynediad i’r rhyngrwyd, neu i wefannau penodol ar adegau gwahanol o’r dydd. Felly, gallech flocio safleoedd rhwydweithio cymdeithasol neu adloniant pan fydd eich plentyn i fod yn gwneud ei waith cartref.

Gallwch gael mynediad i’r feddalwedd drwy fewngofnodi unrhyw bryd er mwy addasu’r hidlwyr a blocio neu ddadflocio safleoedd, wrth i’ch plentyn fynd yn hŷn. Ac fel gyda phob math o feddalwedd, mae’n bwysig iawn ei diweddaru pan gewch hysbysiad.

Rheolyddion i Rieni gan Ddarparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd

Mae gan sawl darparwr gwasanaeth rhyngrwyd feddalwedd rheolyddion i rieni hefyd – sydd, fel y feddalwedd y gallwch ei phrynu, yn gallu blocio cynnwys tramgwyddus.

Yn y DU, mae cwsmeriaid y pedwar prif ddarparwr gwasanaeth rhyngrwyd – BT, Sky, Virgin Media a TalkTalk – yn gallu cael mynediad i’r cyfleuster hwn am ddim. Gofynnir i gwsmeriaid newydd p’un a ydynt am ei ddefnyddio ai peidio.

Mae’r rhwydweithiau symudol hefyd yn darparu meddalwedd rheolyddion i rieni am ddim. Gyda rhai, caiff hyn ei sefydlu yn ddiofyn. Os nad ydych yn siŵr ai dyna yw’r achos, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon eraill, cysylltwch â gweithredwr eich ffôn symudol i fod yn siŵr.

Fel arfer, mae dyfeisiau eraill sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd fel consolau gemau yn cynnwys meddalwedd rheolyddion i rieni y gallwch, fel rhiant, eu sefydlu a’u defnyddio.

Mae’r sianeli teledu ar wasanaethau ar alw fel BBC iPlayer, 4oD Player, ITV Player a Demand 5 i gyd yn cynnig cloeon i rieni a ddiogelir gan gyfrinair er mwyn eich helpu i ddiogelu eich plentyn rhag gweld rhaglenni sy’n addas ar gyfer ei grŵp oedran.

 

See Also...

In Partnership With