English

Mannau Cyhoeddus

Wrth ddefnyddio neu gario eich ffôn clyfar neu lechen mewn man cyhoeddus – boed hynny y tu allan neu mewn caffi, bwyty neu yn y swyddfa – gall fod nifer o risgiau os na fyddwch yn cymryd gofal priodol.

Y risgiau

  • Rhywun yn cael mynediad i’ch gweithgarwch ar-lein neu apiau sydd ar agor gennych os ydych yn defnyddio rhwydwaith di-wifr anghyfreithlon neu ffug.
  • Pobl yn cael mynediad i’ch dyfais drwy Bluetooth naill ai er mwyn anfon negeseuon testun digroeso atoch, manteisio ar eich rhestr cysylltiadau neu gael mynediad i orchmynion y ffôn.
  • Eich ffôn yn cael ei golli neu ei ddwyn – naill ai pan fyddwch yn ei adael heb neb i ofalu amdano neu pan fyddwch yn ei ddefnyddio neu’n ei gario.
  • ‘Syrffio dros ysgwydd’ – pobl yn edrych ar eich sgrin.

Diogelu eich hun

Defnyddio WiFi

Y brif risg diogelwch sy’n gysylltiedig â defnyddio eich dyfais eich hun mewn man cyhoeddus, yw nad yw’r WiFi yn ddiogel o bosibl, gan alluogi pobl heb awdurdod i ryng-gipio unrhyw beth y byddwch yn ei wneud ar-lein. Gallai hyn gynnwys cael gafael ar eich cyfrineiriau a darllen e-byst preifat. Gall hyn ddigwydd os nad yw’r cysylltiad rhwng eich dyfais a’r WiFi wedi’i amgryptio, neu os bydd rhywun yn creu llecyn ffug sy’n eich twyllo i feddwl ei fod yn un dilys.

Gyda chysylltiad wedi’i amgryptio, bydd angen i chi roi ‘allwedd’ a all edrych yn debyg i hyn: 1A648C9FE2.

Neu, efallai y byddwch yn cael eich annog i fewngofnodi er mwyn cael mynediad i’r rhyngrwyd. Bydd hyn yn dweud wrth y gweithredwr eich bod ar-lein yn eu gaffi, gwesty neu dafarn. Mae bron yn sicr na fydd unrhyw ddiogelwch drwy amgryptio.

  • Oni fyddwch yn defnyddio tudalen we ddiogel, peidiwch ag anfon na derbyn gwybodaeth breifat wrth ddefnyddio WiFi cyhoeddus.
  • Lle bynnag y bo’n bosibl, defnyddiwch ddarparwyr llecynnau WiFi masnachol, adnabyddus fel BT OpenZone neu EE.
  • Dylai pobl fusnes sydd am gael mynediad i’w rhwydwaith corfforaethol ddefnyddio Rhwydwaith Preifat Rhithwir (VPN) diogel, wedi’i amgryptio.

Bluetooth

  • Gwnewch yn siŵr fod eich Bluetooth wedi’i droi i ffwrdd pan nad oes angen i chi ei ddefnyddio.
  • Os ydych yn defnyddio Bluetooth, gwnewch yn siŵr na chaiff eich dyfeisiau eu gadael mewn modd y gellir eu canfod.
  • Peidiwch â pharu dyfeisiau yn gyhoeddus rhag ofn y bydd rhywun yn eich sganio chi tra byddwch yn creu’r cysylltiad.
  • Os yw’n bosibl, cyfyngwch fynediad i ddyfeisiau hysbys, wedi’u paru.
  • Peidiwch â derbyn ffeiliau wedi’u trosglwyddo drwy Bluetooth o ffynonellau anhysbys neu amheus.

Cyngor arall

  • Peidiwch byth â gadael eich ffôn clyfar neu’ch llechen heb neb i gadw llygad arno/arni.
  • Byddwch yn ymwybodol o bwy sydd o’ch amgylch ac a all fod yn gwylio beth rydych yn ei wneud ar-lein. Dylech ystyried defnyddio hidlydd preifatrwydd sy’n atal pobl sy’n eistedd bob ochr i chi rhag gweld eich sgrin. Mae’r cynnyrch 3M yn enghraifft o hyn, ac mae’r manylion i’w gweld yma.
  • Peidiwch â gadael i rywun a allai ddwyn eich dyfais dynnu eich sylw.
  • Peidiwch â gadael eich dyfais yn y golwg pan na fyddwch yn ei defnyddio, hyd yn oed os yw ar eich sedd neu fwrdd.
  • Lle bynnag y bo’n bosibl, peidiwch â defnyddio eich dyfais na’i gadael yn y golwg wrth gerdded o amgylch, oherwydd bydd hyn yn cynyddu’r siawns y caiff ei dwyn a bod eich diogelwch personol mewn perygl.
  • Cofiwch fod llawer o apiau wedi’u cysylltu â’r rhyngrwyd yn y cefndir felly dylech edrych ar eich gosodiadau er mwyn bod yn siŵr pa wybodaeth sy’n cael ei hanfon.

In Partnership With