English

Llwytho a rhannu ffeiliau

Mae lawrlwytho cynnwys dros y rhyngrwyd yn ffordd wych o fwynhau cerddoriaeth, fideos, gemau ac adloniant arall. Mae lawrlwytho hefyd yn ffordd gyfleus iawn o gael gwybodaeth ar ffurf dogfennau Word, PDFs, ffotograffau a ffeiliau eraill. Hefyd, caiff y rhan fwyaf o feddalwedd a diweddariadau cyfnodol eu lawrlwytho o’r rhyngrwyd bellach.

Ni ddylid drysu lawrlwytho â ffrydio, sef lle caiff fideos, cerddoriaeth neu synau eu hanfon dros y rhyngrwyd i chi eu gwylio neu wrando arnynt mewn amser real, yn hytrach na gallu cael eu cadw ar eich cyfrifiadur i’w defnyddio yn ddiweddarach.

Y risgiau

  • Gadael feirysau i mewn i’ch cyfrifiadur yn anfwriadol – o wefannau a rhaglenni rhannu ffeiliau rhwng cymheiriaid.
  • Gosod meddalwedd hysbysebu (adware) yn anfwriadol sy’n galluogi hysbysebion naid plagus.
  • Gosod ysbïwedd sy’n galluogi troseddwyr i gael gwybodaeth breifat er mwyn cael mantais ariannol neu er mwyn dwyn hunaniaeth.
  • Bod eich wal dân yn cael ei thorri, yn enwedig wrth ddefnyddio rhaglenni rhannu ffeiliau rhwng cymheiriaid.
  • Lawrlwytho deunydd ymosodol/anghyfreithlon neu feirysau sy’n edrych fel rhywbeth arall.
  • Torri hawlfraint. Er y gallai lawrlwytho cerddoriaeth, fideos a meddalwedd am ddim eich temptio, mae’n anghyfreithlon atgynhyrchu deunydd sydd dan hawlfraint.

Lawrlwytho yn Ddiogel

  • Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg cyn i chi ddechrau lawrlwytho.
  • Byddwch yn ofalus iawn wrth lawrlwytho ffeiliau gweithredadwy (.exe). Defnyddir y ffeiliau hyn gan raglenni i redeg ar eich cyfrifiadur. Fodd bynnag, cânt eu defnyddio hefyd mewn feirysau.
  • Defnyddiwch wefannau lawrlwytho dibynadwy yn hytrach na systemau rhwng cymheiriaid er mwyn caffael rhaglenni.
  • Byddwch yn wyliadwrus ynghylch lawrlwytho unrhyw beth, oherwydd y gall pobl alw eu ffeiliau yn unrhyw beth y mynnont. Gallai rhywbeth sy’n ymddangos fel clip o ffilm wyddonias newydd fod yn bornograffi caled neu’n ffeil sydd wedi’i heintio gan feirws mewn gwirionedd.
  • Dim ond o safleoedd sy’n codi tâl arnoch fel iTunes, Napster neu wefannau manwerthwyr dibynadwy y dylech lawrlwytho cerddoriaeth.

Rhannu Ffeiliau yn Ddiogel rhwng Cymheiriaid

  • Os bydd yn rhaid i chi ddefnyddio meddalwedd rhannu ffeiliau, gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis meddalwedd diogel, yn ei gosod yn ddiogel a’i defnyddio’n briodol.
  • Dim ond pan fydd gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg y dylech osod rhaglenni rhannu ffeiliau.
  • Dylech ystyried talu am fersiwn bremiwm na chaiff ei hariannu gan hysbysebion, er mwyn lleihau’r risg y caiff meddalwedd hysbysebu ei gosod.
  • Dim ond o wefannau gweithgynhyrchwyr neu adwerthwyr awdurdodedig y dylech lawrlwytho meddalwedd.
  • Peidiwch â gadael i bobl bori eich ffeiliau yn uniongyrchol, a ffurfweddwch y rhaglen yn ofalus fel mai dim ond y ffeiliau rydych am eu rhannu y byddwch yn eu rhannu, gan gadw gweddill eich ffeiliau a’ch gwybodaeth bersonol yn breifat. Mae hyn yn osgoi rhannu eich negeseuon e-bost, ffotograffau, gwybodaeth ariannol neu ffeiliau gwaith â dieithriaid llwyr.
  • Peidiwch â rhannu deunydd sydd dan hawlfraint.

Ceir rhagor o wybodaeth am ddwyn hawlfraint yn y canlynol:

FAST: Y Ffederasiwn yn Erbyn Dwyn Meddalwedd.

FACT: Y Ffederasiwn yn Erbyn Dwyn Hawlfraint.

IFPI: Ffederasiwn Ryngwladol y Diwydiant Ffonograffig.

See Also...

In Partnership With