English

Hapchwarae

Gall gemau ar-lein fod yn llawer o hwyl i blant, ond mae sawl risg ynghlwm wrthynt, y gallwch eu lleihau gyda’r dull gweithredu cywir.

– mae 51% yn poeni am ddiogelwch eu plant
– mae 37% yn teimlo nad oes ganddynt reolaeth dros weithgarwch chwarae gemau eu plant
– mae 24% yn anymwybodol o’r risgiau diogelwch i’w plant yn sgil chwarae gemau ar-lein
– mae 25% yn gwybod bod eu plant wedi datgelu gwybodaeth bersonol wrth chwarae gemau ar-lein
– mae 34% yn dweud bod eu plant wedi siarad â rhywun nad oeddent yn ei adnabod wrth chwarae gemau ar-lein
– mae 16% yn dweud bod eu plentyn wedi cael ei fwlio neu ei gam-drin yn eiriol

Y risgiau

Mae’r risgiau yn deillio’n bennaf o’r nifer fawr o bobl yn y DU a thramor sydd hefyd yn chwarae, y cyfyngiadau gofynnol dan sylw a’r ffaith nad ydynt wyneb yn wyneb. Oherwydd hyn, ni all eich plentyn fod yn siŵr gyda phwy y mae’n chwarae ac yn sgwrsio … na beth yw ei gymhellion. Yn anffodus, mae achosion o ddieithriaid yn camfanteisio drwy gymhellion rhywiol, camdriniol, twyllodrus neu droseddol eraill yn dod yn fwyfwy cyffredin. Mae’r risgiau yn cynyddu wrth i fwy a mwy o gemau gael eu chwarae ar ddyfeisiau symudol yn hytrach nag ar ‘gyfrifiadur y teulu’, gan roi llai o gyfle i chi gadw llygad ar beth mae eich plant yn ei wneud ar-lein.

Ymysg y risgiau eraill mae:

  • Bod eich plentyn yn chwarae gemau sydd â chyfradd oedran amhriodol.
  • Bod eich plentyn yn creu biliau ar eich cerdyn credyd – os yw’n gallu cael gafael arno.
  • Bod eich plentyn yn treulio oriau ar y tro yn chwarae gemau ar-lein yn lle gwneud ymarfer corff, cymdeithasu a gwneud gwaith ysgol.

Sicrhau bod eich plentyn yn chwarae gemau ar-lein yn ddiogel

  • Ceisiwch gael sgyrsiau agored a gonest gyda’ch plant am chwarae gemau ar-lein a’r risgiau dan sylw.
  • Addysgwch eich plant am beryglon datgelu gwybodaeth breifat fel eu cyfeiriad e-bost, cyfeiriad y cartref, aelodau’r teulu neu fanylion ariannol.
  • Eglurwch nad yw pawb yr hyn maen nhw’n ymddangos neu’n honni i fod, ac y gall eu cymhellion fod yn anonest.
  • Dywedwch wrth eich plant i beidio ag ymateb i fwlio neu gamdriniaeth arall, ac y dylent roi gwybod i chi ar unwaith.
  • Ymunwch â’ch plentyn i chwarae gemau ar-lein o bryd i’w gilydd ac ar hap. Bydd hyn yn rhoi syniad i chi o’r gemau maent yn eu chwarae a phwy maent yn cysylltu â nhw.
  • Gosodwch gyfyngiadau ar gyfer faint o amser bob diwrnod neu bob wythnos y mae eich plant yn ei dreulio yn chwarae gemau ar-lein.
  • Edrychwch ar gyfradd oedran gemau er mwyn gwneud yn siŵr nad yw eich plant yn cael gafael ar gynnwys amhriodol. Mae’n 18 am reswm!
  • Peidiwch byth â rhoi manylion eich cerdyn talu i’ch plentyn oherwydd gall nodweddion ychwanegol fod yn gostus iawn.

Ceir canllawiau i rieni ar gemau fideo a chyfraddau PEGI (Gwybodaeth am Gemau Ledled Ewrop) yn https://www.youtube.com/playlist?list=PL02RKkMS5T4ijPfE7bW1KRWXT3jJW6TTw

Ceir atebion i gwestiynau cyffredin sydd gan rieni a chwaraewyr am gyfradd oedran gemau fideo a chyngor ar sut i chwarae gemau yn gyfrifol yn http://askaboutgames.com

*Arolwg OnePoll a gynhaliwyd ar gyfer Get Safe Online dros saith diwrnod ym mis Mehefin 2015, gan gyfweld â 2,000 o rieni plant 5-18 oed

Rhagor o Wybodaeth

Canllaw i rieni er mwyn cadw plant yn ddiogel wrth chwarae gemau ar-lein:http://www.everybodyplays.co.uk/parents-guide-to-games 

 

 

 

 

See Also...

In Partnership With